Casglu adborth gan gleientiaid a chwsmeriaid a gweithredu yn ei gylch i wella gwasanaethau rheoli adnoddau gwastraff
URN: EUSWM23
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2019
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â chasglu adborth gan gleientiaid a chwsmeriaid a gweithredu yn ei gylch yn y diwydiant rheoli adnoddau gwastraff. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol. Gallai’r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw ran o’r diwydiant rheoli adnoddau gwastraff.
Mae’n cynnwys casglu gwybodaeth, ei dadansoddi i nodi problemau a meysydd am welliant posibl, cyfathrebu â chleientiaid am ddarparu gwasanaethau a datrys materion a phroblemau, ffurfio gwelliannau, ymgynghori â rhanddeiliaid a chyfathrebu â phawb dan sylw am welliannau awdurdodedig.
Mae hwn i reolwyr neu oruchwylwyr unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cychwyn systemau adborth cwsmeriaid ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir
2. datblygu a defnyddio dangosyddion perfformiad allweddol i fonitro ac adrodd am dueddiadau a pherfformiad ar sail adborth cwsmeriaid
3. cadw mewn cysylltiad rheolaidd â chleientiaid i adolygu eu hanghenion busnes a’u bodlonrwydd ar y gwasanaethau
4. gwerthuso adborth gan gleientiaid a chwsmeriaid am ei bwysigrwydd a’i effaith ar weithrediadau
5. nodi materion a allai effeithio ar gadw busnes rheoli adnoddau gwastraff a’i gynhyrchu yn y dyfodol
6. ymateb i adborth negyddol a chymryd camau cywiro yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
7. rhoi gwybod i’r bobl briodol am gwynion cwsmeriaid am ymddygiad anniogel neu anfoddhaol gan gynrychiolwyr y sefydliad
8. cynnal gweithdrefnau i gydnabod a chofnodi canfyddiadau cwsmeriaid am broblemau a chlod am wasanaeth da
9. ymgynghori ag arbenigwyr gweithredol i ffurfio gwelliannau posibl i wasanaethau
10. nodi gwelliannau y gellir eu gwneud i wasanaethau i gleientiaid a gefnogir drwy ddadansoddi adborth
11. gwneud argymhellion i wella gwasanaethau sy’n bodloni gofynion cleientiaid
12. creu a chyfiawnhau cynigion manwl o argymhellion cychwynnol ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid
13. cymryd camau cywiro i unioni unrhyw wyriadau oddi wrth delerau contractau neu gytundebau a nodwyd
14. trefnu bod cleientiaid yn cael gwybod os oes problemau gweithredol yn effeithio ar ddarparu gwasanaeth
15. sicrhau bod yr holl ddogfennaeth a chyfathrebu yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol
16. cadw cofnodion o ddatgeliadau o fudd a freiniwyd o ganlyniad i’r rhaglen gofal cwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. deddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarferol sy’n berthnasol i ddiogelwch, iechyd a’r amgylchedd ar gyfer gweithgareddau rheoli adnoddau gwastraff gan gynnwys diogelu data
- deddfwriaeth ac arweiniad rheoli gwastraff sy’n berthnasol i safleoedd rheoli adnoddau gwastraff
3. egwyddorion yr economi gylchol a sut maent yn berthnasol i ymarfer eich sefydliad chi4. pryd mae’n briodol addysgu cleientiaid a chwsmeriaid am arfer rheoli adnoddau gwastraff5. y gofynion cyfreithiol a’r gweithdrefnau cwmni ar gyfer ymdrin â deunyddiau anawdurdodedig6. y gweithdrefnau ar gyfer rheoli priodol gweithgareddau gwaith ar eich safleoedd eich hunain a’ch cleientiaid7. y gweithdrefnau a’r polisi amgylcheddol sefydliadol sy’n berthnasol i’r gwasanaethau a ddarperir8. y gofynion dadansoddi risg i leihau peryglon i bersonél a’r amgylchedd o ran y gwasanaethau a ddarperir9. pwysigrwydd adborth cwsmeriaid a chleientiaid a sut mae ymateb10. sut mae gwerthuso adborth o ran effaith ar weithrediadau11. sut mae casglu a defnyddio gwybodaeth ansoddol a meintiol12. y mathau o broblemau sy’n gallu codi wrth gasglu gwybodaeth a sut mae goresgyn y rhain13. gofynion adrodd14. sut mae cofnodi a storio gwybodaeth yn ddiogel a chynnal cyfrinachedd15. polisïau, gweithdrefnau a chyfyngiadau adnodd sefydliadol a allai effeithio ar y cyngor a’r wybodaeth a roir i eraill16. pwysigrwydd nodi anghenion y cleient a sut mae nodi anghenion yn ddigon manwl i ddatblygu cynigion17. sut mae datblygu achosion rhesymedig a chyd-drafod gyda chleientiaid posibl a gwirioneddol18. egwyddorion cyfrinachedd wrth ymdrin ag adborth o gwsmeriaid a chleientiaid19. amcanion y sefydliad mewn perthynas â gwarchod yr amgylchedd, iechyd a diogelwch, proffidioldeb, canlyniadau gweithredol a safonau ansawdd20. datblygiadau diweddar mewn technoleg a gweithdrefnau gweithredol yn y diwydiant rheoli adnoddau gwastraff21. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rheoli priodol gweithgareddau gwaith ar safleoedd cwsmeriaid22. pwysigrwydd monitro gweithrediad gwasanaeth a sut mae ymdrin â phroblemau sy’n codi yn ystod y gweithredu23. sut mae cwblhau’r holl waith papur perthnasol24. y peryglon posibl i ddiogelwch, iechyd a’r amgylchedd sy’n codi o’r gweithgareddau a gyflawnir i ddarparu’r gwasanaeth25. y cofnodion sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth a chan weithdrefnau’r cwmni mewn perthynas â’r gweithgareddau a gyflawnir i ddarparu’r gwasanaeth26. sut mae dehongli dogfennaeth broses a gwirio bod yr wybodaeth yn gywir a’i bod yn berthnasol i’r adnoddau gwastraff yr ymdrinnir â hwy wrth ddarparu’r gwasanaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
WM28
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff
Cod SOC
1255
Geiriau Allweddol
rheoli, rheolaeth, cwsmer, gofal, gwella, gwastraff, gwasanaethau, cyfleustod, cyfleustodau, canfyddiadau, dangosyddion perfformiad, adborth cwsmeriaid