Comisiynu rhwydweithiau dŵr

URN: EUSWNC16
Sectorau Busnes (Suites): Adeiladu Rhwydwaith Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chomisiynu a rhwydweithiau yn y diwydiant dŵr. Mae'n cynnwys cael yr adnoddau angenrheidiol, sicrhau bod yr amodau'n addas, dilyn gweithdrefnau comisiynu, datrys problemau, sicrhau bod rhwydweithiau yn cydymffurfio â manylebau, rheoliadau a chanllawiau perthnasol a chofnodi canlyniadau.

Bydd y Safon hon yn berthnasol i waith adeiladu rhwydweithiau dŵr ac mae wedi'i bwriadu ar gyfer goruchwylwyr adeiladu. 

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. enwi'r gweithdrefnau a'r arferion cymeradwy ar gyfer comisiynu rhwydweithiau 

2. pennu dulliau comisiynu sy'n addas ar gyfer y rhwydwaith
3. cadarnhau bod yr amgylchedd yn addas ar gyfer comisiynu neu ddatgomisiynu
4. penderfynu ar, a chael, yr adnoddau sydd eu hangen er mwyn gwneud y gwaith comisiynu neu ddatgomisiynu
5. sicrhau bod gwaith comisiynu neu ddatgomisiynu yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau a phrosesau cymeradwy
6. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i ganfod problemau gyda gweithgareddau comisiynu
7. datrys unrhyw broblemau gyda gweithgarwch comisiynu o fewn eich maes cyfrifoldeb
8. cyfeirio unrhyw broblemau nad oes modd i chi eu datrys at y bobl briodol ar amseroedd priodol
9. asesu canlyniadau'r gwaith comisiynu er mwyn pennu allbynnau'r rhwydwaith
10. cadarnhau bod y weithdrefn gomisiynu yn cydymffurfio â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy ynghyd â'r holl ofynion rheoliadol perthnasol 
11. cofnodi canlyniadau gweithgareddau comisiynu yn y systemau gwybodaeth priodol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. dulliau a gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer comisiynu neu ddatgomisiynu 

2. ffynonellau gwybodaeth gan gynnwys manylebau rhwydwaith, adroddiadau statudol ac anstatudol, dogfennau cwmni, cyfarwyddiadau'r dasg, dogfennau cleientiaid mewnol ac allano
3. gweithgareddau comisiynu neu ddatgomisiynu  sy'n addas ar gyfer gwahanol fathau o rwydwaith
4. ffactorau i'w hystyried wrth gynllunio gwaith comisiynu neu ddatgomisiynu 
5. cyflyrau sy'n gallu cael effaith ar yr amgylchedd gan gynnwys amrywiadau yn y tywydd, ardaloedd gwarchodedig, llygredd, cynhyrchion, gwaith mewn ardaloedd cyffiniol, rheoli gwastraff, gweithgareddau pobl
6. gofynion o ran adnoddau gan gynnwys peiriannau, offer, deunyddiau, llafur, defnyddiau traul 
7. deunyddiau ac offer cymeradwy a sut i gael gwybodaeth ynglŷn ag argaeledd
8. y mathau o broblemau a allai godi a sut i'w datrys
9. rheoliadau dŵr a gweithdrefnau hylendid mewn perthynas â sicrhau dibynadwyedd a glendid cyflenwadau dŵr a phwysigrwydd hylendid personol 
10. gweithdrefnau, polisïau, arferion, rheoliadau a chanllawiau cymeradwy mewn perthynas ag iechyd, diogelwch eich hunain a phobl eraill, amgylchedd, argyfyngau, cynlluniau wrth gefn ac asesiadau risg
11. sut i gael gwybodaeth am reoliadau a chanllawiau
12. yr effaith y gallai gweithgareddau comisiynu neu ddatgomisiynu ei chael ar rwydweithiau eraill
13. allbynnau disgwyliedig o'r rhwydwaith
14. sut i asesu canlyniadau gwaith comisiynu neu ddatgomisiynu
15. systemau ar gyfer cofnodi gwybodaeth a pham ei bod yn bwysig eu defnyddio 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

NCO310

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Crefftau Peirianegol ac Adeiladu

Cod SOC

5314

Geiriau Allweddol

comisiynu, datgomisiynu, rhwydweithiau, dulliau, gweithdrefnau