Uniadu deunyddiau drwy brosesau ymasiad bôn ar rwydweithiau dŵr
URN: EUSWNC13
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag uniadu deunyddiau drwy brosesau ymasiad bôn. Gellir defnyddio prosesau ymasiad bôn ym mhob tywydd gan ddefnyddio peiriannau awtomatig neu ddim yn awtomatig ac ar ddeunyddiau gwreiddiol gyda'r un raddfa SDR, a math o bolymer.
Mae uniadu deunyddiau drwy ymasiad bôn yn cynnwys darparu amddiffynyddion rhag y tywydd, gwirio gwaith paratoi'r uniad, offer a deunyddiau traul, monitro peiriannau, gwneud uniadau ymasiad bôn yn unol â'r manylebau, dad-leinio, diffodd yr offer a delio â gwastraff.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un yn y maes adeiladu rhwydweithiau dŵr sy'n gwneud gwaith uniadu ymasiad bôn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gweithio yn unol â rheoliadau, canllawiau a gweithdrefnau iechyd, diogelwch a'r amgylchedd bob amser
2. cynnal ac adolygu asesiadau risg safle-benodol yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
3. dewis a gwisgo cyfarpar diogelu personol dynodedig
4. paratoi a gwneud uniadau yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r dasg
5. cadarnhau unrhyw amgylchiadau ble mae cyfarwyddiadau neu weithdrefnau'r dasg yn ymddangos yn anghywir gyda'r bobl briodol
6. gwirio a chadarnhau bod y paratoadau uniadu yn cydymffurfio â gofynion ansawdd a manylebion
7. cadarnhau bod offer uniadu ac offer a deunyddiau traul cysylltiedig fel y nodwyd ac yn addas i’r pwrpas
8. darparu amddiffynyddion digonol rhag y tywydd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol drwy gydol y cyfnodau uniadu
9. cynnal a monitro gweithrediadau peiriannau yn unol â'r manylebau a chyfarwyddiadau'r dasg
10. rhoi gwybod i'r bobl briodol yn ddi-oed am unrhyw ddifrod neu ddiffygion o ran offer neu ddeunyddiau
11. gwneud uniadau bôn o'r ansawdd gofynnol a'r cywirdeb dimensiynol a nodwyd
12. dad-leinio a chynnal profion sicrhau ansawdd cymeradwy ar y glain
13. marcio'r uniad a'r glain fel bod modd eu hadnabod yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
14. diffodd yr offer fel ei fod mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau gweithgareddau uniadu
15. delio â deunydd gormodol a gwastraff ac atodiadau dros dro yn ddi-oed yn unol â'r gweithdrefnau cymeradwy y cytunwyd arnynt
16. uniadu deunyddiau drwy brosesau ymasiad bôn yn unol â'r gweithdrefnau a'r arferion cymeradwy a'r gofynion rheoliadol a statudol
17. cofnodi a storio data a gwybodaeth uniadu mewn systemau gwybodaeth sefydliadol
18. datrys problemau sydd o fewn eich maes cyfrifoldeb yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
19. cyfeirio problemau nad oes modd i chi eu datrys at y bobl briodol gan ddefnyddio'r gweithdrefnau cymeradwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. deddfwriaeth, gweithdrefnau a chodau ymarfer sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch a'r amgylchedd gan gynnwys codi a chario, defnyddio offer, deunyddiau peryglus, gweithio mewn cloddiadau, asesiadau risg, damweiniau a chyfarpar diogelu personol
2. y cyfarpar diogelu personol sydd ei angen ar gyfer y gwaith
3. codau ymarfer y diwydiant a gweithdrefnau'r cwmni sy'n ymwneud ag uniadu ymasiad bôn
4. pam mai dim ond pibelli gyda manylebau tebyg all gael eu huniadu
5. sut i ddehongli manylebau peirianyddol sy'n berthnasol i brosesau ymasiad bôn
6. sut i ddefnyddio peiriannau awtomatig a rhai sydd ddim yn awtomatig
7. y gwahanol gyfnodau sy'n bodoli yn ystod y broses uniadu a phwysigrwydd aros i bob cyfnod ddod i ben
8. bod angen cynnal ac alinio pibelli a chanlyniadau camosod a chynhaliaeth wael
9. achos ac effaith diffygion hollt camosod
10. problemau sy'n cael eu hachosi gan lain annigonol, manylebau pibell glain gormodol a sut i'w hosgoi
11. pa mor gydnaws yw deunyddiau gwahanol mewn perthynas â gradd cymhareb dimensiwn safonol (SDR) a math o bolymer
12. sut mae diffygion mewn deunyddiau a deunyddiau traul yn gallu effeithio ar brosesau uniadu bôn
13. pwysigrwydd calibro offer a chanlyniadau cynnal a chadw gwael
14. gweithdrefnau sicrhau ansawdd y gellir eu defnyddio i adnabod diffygion gan gynnwys profion anninistriol a dinistriol
15. gweithdrefnau adrodd gan gynnwys pwy ddylai gael gwybod am ddifrod a phroblemau
16. systemau storio gwybodaeth a data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSNCO211
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr, Peiranneg, Goruchwyliwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr
Cod SOC
5314
Geiriau Allweddol
uniad, bôn, ymasiad, cyfleustod, cyfleustodau, rhwydwaith, adeiladwaith, dŵr, nwy