Cydosod pibellau a ffitiadau ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith dŵr
URN: EUSWNC2
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydweithiau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Mai 2023
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chydosod pibellau a ffitiadau ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith dŵr. Gall hyn gynnwys amrywiaeth o ddulliau a thechnegau cydosod a ddefnyddir ar gyfer deunyddiau metelig, polyethylen (PE), pibellau rhwystr neu ffitiadau. Gall hyn fod yn berthnasol i bibellau ag unrhyw ddiamedr.
Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu cydosodiadau a’u diogelu yn unol â safonau a manylebau’r diwydiant yn unol â chyfarwyddiadau’r gwaith.
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr rhwydweithiau dŵr sy'n cydosod pibellau a ffitiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio yn unol â rheoliadau a chanllawiau iechyd, diogelwch, yr amgylchedd, ansawdd dŵr a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill bob amser
- cydosod pibellau a ffitiadau yn unol â chyfarwyddiadau gwaith, lluniadau cydosod ac unrhyw fanylebau perthnasol eraill
- gwneud yn siŵr bod pibellau a ffitiadau penodol ar gael ac mewn cyflwr y gellir ei ddefnyddio
- defnyddio dulliau a thechnegau priodol i gydosod pibellau a ffitiadau yn eu safleoedd dynodedig
- diogelu pibellau a ffitiadau gan ddefnyddio cysylltwyr a dyfeisiau diogelu penodedig
- gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth gorffenedig yn bodloni’r fanyleb
- delio â phroblemau sydd o fewn eich rheolaeth yn ddi-oed ac yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- rhoi gwybod i bobl berthnasol am broblemau na allwch eu datrys
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a deddfwriaethau perthnasol eraill, gweithdrefnau sefydliadol a chodau ymarfer gan gynnwys codi a chario a defnyddio offer
- rheoliadau dŵr a gweithdrefnau hylendid sy’n ymwneud â sicrhau cyfanrwydd ac effeithiolrwydd cyflenwadau dŵr, gan gynnwys pwysigrwydd hylendid personol
- gwybodaeth berthnasol am y safonau ansawdd a chywirdeb a fynnir o safonau'r diwydiant, cyfarwyddiadau a manylebau gweithgynhyrchwyr, gweithdrefnau'r cwmni, codau ymarfer gwneuthurwyr
- sut mae dehongli cyfarwyddiadau gwaith, lluniadau, dyluniad cwmni dŵr a manylebau adeiladu a manylebau cysylltiedig
- math a chymhlethdod y gwasanaeth i’w gynhyrchu
- nodweddion polyethylen (PE) a phibellau rhwystr a'r dulliau a'r technegau cydosod priodol i'w defnyddio
- yr angen am weithdrefnau rheoli ansawdd
- mathau perthnasol o offer a gweithdrefnau trin offer
- technegau paratoi ar gyfer uniadu pibellau anhyblyg syml
- yr offer sydd ei angen ar gyfer cydosod a phwysigrwydd gofalu amdanynt
- gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer delio â phroblemau a rhoi gwybod amdanynt, gan gynnwys pan nad yw pibellau mewn cyflwr mae modd eu defnyddio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Mai 2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSWNC2
Galwedigaethau Perthnasol
Adeiladu Rhwydwaith Dŵr
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Dŵr, Rhwydwaith, Adeiladu, hunan-osod, cyfleustodau, cydosod, cydosodiad, pibellau, ffitiadau, cydrannau, asedau