Rheoli effaith amgylcheddol gweithgarwch rheoli adnoddau gwastraff
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â rheoli effaith amgylcheddol gweithgarwch rheoli adnoddau gwastraff. Gall effaith amgylcheddol fod mewn perthynas â gweithgareddau gwaith, defnydd adnoddau a thân. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol. Gallai’r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. trefnu adnoddau a gweithgareddau gwaith mewn ffordd sy’n lleihau effaith amgylcheddol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. egwyddorion rheoli adnoddau gwastraff yn gynaliadwy
ffactorau a allai atal deunyddiau rhag cael eu rheoli yn y modd mwyaf cynaliadwy
yr hierarchaeth wastraff a’i chymhwyso wrth reoli adnoddau gwastraff yn gynaliadwy
4. yr egwyddorion sy’n sail i’r hierarchaeth wastraff a’i chysylltiadau â deddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol5. yr egwyddorion a’r arferion sy’n gysylltiedig â’r economi gylchol6. effeithiau amgylcheddol cadarnhaol, niwtral a negyddol yn sgil dargyfeirio deunyddiau i ffwrdd o’r safleoedd tirlenwi7. gofynion deddfwriaethol, codau ymarfer ac arweiniad sy’n berthnasol i drosglwyddo a thrawsgludo deunyddiau o’r safle8. gweithdrefnau sefydliadol a mesurau rheoli ar gyfer rheoli effaith amgylcheddol gweithgareddau gwaith9. sut mae asesu effaith gweithgareddau gwaith ac adnoddau ar yr amgylchedd, gan gynnwys dadansoddiad risg10. ffynonellau cyngor arbenigol i reoli effaith amgylcheddol gweithgareddau gwaith, adnoddau a thân11. sut mae lleihau a monitro effaith amgylcheddol gweithgareddau gwaith ac adnoddau12. dulliau i’w defnyddio i adnabod mathau a lleoliadau deunyddiau hylosg a fflamadwy a ffynonellau tanio posibl13. y deunyddiau hylosg a fflamadwy a’r ffynonellau tanio posibl ar y safle14. ffactorau sy’n gallu effeithio ar debygolrwydd hylosgi neu danio a sut mae eu rheoli, gan gynnwys storio a dylanwadau amgylcheddol15. mesurau rheoli sy’n ceisio lleihau risg tân a’r effaith pe byddai tân yn digwydd16. gofynion cyfreithiol ac arweiniad cyfredol i reoli risg tân ar y safle17. gweithdrefnau sefydliadol i reoli risg tân ar y safle