Gosod gwasanaethau dŵr masnachol

URN: EUSWNC12
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydweithiau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Mai 2023

Trosolwg

Mae'r Safon yn ymwneud â gosod gwasanaethau dŵr masnachol. Gall hyn hefyd fod yn berthnasol i osod prif bibellau tân. Gall hyn fod yn berthnasol i bibellau gwasanaeth sydd â diamedrau mewnol dros 50mm.
Mae hyn yn cynnwys dehongli gofynion deunyddiau, cynhyrchu a sicrhau cydosodiadau a chysylltu â phlymwyr a deiliaid eiddo.  Gall dulliau a thechnegau cydosod gynnwys torri, weldio electro ymasiad, drilio a tharo neu uniadu mecanyddol ar ddeunyddiau metelig neu bolyethylen (PE) neu bibellau rhwystr.
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr rhwydweithiau dŵr sy'n cydosod pibellau a ffitiadau ar gyfer gwasanaethau masnachol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio yn unol â rheoliadau a chanllawiau iechyd, diogelwch, yr amgylchedd, ansawdd dŵr a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill bob amser
  2. asesu amodau’r safle a dehongli dogfennau dylunio i
    nodi gofynion o ran deunyddiau
  3. gwneud yn siŵr bod deunyddiau cymeradwy ar gael, gan eu caffael pan fo angen
  4. rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr yr eiddo am bob cam perthnasol o’r broses
  5. cynnal asesiadau risg ar adegau priodol
  6. cyfleu gwybodaeth berthnasol i blymwyr a phobl berthnasol eraill
  7. storio a chludo pibellau a ffitiadau yn unol â gofynion diogelwch a hylendid
  8. cydosod pibellau a ffitiadau yn unol â rheoliadau a chanllawiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
  9. cydosod pibellau a ffitiadau yn unol â manylebau dylunio ac adeiladu, cyfarwyddiadau gwaith, lluniadau cydosod ac unrhyw fanylebau perthnasol eraill
  10. gweithio yn unol â gofynion hylendid dŵr bob amser
  11. sicrhau bod y pibelli a'r ffitiadau a ragnodwyd ar gael ac mewn cyflwr i'w defnyddio
  12. defnyddio dulliau a thechnegau priodol i gydosod pibelli a ffitiadau yn eu safleoedd dynodedig
  13. sicrhau pibellau a ffitiadau gan ddefnyddio cysylltwyr penodedig, dyfeisiau diogelu ac unrhyw ddeunydd inswleiddio gofynnol
  14. defnyddio tâp marcio priodol ar bibellau pan fo angen yn unol â phrosesau’r cwmni dŵr
  15. fflysio’r gwasanaeth i glirio unrhyw falurion a chwilio am ollyngiadau
  16. gwneud yn siŵr bod y gwaith o adeiladu siambr y mesurydd a’r gwasanaeth wedi’i orffen yn bodloni’r fanyleb
  17. dilyn prosesau’r cwmni dŵr ar gyfer hylendid a phrofi wrth osod gwasanaethau masnachol
  18. delio â phroblemau sydd o fewn eich rheolaeth yn ddi-oed
  19. rhoi gwybod i'r bobl berthnasol am gwblhau'r gwaith gosod o fewn yr amserlenni gofynnol
  20. rhoi gwybod i'r bobl berthnasol am broblemau nad ydych chi'n gallu eu datrys

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deddfwriaeth iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a deddfwriaeth arall, gweithdrefnau sefydliadol a chodau ymarfer perthnasol gan gynnwys codi a chario a defnyddio offer
  2. rheoliadau dŵr a gweithdrefnau hylendid sy’n ymwneud â sicrhau cyfanrwydd ac effeithiolrwydd cyflenwadau dŵr, gan gynnwys pwysigrwydd hylendid personol
  3. gwybodaeth berthnasol am y safonau ansawdd a chywirdeb a fynnir o safonau'r diwydiant, cyfarwyddiadau a manylebau gweithgynhyrchwyr, gweithdrefnau'r cwmni, codau ymarfer gwneuthurwyr
  4. sut mae dehongli lluniadau, manylebau dylunio ac adeiladu cwmnïau dŵr a manylebau cysylltiedig
  5. sut mae cynnal asesiad safle
  6. diben asesiadau risg a phryd a sut i'w cynnal
  7. deunyddiau gofynnol a sut mae gwneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau dŵr
  8. sut i nodi cyflenwyr deunyddiau cymeradwy
  9. sut mae dehongli gofynion ar gyfer pwyntiau draenio, falfiau stopio, falfiau gwirio a falfiau gwirio dwbl
  10. mathau a chymhlethdod y cydosod sydd i’w gynhyrchu gan gynnwys sgriwio, cywasgu a chantel
  11. nodweddion a dulliau a thechnegau cydosod i'w defnyddio ar bibellau polyethylen (PE) a rhwystrau
  12. yr angen am weithdrefnau rheoli ansawdd gan gynnwys sut i sicrhau nad oes gweddillion mewn pibellau na’u bod wedi’u halogi
  13. mathau o gyfarpar codi a chario a gweithdrefnau perthnasol
  14. technegau paratoi ar gyfer uniadu pibellau anhyblyg syml
  15. yr offer sydd ei angen ar gyfer cydosod a phwysigrwydd gofalu amdanynt
  16. gofynion tâp marcio ar gyfer gwasanaethau masnachol a phrif bibellau tân
  17. sut i wneud yn siŵr bod siambr y mesurydd wedi'i hadeiladu yn unol â'r fanyleb
  18. gofynion y cwmni dŵr ar gyfer diheintio, swabio, profi gwasgedd a samplu ac sy’n briodol ar gyfer gwasanaethau masnachol a phrif bibellau tân
  19. mathau o ddulliau inswleiddio a phryd maen nhw’n briodol i’w defnyddio
  20. terfynau eich cyfrifoldeb a sut i ddatrys problemau sydd o fewn eich rheolaeth
  21. gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer delio â phroblemau a rhoi gwybod amdanynt

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSWNC12

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu Rhwydwaith Dŵr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

dŵr, rhwydwaith, adeiladu, hunan-osod, cyfleustodau, gosod, masnachol, gwasanaeth dŵr