Trosglwyddo rheolaeth dros brosiectau rhwydwaith sydd wedi'u cwblhau

URN: EUSWNC17
Sectorau Busnes (Suites): Adeiladu Rhwydwaith Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â throsglwyddo rheolaeth dros brosiectau rhwydwaith sydd wedi'u cwblhau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod prosiectau rhwydwaith sydd wedi'u cwblhau yn cwrdd â'r manylebau, nodi ac esbonio unrhyw wyriadau oddi wrth y rhain, darparu gwybodaeth am brosiectau rhwydwaith sydd wedi'u cwblhau a chael y rheolwr newydd i dderbyn y rhain yn unol â'r gweithdrefnau trosglwyddo y cytunwyd arnynt.  

 
Bydd y Safon hon yn berthnasol i Weithgareddau Adeiladu Rhwydweithiau ac mae ar gyfer Goruchwylwyr Adeiladu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cael gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy am weithgareddau rhwydwaith sydd wedi'u cwblhau  

2. cadarnhau bod y rhwydwaith yn barod i gael ei throsglwyddo a'i bod yn cydymffurfio â'r holl weithdrefnau ac arferion cymeradwy 
3. darparu gwybodaeth berthnasol am rwydweithiau mewn modd clir a chywir i unigolion a sefydliadau perthnasol 
4. nodi ac esbonio unrhyw agweddau ar y rhwydwaith sy'n wahanol i'r gweithdrefnau a'r arferion cymeradwy y cytunwyd arnynt 
5. trosglwyddo rheolaeth y rhwydweithiau yn unol â'r gweithdrefnau a'r prosesau cyfredol 
6. cael y rhwydweithiau wedi'u derbyn yn unol â'r gweithdrefnau trosglwyddo y cytunwyd arnynt 
7. cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol ar yr amseroedd priodol 
8. cofnodi'r manylion trosglwyddo ar systemau gwybodaeth priodol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. ffynonellau gwybodaeth gan gynnwys adroddiadau statudol ac anstatudol, dogfennau'r cwmni, cyfarwyddiadau'r dasg, dogfennau cleientiaid mewnol ac allanol

2. gweithdrefnau ar gyfer trosglwyddo rheolaeth dros gynnyrch neu brosesau peirianyddol i'r rhai sy'n gyfrifol am y gweithgareddau peirianyddol a ganddynt
3. ffactorau fyddai'n gallu effeithio ar barodrwydd cynnyrch neu brosesau peirianyddol
4. gweithdrefnau, arferion a rheoliadau cymeradwy gan gynnwys iechyd, diogelwch a'r amgylchedd sy'n berthnasol i chi ac i bobl eraill, cynlluniau sefydliadol, rheoliadol, a statudol, cynlluniau argyfwng, a gweithredol, cynlluniau wrth gefn, polisïau perthnasol y cwmni, polisïau a gweithdrefnau cleientiaid mewnol neu allanol, ac asesiadau risg 
5. unigolion a sefydliadau sydd angen gwybodaeth am gynnyrch neu brosesau peirianyddol a'r wybodaeth y maen nhw ei hangen
6. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cyfathrebu gyda chwsmeriaid, contractwyr, gweithwyr rhwydwaith, cydweithwyr, cyrff statudol
7. agweddau ar gynnyrch neu brosesau peirianyddol fyddai'n gallu bod yn wahanol i'r manylebau a'r gofynion y cytunwyd arnynt
8. deunyddiau ac offer cymeradwy
9. dogfennau sydd angen eu cwblhau a sut i'w cwblhau nhw
10. systemau ar gyfer cofnodi gwybodaeth a pham ei bod yn bwysig eu defnyddio 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

NCO311

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Crefftau Peirianegol ac Adeiladu

Cod SOC

5314

Geiriau Allweddol

Adroddiadau statudol, asesiadau risg