Adfer cydrannau rhwydweithiau dŵr i gyflwr gweithredol LEGACY

URN: EUSWNC10L
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adfer cydrannau rhwydweithiau dŵr i gyflwr gweithredol Mae hyn yn cynnwys trwsio a newid hydoedd byr o'r brif bibell a gosod ffitiadau mecanyddol allanol dros dro neu yn barhaol ar brif bibelli neu wasanaethau.
 
Mae hyn yn golygu paratoi i adfer cydrannau, gwneud y gwaith trwsio neu newid o fewn yr amserlen y cytunwyd arni gan ddefnyddio deunyddiau cymeradwy yn unol â gweithdrefnau'r cwmni.
 
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr adeiladu rhwydweithiau dŵr sy'n adfer cydrannau rhwydweithiau dŵr i gyflwr gweithredol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. gweithio yn unol â rheoliadau a deddfwriaeth iechyd a diogelwch, amgylchedd a hylendid
2. cynnal asesiad risg safle-benodol, a'i adolygu'n unol â gweithdrefnau'r cwmni
3. dewis a gwisgo'r cyfarpar diogelu personol dynodedig 
4. trwsio neu newid cydrannau yn unol â manylebau perthnasol a chyfarwyddiadau gweithio 
5. paratoi cydrannau ar gyfer eu trwsio neu eu newid 
6. gwneud y gwaith trwsio neu newid o fewn yr amserlen y cytunwyd arni  
7. defnyddio deunyddiau a chydrannau cymeradwy ar gyfer trwsio neu newidiadau 
8. sicrhau bod cydrannau sydd wedi cael eu trwsio neu eu newid yn cydymffurfio â'r amodau a'r paramedrau gweithredu dan sylw 
9. gwneud yr holl waith yn unol â gweithdrefnau'r cwmni 
10. cynhyrchu cofnodion cywir a chyflawn o'r holl waith a gafodd ei wneud 
11. delio â phroblemau o fewn eich rheolaeth  
12. cyfeirio problemau a chyflyrau sydd y tu hwnt i'ch cyfrifoldeb neu nad oes modd i chi eu datrys at y bobl briodol  
13. delio ag unrhyw argyfyngau sydd yn codi yn unol â gweithdrefnau cymeradwy


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. deddfwriaeth berthnasol iechyd, diogelwch a'r amgylchedd, gweithdrefnau a chodau ymarfer gan gynnwys y rhai sy'n delio â gwaith cloddio, deunyddiau peryglus, damweiniau a chyfarpar diogelu personol
2. pwysigrwydd cadw at yr holl weithdrefnau hylendid 
3. sut i ddehongli darluniau, cynlluniau a manylebau perthnasol  
4. y cydrannau gwahanol sy'n cael eu defnyddio ar y rhwydweithiau 
dŵr 
5. sut i drwsio uniadau, craciau a thoriadau llorweddol a chylcheddol, cyrydiad a difrod oherwydd ymyrraeth a phryd mae angen newid 
6. sut i drwsio neu newid pibelli a ffitiadau metelaidd ac anfetelaidd  
7. technegau i'w defnyddio i drwsio cydrannau  
8. dulliau newid cydrannau ar gyfer prif bibelli a gwasanaethau 
9. y mathau o offer i'w defnyddio wrth adfer cydrannau i gyflwr gweithredol  
10. y gweithdrefnau gofal a rheolaeth sydd i gael eu defnyddio er mwyn sicrhau cydymffurfiad â rheoliadau hylendid 
11. y gwahanol fathau o gofnodion a dogfennau sy'n cael eu defnyddio i gofnodi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

NCO216

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr, Peiranneg, Goruchwyliwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr

Cod SOC

5314

Geiriau Allweddol

dŵr, rhwydwaith, gweithrediadau, cyfleustod, cyfleustodau