Datgomisiynu rhwydweithiau dŵr

URN: EUSWNC18
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydweithiau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â datgomisiynu rhwydweithiau yn y diwydiant dŵr. Mae'n cynnwys cael yr adnoddau angenrheidiol, sicrhau bod yr amodau'n addas, dilyn gweithdrefnau datgomisiynu, datrys problemau, sicrhau bod rhwydweithiau yn cydymffurfio â manylebau, rheoliadau a chanllawiau perthnasol a chofnodi canlyniadau.

 
Bydd y Safon hon yn berthnasol i waith adeiladu rhwydweithiau dŵr am mae ar gyfer goruchwylwyr adeiladu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. enwi'r gweithdrefnau a'r arferion cymeradwy ar gyfer datgomisiynu rhwydweithiau

2. pennu dulliau datgomisiynu sy'n addas ar gyfer y rhwydwaith
3. cadarnhau bod yr amgylchedd yn addas ar gyfer datgomisiynu
4. penderfynu ar, a chael, yr adnoddau sydd eu hangen er mwyn gwneud y gwaith datgomisiynu
5. sicrhau bod datgomisiynu yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
6. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i ganfod problemau gyda gweithgareddau datgomisiynu
7. datrys unrhyw broblemau gyda gweithgareddau datgomisiynu sydd o fewn eich maes cyfrifoldeb
8. cyfeirio unrhyw broblemau nad oes modd i chi eu datrys at y bobl briodol ar amseroedd priodol
9. cofnodi canlyniadau gwaith datgomisiynu mewn systemau gwybodaeth priodol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. dulliau a gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer datgomisiynu

2. ffynonellau gwybodaeth gan gynnwys manylebau rhwydwaith, adroddiadau statudol ac anstatudol, dogfennau cwmni, cyfarwyddiadau'r dasg, dogfennau cleientiaid mewnol ac allano
3. gweithgareddau datgomisiynu sy'n addas ar gyfer gwahanol fathau o rwydwaith
4. ffactorau i'w hystyried wrth gynllunio gwaith datgomisiynu
5. cyflyrau sy'n gallu cael effaith ar yr amgylchedd gan gynnwys amrywiadau yn y tywydd, ardaloedd gwarchodedig, llygredd, cynhyrchion, gwaith mewn ardaloedd cyffiniol, rheoli gwastraff, gweithgareddau pobl
6. gofynion o ran adnoddau gan gynnwys peiriannau, offer, deunyddiau, llafur, defnyddiau traul
7. deunyddiau ac offer cymeradwy a sut i gael gwybodaeth ynglŷn ag argaeledd
8. y mathau o broblemau a allai godi a sut i'w datrys
9. rheoliadau dwr a gweithdrefnau hylendid mewn perthynas â sicrhau dibynadwyedd a glanweithdra cyflenwadau dŵr a phwysigrwydd hylendid personol
10. gweithdrefnau, polisïau, arferion, rheoliadau a chanllawiau cymeradwy yn ymwneud ag iechyd, diogelwch eich hun a phobl eraill, yr amgylchedd, argyfyngau, cynlluniau wrth gefn ac asesiadau risg
11. sut i gael gwybodaeth am reoliadau a chanllawiau
12. yr effaith y gallai gweithgareddau datgomisiynu ei gael ar rwydweithiau eraill
13. allbynnau a ddisgwylir o'r rhwydwaith
14. sut i asesu canlyniadau gwaith datgomisiynu
15. systemau ar gyfer cofnodi gwybodaeth a pham ei bod yn bwysig eu defnyddio


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSNCO312

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Gweithiwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr, Rhwydwaith Dŵr Goruchwyliwr Adeiladu

Cod SOC

5314

Geiriau Allweddol

comisiynu, datgomisiynu, rhwydweithiau, dulliau, gweithdrefn