Cynnal profion penodedig ar gynhyrchion ac asedau peirianyddol rhwydweithiau dŵr
URN: EUSWNC14
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynnal profion penodedig ar gynhyrchion ac asedau peirianyddol rhwydweithiau dŵr. Mae'n cynnwys sefydlu mannau gweithio diogel, dewis offer profi priodol, tynnu aer gormodol o systemau a phrofi gwasgell a gwagio prif bibelli a gwasanaethau.
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr adeiladu rhwydweithiau dŵr sy'n cynnal profion penodedig ar gynhyrchion ac asedau peirianyddol rhwydweithiau dŵr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal profion yn unol â rheoliadau a deddfwriaeth iechyd a diogelwch a'r amgylchedd
2. cynnal ac adolygu asesiadau risg safle-benodol yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
3. sefydlu mannau gweithio diogel sy'n rhwystro mynediad heb awdurdod
4. dewis a gwisgo cyfarpar diogelu personol dynodedig
5. defnyddio offer i gynnal profion yn unol â chyfarwyddiadau gwaith a manylebau gwneuthurwyr
6. sefydlu, tynnu aer gormodol o systemau, cynnal y profion a gwagio yn unol â chyfarwyddiadau gwaith ac o fewn ar amserlen a gytunwyd
7. cynnal profion yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a gofynion statudol a rheoliadol
8. adolygu canlyniadau profion er mwyn cadarnhau bod perfformiad y system yn unol â pharamedrau perfformiad a manylebau'r offer
9. cadarnhau bod offer yn gweithio'n unol â gofynion a pharamedrau gweithredu'r system
10. cael gwared ar wastraff yn unol â gofynion amgylcheddol
11. defnyddio gwybodaeth berthnasol o ddatganiadau dull, cynlluniau a manylebau dull fel sail ar gyfer profi, profi gwasgedd a gwagio cynnyrch ac asedau peirianyddol
12. cofnodi canlyniadau profion mewn systemau adrodd sefydliadol a dogfennau safonol y diwydiant yn unol â gweithdrefnau a gofynion y cwmni
13. rhoi gwybod - i'r person dynodedig - am unrhyw ddifrod neu ddiffyg yn yr offer profi
14. delio â phroblemau o fewn eich rheolaeth yn ddi-oed
15. cyfeirio problemau a chyflyrau sydd y tu hwnt i'ch cyfrifoldeb at y bobl briodol gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy
16. delio ag unrhyw argyfyngau sydd yn codi yn unol â gweithdrefnau brys
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. sut i ddehongli datganiadau dull, cynlluniau a manylebau ar gyfer gwahanol weithgareddau a gweithdrefnau prawf
2. y llinellau a'r gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau prawf gan gynnwys dogfennau safonol y diwydiant a gweithdrefnau perthnasol y cwmni
3. sut i ddefnyddio'r gwahanol fathau o brofion ar gyfer prif bibelli a gwasanaethau, gan gynnwys tynnu aer gormodol o'r system
4. gweithdrefnau i ddelio ag argyfyngau
5. sut i ddefnyddio'r gwahanol fathau o offer prawf
6. sut i dynnu aer o systemau a goblygiadau peidio gwneud hyn
7. dulliau a gweithdrefnau prawf y gellir eu defnyddio i dynnu aer gormodol o systemau
8. sut i ddefnyddio offer gwasgedd perthnasol a pham y dylai gael ei raddnodi
9. goblygiadau methiant prawf i'r amgylchedd ac i bobl
10. goblygiadau methiannau mecanyddol i ystodau gwasgedd yn ystod prawf
11. deddfwriaeth berthnasol iechyd, diogelwch a'r amgylchedd, gweithdrefnau a chodau ymarfer gan gynnwys y rhai sy'n delio â gwaith cloddio, deunyddiau peryglus, damweiniau a chyfarpar diogelu personol, mannau cyfyng, gweithio ar uchder
12. sut i adnabod difrod neu ddiffygion mewn offer prawf ac i bwy y dylech chi roi gwybod
13. gweithdrefnau ar gyfer cyfeirio problemau sydd y tu hwnt i'ch cyfrifoldeb
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
NCO213
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr, Peiranneg, Goruchwyliwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr
Cod SOC
5314
Geiriau Allweddol
cynnal profion, cynhyrchion, asedau, rhwydwaith, dŵr