Paratoi mannau gwaith a deunyddiau ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith dŵr

URN: EUSWNC1
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydweithiau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Mai 2023

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â pharatoi mannau gwaith a deunyddiau ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith dŵr. Mae hyn yn cynnwys ystyried amrywiadau hinsoddol, sicrhau bod y man gwaith yn addas ar gyfer gweithgareddau gwaith, gwirio bod pibellau, ffitiadau, deunyddiau adfer a pheiriannau ar gael, cael a pharatoi deunyddiau a sicrhau bod trefniadau diogelwch ar waith.
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr rhwydweithiau dŵr sy'n paratoi mannau gwaith a deunyddiau ar gyfer gweithgareddau peirianyddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio yn unol â rheoliadau a chanllawiau iechyd, diogelwch, yr amgylchedd, ansawdd dŵr a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill bob amser
  2. gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd gwaith yn addas ar gyfer gweithgareddau gwaith
  3. sicrhau bod deunyddiau a chynhyrchion gorffenedig yn cael eu storio’n addas
  4. sicrhau bod yr holl gyflenwadau gwasanaeth angenrheidiol wedi'u cysylltu ac yn barod i'w defnyddio
  5. cael yr holl ddeunyddiau sydd eu hangen yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau gwaith
  6. paratoi deunyddiau ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  7. sicrhau bod y trefniadau diogelwch gofynnol ar waith i amddiffyn pobl eraill rhag gweithgareddau gwaith
  8. rhoi gwybod i'r bobl briodol pan fo'r paratoadau wedi'u cwblhau
  9. delio â phroblemau sydd o fewn eich rheolaeth yn ddi-oed
  10. rhoi gwybod i'r bobl briodol am broblemau nad oes modd i chi eu datrys

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deddfwriaeth iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a deddfwriaeth berthnasol arall, gweithdrefnau sefydliadol a chodau ymarfer gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â sylweddau peryglus, dylunio a rheoli adeiladu, offer gwaith, codi, ffyrdd a gwaith stryd
  2. rheoliadau dŵr a gweithdrefnau hylendid sy’n ymwneud â sicrhau cyfanrwydd ac effeithiolrwydd cyflenwadau dŵr, gan gynnwys pwysigrwydd hylendid personol
  3. sut mae dehongli cyfarwyddiadau gwaith a manylebau dylunio ac adeiladu cwmnïau dŵr
  4. gofynion storio ar gyfer pibelli, ffitiadau, deunydd adfer a pheiriannau mewn amodau tywydd gwahanol
  5. gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer gwaredu gwastraff
  6. effaith gwahanol fathau o ardaloedd gwaith ar ofynion paratoi gan gynnwys ardaloedd poblog, mynediad anodd, mynediad o bell, safleoedd rhyngasiantaethol, priffyrdd, tir preifat
  7. nodweddion amrywiol deunyddiau pibelli, ffitiadau, a deunyddiau adfer gwahanol
  8. pam ei bod yn bwysig bod deunyddiau yn gydnaws â manyleb y swydd
  9. dulliau trin a pharatoi deunyddiau ar gyfer pibelli, ffitiadau a deunyddiau adfer
  10. pwysigrwydd gofalu am, a chynnal a chadw, offer gan gynnwys mesurau diogelwch ar y safle
  11. mathau o ofynion amddiffyn a diogelwch mewn mannau gweithio gan gynnwys sgriniau, rhybuddion, llochesi, conau, rhwystrau, arwyddion a goleuadau
  12. gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer delio â phroblemau a rhoi gwybod amdanynt, gan gynnwys ffurflenni safonol a gymeradwywyd gan y diwydiant neu yn y cwmni

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSWNC1

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu Rhwydwaith Dŵr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

dŵr, rhwydwaith, adeiladu, pibellau, deunyddiau, hunan-osod, cyfleustodau, storio, peiriannau, asedau