Uniadu deunyddiau mewn modd mecanyddol ar rwydweithiau dŵr

URN: EUSWNC4
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydweithiau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2023

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud ag uniadu deunyddiau drwy ddulliau mecanyddol ar rwydweithiau dŵr. Gellir uniadu deunyddiau metelig, deunyddiau polyethylen (PE), ar gyfer trawsnewid rhwng deunyddiau metelig a pholyethylen (PE) neu lle defnyddir cypliadau llawn hylif.
Mae hyn yn cynnwys adeiladu a lleoli pibelli a ffitiadau, gan ddefnyddio technegau uniadu mecanyddol, rhoi cydrannau'n sownd a chadarnhau bod y gwaith gorffenedig yn cydymffurfio â chodau ymarfer a manylebau.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un yn y maes adeiladu rhwydweithiau dŵr sy'n gwneud gwaith uniadu mecanyddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio yn unol â rheoliadau a chanllawiau iechyd, diogelwch, yr amgylchedd, ansawdd dŵr a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill bob amser
  2. cynnal ac adolygu asesiadau risg penodol i safle yn unol â
    gweithdrefnau’r cwmni
  3. dewis a gwisgo’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd ei angen
  4. nodi gofynion gwaith o ddatganiadau dull perthnasol a chyfarwyddiadau gwaith
  5. gwirio unrhyw wybodaeth sy’n ymddangos yn anghywir gyda’r bobl briodol
  6. gwneud yn siŵr bod offer uniadu a chyfarpar a deunyddiau traul cysylltiedig yn cael eu cymeradwyo i’w gosod mewn rhwydweithiau dŵr a’u bod yn addas i’r diben
  7. defnyddio technegau uniadu mecanyddol sy’n briodol ar gyfer y deunyddiau sy’n cael eu huno
  8. gwneud gwaith uniadu yn unol â manylebau gweithredwyr rhwydwaith a gweithdrefnau’r diwydiant
  9. sicrhau cydrannau gan ddefnyddio cysylltwyr a dyfeisiau diogelu yn unol â manylebau cydrannau a chyfarwyddiadau gweithio
  10. gwneud yn siŵr bod y pibellau a’r ffitiadau sydd wedi’u cydosod yn gyflawn ac yn bodloni eu gofynion gweithredu
  11. delio â deunyddiau dros ben a gwastraff ac atodiadau dros dro yn ddi-oed yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  12. cofnodi a storio data a gwybodaeth berthnasol mewn systemau gwybodaeth sefydliadol
  13. datrys problemau o fewn terfynau eich cyfrifoldeb
  14. rhoi gwybod i'r bobl briodol am broblemau na allwch eu datrys

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deddfwriaeth iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a deddfwriaeth berthnasol arall, gweithdrefnau sefydliadol a chodau ymarfer gan gynnwys codi a chario, defnyddio cyfarpar, deunyddiau peryglus, gweithio mewn cloddiadau, asesiadau risg, gweithio ar eich pen eich hun, damweiniau a chyfarpar diogelu personol
  2. rheoliadau dŵr a gweithdrefnau hylendid sy’n ymwneud â sicrhau cyfanrwydd ac effeithiolrwydd cyflenwadau dŵr, gan gynnwys pwysigrwydd hylendid personol
  3. ystod a defnydd cyfarpar diogelu personol ar gyfer eich gwaith
  4. yr angen am archwiliadau hylendid ac iechyd i ddiogelu ansawdd dŵr a chynnal iechyd y cyhoedd
  5. sut mae darllen a dehongli manylebau dylunio ac adeiladu, lluniadau adeiladu a manylebau perthnasol eraill
  6. dulliau a thechnegau ar gyfer cydosod ac uniadu cydrannau drwy ddulliau mecanyddol yn unol â safonau’r diwydiant
  7. pwrpas gweithdrefnau rheoli ansawdd a sut i’w darllen a’u
    dehongli
  8. sut mae dewis technegau paratoi ar gyfer gweithgareddau uniadu mecanyddol
  9. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar trin sy’n ofynnol ar gyfer uniadu mecanyddol
  10. pwysigrwydd gofalu am offer a chyfarpar a sut i wneud hynny
  11. dulliau cydosod, technegau a dulliau rheoli gan gynnwys torri, edafu, ac uniadu mecanyddol ar ddeunyddiau metelig a defnyddio blociau gwthio
  12. defnyddio ffitiadau mecanyddol ar gyfer uniadu trawsnewid rhwng metelig a pholyethylen (PE)
  13. gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer delio â phroblemau a rhoi gwybod amdanynt
  14. systemau storio gwybodaeth a data

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSWNC4

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu Rhwydwaith Dŵr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

uniadu, mecanyddol, cyfleustod, cyfleustodau, adeiladu rhwydwaith, dŵr, hunan-osod, uniadu