Uniadu deunyddiau mewn modd mecanyddol ar rwydweithiau dŵr LEGACY
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag Uniadu deunyddiau mewn modd mecanyddol ar rwydweithiau dŵr Gellir cynnal uniadu ar ddeunyddiau metelig neu er mwyn cysylltu deunyddiau metelig i bolyethylen.
Mae hyn yn cynnwys adeiladu a lleoli pibelli a ffitiadau, gan ddefnyddio technegau uniadu mecanyddol, rhoi cydrannau'n sownd a chadarnhau bod y gwaith gorffenedig yn cydymffurfio â chodau ymarfer a manylebau.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un yn y maes adeiladu rhwydweithiau dŵr sy'n gwneud gwaith uniadu mecanyddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gweithio yn unol â gofynion a deddfwriaeth iechyd, diogelwch a'r amgylchedd bob amser
2. cynnal ac adolygu asesiadau risg safle-benodol yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
3. dewis a gwisgo cyfarpar diogelu personol dynodedig
4. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i ganfod gofynion y gwaith
5. cadarnhau unrhyw wybodaeth sy'n ymddangos yn anghywir gyda'r bobl briodol
6. cydosod a lleoli cydrannau yn unol â darluniau cydosod a chyfarwyddiadau gwaith
7. sicrhau bod y cydrannau'n cyrraedd manylebau'r gwneuthurwyr
8. defnyddio technegau uniadu priodol ar gyfer y deunyddiau sy'n cael eu huniadu
9. gwneud y gwaith uniadu yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
10. rhoi cydrannau'n sownd gan ddefnyddio cysylltwyr a dyfeisiau diogelu yn unol â manylebau'r gydran a chyfarwyddiadau'r gwaith
11. sicrhau bod cydosodiadau gorffenedig yn gyflawn ac yn cyrraedd y gofynion gweithredu
12. cofnodi a storio data a gwybodaeth berthnasol yn systemau gwybodaeth y sefydliad
13. datrys problemau sydd o fewn terfynau eich cyfrifoldeb
14. rhoi gwybod i'r bobl briodol am broblemau nad oes modd i chi eu datrys
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. deddfwriaeth, gweithdrefnau a chodau ymarfer yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a'r amgylchedd gan gynnwys codi a chario, defnyddio offer, deunyddiau peryglus, gweithio mewn cloddiadau, asesiadau risg, gweithio ar eich pen eich hun, damweiniau a chyfarpar diogelu personol
2. yr amrywiaeth a'r defnydd o offer gwarchod personol ar gyfer eich gwaith
3. yr angen i gynnal gwiriadau iechyd a hylendid
4. sut i ddarllen a dadansoddi manylebau a darluniau sylfaenol
5. dulliau a thechnegau ar gyfer cydosod ac uniadu cydrannau mewn modd mecanyddol
6. diben gweithdrefnau rheoli ansawdd a sut i'w darllen a'u dadansoddi
7. sut i ddewis technegau paratoi ar gyfer gweithgareddau uniadu mecanyddol
8. yr offer a'r offer trafod sydd eu hangen ar gyfer uniadu mecanyddol
9. pwysigrwydd gofalu am yr offer a sut i wneud hyn
10. dulliau a thechnegau cydosod gan gynnwys torri, taradru, ac uniadu mecanyddol ar ddeunyddiau metelig
11. defnyddio ffitiadau mecanyddol i uno deunyddiau metelig a pholyethylen
12. gweithdrefnau ar gyfer delio â phroblemau
13. i bwy y dylech chi roi gwybod a phryd
14. systemau storio gwybodaeth a data