Uniadu deunyddiau drwy brosesau electro-ymasiad ar rwydweithiau dŵr LEGACY
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag uniadu deunyddiau drwy brosesau electro-ymasiad. Gellir defnyddio prosesau electro-ymasiad ym mhob tywydd gan ddefnyddio peiriannau awtomatig neu ddim yn awtomatig ac ar ddeunyddiau gwreiddiol gyda'r un raddfa SDR, a math o bolymer.
Mae uniadu deunyddiau drwy electro-ymasiad yn cynnwys darparu amddiffyniad rhag y tywydd, gwirio gwaith paratoi'r uniad, offer a deunyddiau traul, monitro peiriannau, gwneud uniadau electro-ymasiad yn unol â'r manylebau, diffodd yr offer a delio â gwastraff.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un yn y maes adeiladu rhwydweithiau dŵr sy'n gwneud gwaith uniadu electro-ymasiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gweithio yn unol â rheoliadau, canllawiau a gweithdrefnau iechyd, diogelwch a'r amgylchedd bob amser
2. cynnal ac adolygu asesiadau risg safle-benodol yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
3. dewis a gwisgo cyfarpar diogelu personol dynodedig
4. cadarnhau unrhyw amgylchiadau ble mae cyfarwyddiadau neu weithdrefnau'r dasg yn ymddangos yn anghywir gyda'r bobl briodol
5. cadarnhau bod offer uniadu ac offer a deunyddiau traul cysylltiedig fel y nodwyd ac yn addas i’r pwrpas
6. darparu amddiffynyddion digonol rhag y tywydd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol drwy gydol y cyfnod uniadu
7. defnyddio offer codi pan fo angen yn unol â'r rheoliadau cyfredol
8. rhoi gwybod i'r bobl briodol am unrhyw ddifrod neu ddiffygion o ran offer neu ddeunyddiau yn ddi-oed
9. defnyddio'r technegau uniadu electro-ymasiad priodol er mwyn cynhyrchu uniadau o'r safon sydd ei angen
10. uniadu deunyddiau drwy brosesau electro-ymasiad yn unol â'r gweithdrefnau a'r arferion cymeradwy a'r gofynion rheoliadol a statudol
11. cadarnhau bod uniadau sydd wedi'u cwblhau yn cydymffurfio â'r safonau penodedig a'r cywirdeb dimensiynau penodedig
12. diffodd yr offer fel ei fod mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau gweithgareddau uniadu
13. delio â deunydd gormodol a gwastraff ac atodiadau dros dro yn ddi-oed yn unol â'r gweithdrefnau cymeradwy y cytunwyd arnynt
14. cofnodi a storio data a gwybodaeth am uniadu yn systemau gwybodaeth y sefydliad
15. datrys problemau sydd o fewn eich maes cyfrifoldeb yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
16. cyfeirio problemau nad oes modd i chi eu datrys at y bobl briodol gan ddefnyddio'r gweithdrefnau cymeradwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. deddfwriaeth, gweithdrefnau a chodau ymarfer yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a'r amgylchedd gan gynnwys codi a chario, defnyddio offer, deunyddiau peryglus, offer codi, gweithio mewn cloddiadau, asesiadau risg, damweiniau a chyfarpar diogelu personol
2. y cyfarpar diogelu personol sydd ei angen ar gyfer y gwaith
3. codau ymarfer y diwydiant a gweithdrefnau'r cwmni yn ymwneud ag uniadu electro-ymasiad
4. y gwahanol fathau o ddeunyddiau pibelli
5. sut i ddehongli manylebau peirianyddol sy'n berthnasol i brosesau electro-ymasiad
6. y gwahanol gyfnodau sy'n bodoli yn ystod y broses uniadu a phwysigrwydd aros i bob cyfnod ddod i ben
7. pa mor gydnaws yw deunyddiau gwahanol mewn perthynas â gradd cymhareb dimensiwn safonol (SDR) a math o bolymer
8. bod angen cynnal, alinio a chadw pibelli yn eu lle a chanlyniadau camosod a chynhaliaeth wael
9. gweithdrefnau sicrhau ansawdd y gellir eu defnyddio i ganfod diffygion
10. achosion ac effeithiau diffygion a llygredd a sut i'w hosgoi
11. sut i ddefnyddio peiriannau awtomatig a rhai sydd ddim yn awtomatig
12. gweithdrefnau cynnal a chadw offer
13. gweithdrefnau calibro offer
14. canlyniadau diffyg cynnal a chadw offer
15. gweithdrefnau adrodd gan gynnwys pwy ddylai gael gwybod am ddifrod a phroblemau
16. systemau storio gwybodaeth a data