Trefnu gweithgareddau gwaith ar gyfer gosod, trwsio a chynnal a chadw rhwydweithiau LEGACY
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu gweithgareddau gwaith ar gyfer gosod, trwsio a chynnal a chadw rhwydweithiau dŵr. Mae hyn ar gyfer gweithrediadau ar safle unigol a gallai fod ar gyfer prif bibelli hyd at ac yn cynnwys 400mm mewn diamedr neu wasanaethau hyd at ac yn cynnwys 63mm mewn diamedr.
Mae hyn yn golygu blaenoriaethu gweithgareddau gwaith, gofyn am help gan bobl eraill i ddatrys problemau, rhagweld ac addasu'r amserlen yn sgil newidiadau i'r cynllun, cofnodi cynlluniau a chyfathrebu gyda'r bobl berthnasol.
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr adeiladu rhwydweithiau sy'n trefnu gweithgareddau gwaith ar gyfer gosod, trwsio a chynnal a chadw rhwydweithiau dŵr ond sy'n debygol o fod y rhai sydd â chyfrifoldebau arweinydd tîm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. pennu dulliau a gweithgareddau gwaith sy'r briodol i'r sefydliad ac sy'n gwneud y defnydd gorau o adnoddau
2. blaenoriaethu gweithgareddau gwaith er mwyn cyflawni amcanion yn unol â'r amserlen
3. cofnodi a chytuno ar swyddogaethau unigolion a chyfrifoldebau grwpiau yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
4. gofyn am gyngor gan unigolion perthnasol i'ch helpu i ddatrys unrhyw broblemau rydych chi'n dod ar eu traws
5. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i ragweld ble bydd angen gwneud newidiadau i gynlluniau
6. diweddaru cynlluniau er mwyn darparu ar gyfer newidiadau i'r cynlluniau
7. cofnodi cynlluniau gwaith y cytunwyd arnynt yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
8. hysbysu pawb sydd angen gwybod am y cynlluniau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, codau ymarfer a gweithdrefnau sefydliadol o ran iechyd, diogelwch a'r amgylchedd sy'n berthnasol i weithgareddau gwaith gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â gwaith ffordd a stryd, sylweddau peryglus, rheoli a dylunio adeiladwaith, codi a defnyddio offer gwaith.
2. dulliau a thechnegau cynllunio ar gyfer gosod, cynnal a chadw a thrwsio rhwydweithiau dŵr
3. yr effaith y gall cynllunio ei chael ar gost ac effeithlonrwydd
4. amserlenni disgwyliedig ar gyfer y gwaith a pha mor hir y bydd gweithgareddau gwahanol yn eu cymryd
5. gweithdrefnau a systemau gwybodaeth sy'n cael eu defnyddio i roi trefn ar weithgareddau peirianyddol
6. pwy sydd angen i chi weithio gyda nhw yn fewnol a thu allan i'r sefydliad
7. sut mae perthnasoedd gwaith effeithiol yn cyfrannu at drefn gweithgareddau gwaith
8. dulliau cyfathrebu llafar, ysgrifenedig a gweledol
9. gweithdrefnau a lefelau awdurdod ar gyfer cyfathrebu gyda phobl wahanol
10. gofynion cyfrinachedd ar gyfer gwybodaeth
11. gweithdrefnau ac amseroedd adrodd gan gynnwys ffurflenni safonol sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y diwydiant neu gan y cwmni