Cyfathrebu â chwsmeriaid yn y diwydiant rheoli adnoddau gwastraff
URN: EUSWM22
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2019
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â rhoi gwybodaeth neu gyngor i gwsmeriaid yn y diwydiant rheoli adnoddau gwastraff, gan gynnwys rhanddeiliaid mewnol neu allanol, ac ymateb i’w hymholiadau neu gwynion mewn modd cadarnhaol. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol.
Mae’n cynnwys cyfathrebu’n effeithiol, gan ymdrin â chwsmeriaid cydweithredol ac anghydweithredol, cytuno i weithredu i ddatrys unrhyw faterion a chyfeirio materion y tu hwnt i’ch maes cyfrifoldeb at y bobl briodol.
Mae’r Safon hon i unrhyw un yn y sector rheoli adnoddau gwastraff sy’n dod i gysylltiad â chwsmeriaid gan gynnwys rhanddeiliaid mewnol neu allanol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. trin cwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau sefydliadol bob amser
2. rhoi gwybodaeth neu gyngor i gwsmeriaid sy’n gywir, o fewn eich maes cyfrifoldeb ac yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
3. ymateb i ymholiadau neu gwynion cwsmeriaid yn unol â’r gofynion sefydliadol am gyswllt â chwsmeriaid
4. pennu manylion ymholiadau neu gwynion cwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
5. sicrhau bod y broses o ymdrin â chwsmeriaid yn cael ei hamseru i ystyried anghenion cwsmeriaid eraill, pwysau gwaith a gofynion sefydliadol
6. sicrhau bod unrhyw gamau gweithredu y cytunir arnynt â chwsmeriaid yn unol â chyfrifoldebau a gofynion cyfreithiol a sefydliadol
7. egluro rhwystrau a gwelliannau sefydliadol mewn arfer rheoli adnoddau gwastraff mewn modd clir i gwsmeriaid ar adegau priodol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
8. cadarnhau bod cwsmeriaid yn deall unrhyw gamau gweithredu y mae gofyn i chi neu iddyn nhw eu cymryd
9. defnyddio dulliau priodol i ymdrin â chwsmeriaid cydweithredol ac anghydweithredol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
10. trosglwyddo’r manylion i’r bobl berthnasol yn ddi-oed lle aethpwyd heibio i derfynau cyfrifoldeb
11. cyflawni gweithgareddau y cytunwyd arnynt yn unol â chanllawiau gwasanaeth cwsmeriaid y sefydliad
12. cofnodi rhyngweithio â chwsmeriaid yn briodol o fanwl mewn systemau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. safonau gwasanaeth cwsmeriaid y sefydliad a’i weithdrefnau cysylltu â chwsmeriaid
2. technegau cyfathrebu gan gynnwys sut mae cadw dull cwrtais, cymwynasgar a doeth mewn sefyllfaoedd o wrthdaro neu ddiffyg cydweithredu
3. rhwymedigaethau a gofynion cyfreithiol y cyfleustodau yr ydych yn gweithio gyda hwy o fewn cylch gwaith eich swydd
4. mathau o gyngor y gallwch eu rhoi efallai a’r ymholiadau y byddai disgwyl fel arfer ichi ymdrin â hwy
5. prosesau’r sefydliad ar gyfer cysylltu â’r cyfryngau
6. sut mae rheoli disgwyliadau’r cwsmer a chydbwyso anghenion y cwsmer a’r sefydliad
7. cyfyngiadau personol a sefydliadol o ran awdurdod i ymdrin â chwsmeriaid, rhanddeiliaid mewnol ac allanol
8. sut mae cyfathrebu â chwsmeriaid gan gynnwys siarad, gwrando a holi
9. technegau i gadarnhau bod y llall wedi deall gwybodaeth
10. pwysigrwydd deall safbwyntiau cwsmeriaid
11. sut mae cwsmeriaid yn ymwneud â’ch gwaith, neu sut mae eich gwaith yn effeithio arnynt hwy
12. pryd mae’n briodol egluro gwelliannau mewn arfer rheoli adnoddau gwastraff i gwsmeriaid
13. sut mae ymdrin ag anghytuno a gwrthdaro
14. sut mae cael at wybodaeth hanfodol a sut mae ei chrynhoi i gwsmeriaid
15. terfynau eich awdurdod eich hun ac at bwy i gyfeirio pan fydd ymholiadau a chwynion heibio i’r terfynau hynny
16. gofynion sefydliadol i gofnodi rhyngweithio â chwsmeriaid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSWM22
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff
Cod SOC
1255
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid, gwastraff, adnodd, rheoli, cyfathrebu