Monitro gweithgareddau gwaith ar gyfer gweithrediadau adeiladu rhwydwaith LEGACY
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â monitro gweithgareddau gwaith ar gyfer gweithrediadau adeiladu rhwydwaith Mae'r gweithgareddau yn gallu cynnwys, ymysg pethau eraill, cloddiadau, adeiladu, gosod, uniadu, ail bennu parthau, glanhau prif bibelli, gwneud cysylltiadau, trwsio a chynnal a chadw. Gallai hyn fod ar gyfer gwaith sy'n cael ei wneud gennych chi neu gan bobl eraill.
Mae hyn yn golygu sicrhau bod yr amodau'n addas, bod dulliau a gweithdrefnau priodol yn cael eu rhoi ar waith a bod yr allbynnau'n ateb y gofynion. Mae'n cynnwys rheoli adnoddau, rhoi cyfarwyddiadau, monitro cynnydd, canfod amrywiadau neu broblemau a'u datrys o fewn terfynau eich awdurdod.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr sy'n monitro gweithgareddau gwaith ar gyfer gweithrediadau adeiladu rhwydwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu gwneud pan fo'r amodau'n addas
2. darparu gwybodaeth glir a chywir ynglŷn â dulliau, prosesau a gweithdrefnau i bob unigolyn a sefydliad perthnasol
3. cadarnhau bod yr offer, deunyddiau a chynnyrch sydd ar gael yn cydymffurfio â'r gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
4. sicrhau bod dulliau a phrosesau priodol yn cael eu defnyddio bob amser
5. sicrhau bod deunyddiau, offer a gwaith sydd ar y gweill yn cael eu diogelu rhag difrod a llygredd amgylcheddol yn unol â'r manylebau technegol
6. cadarnhau bod arferion gweithio diogel yn cael eu dilyn yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
7. sicrhau bod gwaith sydd wedi'i gwblhau yn cydymffurfio â'r gweithdrefnau cymeradwy a gofynion rheoliadol
8. monitro cynnydd gweithgareddau mewn perthynas â chynlluniau ac amserlenni a hynny'n barhaus
9. canfod a datrys problemau o fewn eich maes cyfrifoldeb yn ddi-oed
10. gweld cyfleoedd i newid dulliau a gweithdrefnau a fydd yn gwella canlyniadau
11. argymell gwelliannau o ran dulliau a gweithdrefnau i'r bobl briodol ar amser priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. deddfwriaeth, gweithdrefnau a chodau ymarfer ar eich cyfer chi a phobl eraill yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a'r amgylchedd gan gynnwys codi a chario, defnyddio offer, deunyddiau peryglus, gweithio mewn cloddiadau, mannau cyfyng, asesiadau risg, damweiniau, argyfyngau a chyfarpar diogelu personol
2. gofynion rheoliadol y diwydiant mewn perthynas â gweithgareddau gwaith gan gynnwys parhad y cyflenwad ac ansawdd y dŵr
3. deddfwriaeth, gweithdrefnau, canllawiau, dulliau a phrosesau yn ymwneud â'r gweithgareddau gwaith rydych chi'n eu monitro
4. gofynion sefydliadol ar gyfer y gweithgareddau gwaith rydych chi'n eu monitro
5. arferion gweithio diogel penodedig ar gyfer y safle a'r gweithgareddau gwaith cysylltiedig
6. lleoliadau a marcio'r gwahanol fathau o gyfarpar cyfleustodau rydych yn debygol o ddod ar eu traws
7. amodau addas ac anaddas ar gyfer y dulliau a'r gweithdrefnau gweithgareddau gwaith sydd i'w cynnal
8. goblygiadau a chyfyngiadau gan gynnwys ystyriaethau cwsmeriaid, cynllun, ystod, lleoliad, amser, hyd, amser cwblhau disgwyliedig, argaeledd adnoddau, effaith y tywydd neu amodau tymhorol
9. deunyddiau, offer a chynnyrch cymeradwy gan gynnwys cerbydau, offer, offer a pheiriannau ategol, falfiau, ffitiadau, pibelli a deunyddiau traul, offer iechyd, diogelwch a diogelu’r amgylchedd
10. prosesau i ddiogelu pobl rhag gweithgareddau a deunyddiau peryglus
11. gofynion o ran adnoddau gan gynnwys peiriannau, offer, llafur
12. argaeledd ac addasrwydd adnoddau
13. sut i fonitro gweithgareddau ac allbynnau gwaith
14.newidiadau posib i'r cynllun a'r amserlen a sut i'w datrys
15.y mathau o broblemau allai godi a pham ei bod yn bwysig eu datrys yn gyflym
16. gweithdrefnau ar gyfer cyfathrebu gyda goruchwylwyr, contractwyr, gweithwyr rhwydwaith, cydweithwyr, cyrff statudol
17. gofynion storio a gwaredu o ran offer a deunyddiau cysylltiedig