Goruchwylio gweithrediadau adeiladu rhwydwaith ar draws mwy nag un safle LEGACY

URN: EUSWNC2L
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â goruchwylio gweithrediadau adeiladu rhwydwaith ar draws mwy nag un safle. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer un cyfleustod neu mewn amgylchedd sydd â mwy nag un cyfleustod.
 
Mae'n golygu cydlynu gweithgareddau a'r defnydd o adnoddau ar draws safleoedd, gwirio'r gwaith yn erbyn manylebau technegol, cynlluniau ac amserlenni, cyfathrebu gyda chleientiaid, gwneud newidiadau i ddulliau ac amserlenni gwaith, sicrhau nad yw'r gwaith yn difrodi'r amgylchedd yn ormodol a bod safleoedd gwaith yn cael eu hadfer i'w cyflwr blaenorol.
 
Mae'r Safon hon ar gyfer goruchwylwyr adeiladu rhwydwaith sy'n gweithio ar draws mwy nag un safle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau bod y safonau a'r manylebau dan sylw ar gyfer gweithgareddau gwaith yn cyrraedd gofynion y sefydliad

2. sicrhau bod yr offer a'r deunyddiau sydd eu hangen i gwblhau'r gweithgareddau gwaith yn cyrraedd y manylebau technegol ar gyfer y pwrpas a'r swyddogaeth dan sylw
3. monitro'r cyflenwad a'r defnydd o offer, deunyddiau a phobl ar draws safleoedd fel eu bod ar gael pan mae eu hangen yn yr amserlenni gwaith
4. monitro gweithgareddau ar draws y gwahanol safleoedd pan fo'n briodol gwneud hynny
5. sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud a'i gwblhau yn unol â gofynion rheoliadol a chodau ymarfer iechyd a diogelwch a'r diwydiant 
6. cadarnhau bod gweithgareddau gwaith sydd wedi'u cwblhau yn cyrraedd gofynion y manylebau technegol 
7. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i ganfod unrhyw wahaniaethau rhwng y gwaith ar wahanol safleoedd a'r cynlluniau a'r amserlenni y cytunwyd arnynt
8. casglu gwybodaeth gan bobl briodol am gyfleoedd i wella canlyniadau drwy addasu dulliau a gweithdrefnau gweithio
9. ysgogi newidiadau i ddulliau, gweithdrefnau ac amserlenni gwaith sydd wedi cael eu hawdurdodi gan y bobl briodol
10. sicrhau bod y gwaith ar y safleoedd yn cael ei wneud mewn modd sydd ddim yn difrodi'r amgylchedd yn ormodol yn unol â'r gofynion amgylcheddol
11. sicrhau bod safleoedd gwaith yn cael eu hadfer i'w cyflwr blaenorol ar ôl i'r gwaith ddod i ben yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
12. datrys problemau'n ymwneud â diffygion neu amrywiadau i'r amserlen o fewn terfynau eich cyfrifoldeb
13. cyfeirio problemau nad oes modd i chi eu datrys i'r bobl briodol
14. cadw cofnodion a dogfennau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. rheoliadau perthnasol o ran iechyd a diogelwch yn y gwaith

  2. rheoliadau amgylcheddol perthnasol 

  3. safonau perthnasol y sector a'r diwydiant a chodau ymarfer deddfwriaethol a rheoleiddiol cenedlaethol 
    4. systemau a gweithdrefnau cyfathrebu, dogfennu a hysbysu'r sefydliad
  4. polisïau, gweithdrefnau a phrosesau perthnasol y sefydliad o ran gweithio a gweithredu
  5. y cylch gwaith cyfan o'r dechrau i'r diwedd
  6. ffynonellau gwybodaeth am y gweithgareddau gwaith sy'n cael eu gwneud
    8. effeithiau posib gweithgareddau gwaith ar y rhwydwaith ehangach a'r gweithgareddau gwaith sydd y tu allan i ffiniau amserlenni gwaith rhagnodedig a phenodedig
  7. y berthynas rhwng y gwaith ar wahanol safleoedd rydych chi'n gyfrifol amdanynt
    10. manteision ac anfanteision cydlynu adnoddau cyffredin ar draws mwy nag un safle
  8. technegau rheoli adnoddau
  9. cynlluniau wrth gefn.
  10. sut i adnabod ac ymateb i'r risgiau posib i iechyd a diogelwch allai ddigwydd yn yr amgylchedd gwaith
  11. sut y gall newidiadau i arferion gwaith leihau'r perygl o ran iechyd a diogelwch i chi eich hun ac i bobl eraill
  12. pryd y mae hi'n briodol dechrau gweithgareddau gwaith sydd y tu allan i'r manylebau technegol dan sylw neu'r arferion gwaith cydnabyddedig
  13. yr amodau bod angen dychwelyd safleoedd gwaith i linellau adrodd
  14. pryd i roi gwybod i, a gofyn am ganiatâd gan, bobl eraill 
  15. gweithdrefnau ar gyfer cyfathrebu gyda goruchwylwyr, cwsmeriaid, cleientiaid, contractwyr, gweithwyr rhwydwaith, cydweithwyr, cyrff statudol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

MUNC23

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr, Peiranneg, Goruchwyliwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr

Cod SOC

5314

Geiriau Allweddol

profi, deddf gwaith stryd, uniadu, ymasiad, weldio