Rheoli a chynnal systemau effeithiol i ymateb i argyfyngau
URN: EUSWM20
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2019
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â gweithredu systemau a mecanweithiau i ymateb i argyfyngau. Gall argyfyngau fod yn rhai gwirioneddol neu bosibl a gallant fod yn berthnasol i dân, damweiniau, gollyngiadau, tanseilio diogelwch, difrod i eiddo, digwyddiadau amheus neu ddiffoddiad pŵer. Mae’n cynnwys datblygu, gweithredu ac adolygu cynlluniau a gweithdrefnau argyfwng, trefnu ymarferion, trefnu hyfforddiant, llunio adroddiadau digwyddiad ac argyfwng, cyfathrebu ag eraill am weithdrefnau a digwyddiadau.
Mae’r Safon hon i unrhyw un sy’n gyfrifol am reoli a chynnal systemau i ymateb i argyfyngau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. nodi sefyllfaoedd argyfwng posibl ar gyfer pob gweithgaredd yn eich maes cyfrifoldeb
2. adolygu systemau a gweithdrefnau argyfwng er mwyn iddynt ddarparu ymatebion effeithiol i argyfyngau a allai godi
3. dyfeisio a gweithredu systemau a gweithdrefnau argyfwng newydd lle nad oes rhai’n bodoli
4. sefydlu a chynnal rhaglenni arolygu a chynnal a chadw ataliol ar gyfer cyfarpar argyfwng er mwyn iddo fod ar gael ac yn wasanaethgar drwy’r amser
5. cyflwyno a sefydlu mecanweithiau i gyfathrebu cynlluniau a gweithdrefnau argyfwng â’r bobl dan sylw mewn ffyrdd sy’n addas i’r mathau o wybodaeth sy’n cael eu rhoi
6. trefnu bod ymarferion yn cael eu cynnal o fewn gweithrediadau gwaith arferol
7. cofnodi ymarferion yn ôl gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
8. cael adborth gan yr holl bobl sy’n cyfranogi mewn ymarferion argyfwng ar adegau priodol
9. defnyddio adborth i wella gweithdrefnau ac arferion ar gyfer sefyllfaoedd argyfwng
10. cynnal adolygiadau o weithdrefnau argyfwng sefydledig, a’r cyfarpar a’r adnoddau sy’n ofynnol arnynt
11. trefnu bod unrhyw ddiffygion a nodwyd drwy adolygiadau ac ymarferion yn cael sylw yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
12. cynnal rhaglenni hyfforddi i fodloni gofynion adrodd ar gyfer digwyddiadau a damweiniau
13. hyfforddi staff ar adegau priodol ar y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer nodi ac ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau
14. cadw cofnod o hyfforddiant mewn gweithdrefnau argyfwng a damweiniau i’r holl staff a gyflogir
15. rhoi gweithdrefnau adrodd argyfwng a damweiniau ar waith am bob gweithgaredd yn y gweithle
16. gwerthuso adroddiadau digwyddiad a damwain ar adegau priodol
17. gwneud gwelliannau i gynlluniau a gweithdrefnau argyfwng i leihau neu ddileu risgiau o beryglon a nodwyd
18. cynghori cydweithwyr a rheolwyr am ddamweiniau, digwyddiadau, ymyriadau â gwaith neu unrhyw sefyllfaoedd sy’n mynnu eu sylw
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. mathau o argyfwng a allai godi ar y safle
2. deddfwriaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol berthnasol
3. gweithdrefnau sefydliadol am ymateb i argyfyngau
4. peryglon iechyd galwedigaethol sy’n codi o ganlyniad i argyfyngau gan gynnwys bod yn agored i sylweddau peryglus, iechyd meddwl a chodi corfforol
5. gofynion cynllunio ac adnodd ar gyfer ymateb i dân, damweiniau, gollyngiadau, tanseilio diogelwch, difrod i eiddo, digwyddiadau amheus, diffoddiad pŵer
6. mathau o ddata a gofnodir a ddefnyddir i adolygu systemau ar gyfer ymateb i argyfyngau
7. diffygion y gellir eu nodi yn ystod adolygiad a dulliau eu datrys
8. pobl ddynodedig ar gyfer digwyddiadau ac argyfyngau a sut a phryd i gysylltu â hwy
9. pam mae’n bwysig i’r holl bersonél gael hyfforddiant am sut i ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau
10. sut mae trefnu hyfforddiant argyfwng a gwirio cymhwysedd darparwyr hyfforddiant
11. beth ddylai hyfforddiant ei gynnwys gan gynnwys math o ddamwain ac argyfwng, deddfwriaeth a gweithdrefnau ac effeithiau posibl ar iechyd meddwl a chorfforol
12. gofynion cadw cofnodion mewn perthynas â’r hyfforddiant a wnaethpwyd
13. pam mae’n bwysig cael systemau effeithiol i ymateb i argyfyngau
14. gofynion cadw cofnodion ar gyfer digwyddiadau, damweiniau ac argyfyngau eraill
15. gweithdrefnau sefydliadol a gofynion cyfreithiol mewn perthynas ag ymarferion
16. sut mae gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau a gweithdrefnau
17. sut mae casglu a dadansoddi gwybodaeth gan bobl a data perthnasol arall
18. sut mae ymateb i newidiadau iechyd meddwl a chorfforol unigolyn o ganlyniad i sefyllfaoedd argyfwng
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
WM24
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff
Cod SOC
1255
Geiriau Allweddol
rheoli, trawsgludo, gwastraff, cyfleustod, cyfleustodau, polisi amgylcheddol