Uniadu deunyddiau mewn modd mecanyddol ar rwydweithiau dŵr
URN: EUSWNC4
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydweithiau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2023
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag uniadu deunyddiau drwy ddulliau mecanyddol ar rwydweithiau dŵr. Gellir uniadu deunyddiau metelig, deunyddiau polyethylen (PE), ar gyfer trawsnewid rhwng deunyddiau metelig a pholyethylen (PE) neu lle defnyddir cypliadau llawn hylif.
Mae hyn yn cynnwys adeiladu a lleoli pibelli a ffitiadau, gan ddefnyddio technegau uniadu mecanyddol, rhoi cydrannau'n sownd a chadarnhau bod y gwaith gorffenedig yn cydymffurfio â chodau ymarfer a manylebau.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un yn y maes adeiladu rhwydweithiau dŵr sy'n gwneud gwaith uniadu mecanyddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio yn unol â rheoliadau a chanllawiau iechyd, diogelwch, yr amgylchedd, ansawdd dŵr a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill bob amser
- cynnal ac adolygu asesiadau risg penodol i safle yn unol â
gweithdrefnau’r cwmni - dewis a gwisgo’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd ei angen
- nodi gofynion gwaith o ddatganiadau dull perthnasol a chyfarwyddiadau gwaith
- gwirio unrhyw wybodaeth sy’n ymddangos yn anghywir gyda’r bobl briodol
- gwneud yn siŵr bod offer uniadu a chyfarpar a deunyddiau traul cysylltiedig yn cael eu cymeradwyo i’w gosod mewn rhwydweithiau dŵr a’u bod yn addas i’r diben
- defnyddio technegau uniadu mecanyddol sy’n briodol ar gyfer y deunyddiau sy’n cael eu huno
- gwneud gwaith uniadu yn unol â manylebau gweithredwyr rhwydwaith a gweithdrefnau’r diwydiant
- sicrhau cydrannau gan ddefnyddio cysylltwyr a dyfeisiau diogelu yn unol â manylebau cydrannau a chyfarwyddiadau gweithio
- gwneud yn siŵr bod y pibellau a’r ffitiadau sydd wedi’u cydosod yn gyflawn ac yn bodloni eu gofynion gweithredu
- delio â deunyddiau dros ben a gwastraff ac atodiadau dros dro yn ddi-oed yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cofnodi a storio data a gwybodaeth berthnasol mewn systemau gwybodaeth sefydliadol
- datrys problemau o fewn terfynau eich cyfrifoldeb
- rhoi gwybod i'r bobl briodol am broblemau na allwch eu datrys
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a deddfwriaeth berthnasol arall, gweithdrefnau sefydliadol a chodau ymarfer gan gynnwys codi a chario, defnyddio cyfarpar, deunyddiau peryglus, gweithio mewn cloddiadau, asesiadau risg, gweithio ar eich pen eich hun, damweiniau a chyfarpar diogelu personol
- rheoliadau dŵr a gweithdrefnau hylendid sy’n ymwneud â sicrhau cyfanrwydd ac effeithiolrwydd cyflenwadau dŵr, gan gynnwys pwysigrwydd hylendid personol
- ystod a defnydd cyfarpar diogelu personol ar gyfer eich gwaith
- yr angen am archwiliadau hylendid ac iechyd i ddiogelu ansawdd dŵr a chynnal iechyd y cyhoedd
- sut mae darllen a dehongli manylebau dylunio ac adeiladu, lluniadau adeiladu a manylebau perthnasol eraill
- dulliau a thechnegau ar gyfer cydosod ac uniadu cydrannau drwy ddulliau mecanyddol yn unol â safonau’r diwydiant
- pwrpas gweithdrefnau rheoli ansawdd a sut i’w darllen a’u
dehongli - sut mae dewis technegau paratoi ar gyfer gweithgareddau uniadu mecanyddol
- yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar trin sy’n ofynnol ar gyfer uniadu mecanyddol
- pwysigrwydd gofalu am offer a chyfarpar a sut i wneud hynny
- dulliau cydosod, technegau a dulliau rheoli gan gynnwys torri, edafu, ac uniadu mecanyddol ar ddeunyddiau metelig a defnyddio blociau gwthio
- defnyddio ffitiadau mecanyddol ar gyfer uniadu trawsnewid rhwng metelig a pholyethylen (PE)
- gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer delio â phroblemau a rhoi gwybod amdanynt
- systemau storio gwybodaeth a data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSWNC4
Galwedigaethau Perthnasol
Adeiladu Rhwydwaith Dŵr
Cod SOC
Geiriau Allweddol
uniadu, mecanyddol, cyfleustod, cyfleustodau, adeiladu rhwydwaith, dŵr, hunan-osod, uniadu