Cynnal, datblygu a rhannu arbenigedd a gwybodaeth am reoli adnoddau gwastraff a chynaliadwyedd
URN: EUSWM21
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2019
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â chynnal a datblygu arbenigedd a gwybodaeth dechnegol, weithredol o ran rheoli adnoddau gwastraff, gan gynnwys arfer gwarchod yr amgylchedd. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol.
Mae’r Safon hon yn cynnwys nodi’r arbenigedd sydd ei angen arnoch i wneud eich gwaith heddiw ac yn y dyfodol, nodi datblygiadau mewn rheoli adnoddau gwastraff ac ymarfer a rheoliadau amgylcheddol, nodi eich gofynion datblygu a dewis a gweithredu gweithgareddau datblygu priodol i gadw’ch gwybodaeth a’ch sgiliau yn gyfoes. Mae hefyd yn cynnwys rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau gyda phobl eraill.
Mae’r Safon hon i reolwyr a goruchwylwyr yn y sector rheoli adnoddau gwastraff.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. monitro datblygiadau yn y sector rheoli adnoddau gwastraff a gofynion gwarchod yr amgylchedd, gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau priodol
2. chwilio am enghreifftiau o arfer amgylcheddol da sy’n berthnasol i’r gweithrediadau rheoli adnoddau gwastraff yr ydych yn gyfrifol amdanynt
3. asesu effaith gofynion gwarchod yr amgylchedd newydd ar arfer presennol yn barhaus
4. gwerthuso’n barhaus gyfraniad posibl gweithdrefnau a dulliau rheoli adnoddau gwastraff sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas ag arfer presennol
5. cynnal dadansoddiad cywir o’ch sgiliau a’ch gwybodaeth eich hun mewn perthynas â’r hyn sy’n ofynnol ichi wneud eich swydd
6. gwerthuso buddion a chostau gweithgareddau datblygiad proffesiynol priodol
7. cynnal a diweddaru sgiliau a gwybodaeth ar adegau priodol
8. annog adborth ac awgrymiadau gan bobl eraill ar adegau priodol
9. darparu gwybodaeth i eraill am arfer da sy’n dod i’r amlwg pan all gael effaith gadarnhaol ar weithgareddau rheoli adnoddau gwastraff a gwarchod yr amgylchedd
10. gwneud gwybodaeth ar gael i gydweithwyr mewn modd sy’n hwyluso dealltwriaeth a rhwyddineb cyfeirio
11. cefnogi pobl eraill i weithredu gwell arferion rheoli adnoddau gwastraff a gwarchod yr amgylchedd ar adegau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. egwyddorion rheoli adnoddau gwastraff yn gynaliadwy
2. ffactorau a allai atal deunyddiau rhag cael eu rheoli yn y modd mwyaf cynaliadwy
3. yr hierarchaeth wastraff a’i chymhwyso mewn rheoli adnoddau gwastraff yn gynaliadwy
4. egwyddorion sy’n sail i’r hierarchaeth wastraff a’i chysylltiadau â deddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol
5. y pum cam yn yr hierarchaeth wastraff a’u cysylltiadau â dulliau trin ffisegol, cemegol, thermol a biolegol
6. egwyddorion yr economi gylchol a sut maent yn berthnasol i ymarfer eich sefydliad
7. effeithiau amgylcheddol cadarnhaol a negyddol dargyfeirio adnoddau gwastraff i ffwrdd o’r safle tirlenwi
8. egwyddorion a gweithdrefnau trosglwyddo a thrin
9. systemau addas y gellir eu defnyddio i gyflenwi gwahanol ddeunyddiau yr ydych yn ymwneud â hwy o’r cynhyrchwr i gyfleuster trosglwyddo a thrin
10. meini prawf ar gyfer derbyn a gwrthod sy’n berthnasol i’ch maes gweithredu chi
11. dulliau, egwyddorion, buddion technegol ac amgylcheddol a phrotocolau ansawdd cysylltiedig y dulliau trin yr ydych yn ymwneud â hwy
12. mathau o ddeunydd y gellir ac na ellir eu trin a’r effaith y gall gwahanol fathau o ddeunydd ei chael ar brosesau trin
13. sut mae rheoli allyriadau, cynhyrchion a gwastraff gweddilliol o brosesau trin
14. defnyddiau cynhyrchion dulliau trin yn y pen draw
15. cyfyngiadau dulliau trin, problemau cysylltiedig â hwy, a ffactorau a allai gyfyngu ar ddefnyddio dulliau trin
16. pam mae’n bwysig sicrhau y cydymffurfir â thrwydded amgylcheddol i gyfleusterau trin
17. gofynion deddfwriaethol, rheoliadau, codau ymarfer ac arweiniad perthnasol
18. y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer y gweithgareddau rheoli adnoddau gwastraff yr ydych yn ymwneud â hwy
19. ffynonellau credadwy o wybodaeth am ddatblygiadau mewn arfer, cynhyrchion sy’n dod i’r amlwg a rheoliadau newydd
20. ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am farn y cyhoedd am arfer da mewn perthynas â rheoli adnoddau gwastraff
21. y gweithgareddau datblygiad proffesiynol sydd ar gael
22. technegau dadansoddi cost a budd
23. sut mae caffael gwahanol fathau o ddatblygiad proffesiynol
24. sut mae nodi a chael gwybodaeth am ddatblygiadau sy’n dod i’r amlwg mewn arfer rheoli adnoddau gwastraff a beth allant ei gyflawni
25. ar bwy allai fod angen gwybodaeth am ddatblygiadau technegol a phryd maen nhw’n berthnasol
26. ei bod yn bwysig i chi a’ch sefydliad gadw i fyny ag arfer sy’n dod i’r amlwg, rheoliadau newydd a datblygiadau eraill
27. pam mae’n bwysig ymateb yn gadarnhaol i adborth ac awgrymiadau pobl eraill gan gynnwys cleientiaid, cwsmeriaid a chydweithwyr
28. sgiliau pobl eraill yn y proffesiwn
29. y rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol perthnasol, canllawiau a gweithdrefnau a systemau cwmni a sut mae cael gwybodaeth amdanynt
30. graddau eich cyfrifoldeb eich hun ac i bwy y dylech adrodd os oes gennych broblemau nad allwch eu datrys
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
WM33
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff
Cod SOC
1255
Geiriau Allweddol
rheoli gwastraff; cynaliadwyedd, arfer amgylcheddol, rheoliadau