Rheoli cysylltiadau prif bibelli dŵr llinellol (in-line) mewn cytundeb â chwmnïau dŵr

URN: EUSWNC15
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â rheoli cysylltiadau prif bibelli dŵr llinellol (in-line) mewn cytundeb â chwmnïau dŵr. Mae hyn yn golygu cael caniatâd gan gwmnïau dŵr, cyfathrebu â chwmnïau dŵr yn ystod ac ar ôl cwblhau'r gwaith, cyflawni cysylltiadau byw yn unol â gweithdrefnau cymeradwy er mwyn diogelu ansawdd y dŵr a dibynadwyedd rhwydweithiau dŵr.
 
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr adeiladu rhwydweithiau dŵr sy'n rheoli cysylltiadau prif bibelli dŵr llinellol (in-line) mewn cytundeb â chwmnïau dŵr. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cael gafael ar wybodaeth am waith ar gysylltiadau prif bibelli gan ffynonellau dibynadwy

  1. cwblhau ceisiadau i'r cwmni dŵr yn brydlon er mwyn cael caniatâd i wneud gwaith cysylltu prif bibelli
    3. cynllunio cysylltiadau'r prif bibelli yn unol â'r caniatâd gan y cwmni dŵr
    4. rhoi gwybod i'r cwmni dŵr am unrhyw fanylion cysylltu cyn i'r gwaith ddechrau
    5. profi a chyflawni cysylltiad byw yn unol â gweithdrefnau cenedlaethol a gweithdrefnau'r cwmni dŵr
    6. cyflawni cysylltiad byw yn unol â'r safonau ansawdd a hylendid perthnasol
    7. sicrhau bod arferion gwaith yn cydymffurfio â gweithdrefnau gweithio diogel bob amser
    8. gofyn i bobl briodol am gyngor ynglŷn ag unrhyw waith nad oes modd ei wneud i safonau penodedig
    9. rhoi gwybod i'r cwmni dŵr pan mae cysylltiadau wedi'u cwblhau gan ddefnyddio'r gweithdrefnau cymeradwy
    10. cwblhau dogfennau'r cysylltiad â'r wybodaeth gywir a'i storio yn y man penodedig
    11. darparu dogfennau gwaith wedi'i gwblhau i'r bobl briodol pan fo angen  
    12. darparu darluniau cywir i'r cwmni dŵr yn unol â'r gweithdrefnau cymeradwy
    13. rhoi gwybod i'r cwmni dŵr am waith sydd heb ei gwblhau ac sydd ddim yn mynd rhagddo yn unol â'r amserlen gan ddefnyddio'r gweithdrefnau adrodd priodol 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. rheoleiddwyr dŵr a'u rôl

2. goblygiadau cyfreithiol llygru cyflenwad dŵr cyhoeddus 
3. y Cod Ymarfer a'r manylebau cenedlaethol a phenodol i gyfleustod dŵr ar gyfer gwneud cysylltiadau prif bibelli dŵr linellol arferol
4. gofynion ble mae sefydliadau hunan osod yn gallu gwneud cysylltiadau dŵr arferol
5. sut i ddehongli darluniau, cofnodion, dogfennau gwaith, llawlyfrau, a manylebau technegol
6. gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gosod systemau dosbarthu dŵr
7. eich rolau a'ch cyfrifoldebau chi a chynrychiolwyr cwmnïau dŵr
8. gweithdrefnau cwmnïau dŵr a gweithdrefnau sefydliadol o ran cysylltu i rwydweithiau byw
9. mathau cymeradwy o gysylltiad
10. sut i ddefnyddio'r offer ar gyfer cysylltiadau prif bibelli
11. gweithdrefnau uniadu cymeradwy
12. gweithdrefnau hylendid mewn perthynas â sicrhau dibynadwyedd a glanweithdra cyflenwadau dŵr a phwysigrwydd hylendid personol
13. deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol gan gynnwys y mathau o gyfarpar diogelu personol a sut i'w defnyddio
14. signalau ac arwyddion cymeradwy ar gyfer sicrhau bod y man gweithio yn ddiogel 
15. gweithdrefnau'r cwmni a phwy sy'n gyfrifol am beth o ran trosglwyddo a chofnodi gwybodaeth
16. sut i drosglwyddo gwybodaeth dechnegol gan ddefnyddio diagramau a chyfarwyddiadau ysgrifenedig
17. gweithdrefnau cymeradwy sydd i'w dilyn mewn argyfwng 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

NCO221

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr, Peiranneg, Goruchwyliwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr

Cod SOC

5314

Geiriau Allweddol

diogel, prif bibelli, cysylltiadau, cymwys, dŵr, cyfleustod, cyfleustodau, llinellol, rhwydwaith, adeiladu, gweithrediadau, hunan osod, uwch