Adfer asedau rhwydwaith dŵr i gyflwr gweithredol

URN: EUSWNC3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydweithiau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2025

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adfer asedau rhwydwaith dŵr i gyflwr gweithredol. Mae hyn yn cynnwys trwsio a newid hydoedd byr o'r brif bibell a gosod ffitiadau mecanyddol allanol dros dro neu yn barhaol ar brif bibelli neu wasanaethau.
Mae hyn yn cynnwys paratoi i adfer cydrannau, gwneud gwaith atgyweirio neu adnewyddu o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt, defnyddio deunyddiau cymeradwy a gweithio’n unol â gweithdrefnau’r cwmni.
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr rhwydweithiau dŵr sy'n adfer asedau rhwydwaith dŵr i gyflwr gweithredol drwy wneud atgyweiriadau neu adnewyddu asedau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio yn unol â rheoliadau a chanllawiau iechyd, diogelwch, yr amgylchedd, ansawdd dŵr a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill bob amser
  2. sicrhau y byddwch yn cyfathrebu â defnyddwyr yn ystod camau perthnasol y broses
  3. cynnal asesiadau risg sy’n benodol i’r safle, ac adolygu yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
  4. dewis a gwisgo’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd ei angen
  5. atgyweirio neu newid asedau yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a chyfarwyddiadau gwaith ac yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnynt
  6. paratoi asedau ar gyfer eu trwsio neu eu hadnewyddu
  7. defnyddio dulliau uniadu sy’n addas ar gyfer deunyddiau ac asedau
  8. defnyddio deunyddiau ac asedau cymeradwy ar gyfer gwaith atgyweirio neu newid
  9. gwneud yn siŵr bod asedau sydd wedi’u hatgyweirio neu eu hadnewyddu yn bodloni paramedrau ac amodau gweithredu penodol
  10. gwneud yr holl waith yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
  11. cofnodi gwybodaeth am achos, tir ac amodau asedau posibl a gwaith a wneir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  12. delio â phroblemau o fewn eich rheolaeth
  13. cyfeirio problemau a chyflyrau sydd y tu hwnt i'ch cyfrifoldeb neu nad oes modd i chi eu datrys at y bobl briodol
  14. delio ag unrhyw argyfyngau a allai godi yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. iechyd, diogelwch a'r amgylchedd perthnasol a deddfwriaethau, gweithdrefnau a chodau ymarfer perthnasol eraill
  2. rheoliadau dŵr a gweithdrefnau hylendid sy’n ymwneud â sicrhau cyfanrwydd ac effeithiolrwydd cyflenwadau dŵr, gan gynnwys pwysigrwydd hylendid personol
  3. gweithdrefnau ar gyfer hysbysu defnyddwyr, rhybuddion a rhoi gwybod iddynt am ailgysylltu
  4. sut mae dehongli datganiadau dull, cyfarwyddiadau gwaith, lluniadau, cynlluniau, dyluniad cwmni dŵr a manylebau adeiladu a manylebau eraill
  5. yr asedau sy’n cael eu defnyddio ar y rhwydwaith dŵr
  6. y gwahanol ddulliau uniadu a phryd mae'n briodol eu defnyddio
  7. sut i drwsio uniadau, craciau a thoriadau llorweddol a chylcheddol, cyrydiad a difrod oherwydd ymyrraeth a phryd mae angen newid
  8. sut mae nodi’r mathau o bibellau y gellir dod ar eu traws, eu nodweddion a sut mae gweithio gyda nhw gan gynnwys polyethylen (PE), pibellau haearn bwrw, haearn hydwyth, dur, Polyfinyl Clorid (PVC), sment asbestos a phibellau rhwystr.
  9. technegau i atgyweirio asedau
  10. dulliau o ddisodli asedau ar gyfer prif bibellau a gwasanaethau
  11. y mathau o offer a chyfarpar a ddefnyddir i adfer asedau i'w cyflwr gweithredu
  12. gweithdrefnau sefydliadol i'w defnyddio i sicrhau cydymffurfiad â rheoliadau hylendid
  13. y mathau o wybodaeth am waith atgyweirio ac adnewyddu sydd ei hangen ar gyfer rheoli asedau'n barhaus
  14. gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer delio â phroblemau ac argyfyngau a rhoi gwybod amdanynt
  15. dogfennau a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer cofnodi gwybodaeth am adfer asedau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSWNC3

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu Rhwydwaith Dŵr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

dŵr, rhwydwaith, adeiladu, pibellau, deunyddiau, hunan-osod, cyfleustodau, storio, peiriannau, asedau