Cynnal iechyd, diogelwch a lles yn y diwydiant rheoli adnoddau gwastraff
URN: EUSWM18
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2019
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â chynnal iechyd, diogelwch a lles yn y diwydiant rheoli adnoddau gwastraff. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol. Gallai’r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.
Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod peryglon a risgiau’n cael eu rheoli’n ddiogel ac yn effeithiol, rhoi gweithdrefnau iechyd a diogelwch sefydliadol ar waith a monitro ac adolygu diogelwch a lles ar y safle.
Mae hwn i reolwyr neu oruchwylwyr unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal asesiadau risg a rhoi mesurau rheoli ar waith ar adegau priodol
- cadw cofnodion cywir o anghysondebau gweithle mewn systemau sefydliadol cymeradwy
3. hysbysu unrhyw un sy’n dod i’r safle am y peryglon, y risgiau a’r camau gofynnol i’w lleihau
4. adrodd am beryglon i’r bobl briodol
5. cadarnhau y cytunwyd rhagofalon i reoli risgiau â’r bobl sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch ar y safle
6. sicrhau ar adegau priodol fod camau a argymhellir wedi’u cymryd
7. gweithredu gweithdrefnau iechyd a diogelwch gweithle mewn perthynas â phob perygl a nodwyd
8. sicrhau bod gweithdrefnau ar waith i sicrhau cymwyseddau diogelwch a lles cyflogeion
9. monitro yn y gweithle ar adegau a gytunwyd ac yn unol â chyfarwyddiadau gweithle
10. ymateb i unrhyw achosion o danseilio deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn unol â gofynion sefydliadol a rheoleiddiol
11. cynllunio hyfforddiant i fynd i’r afael ag anghenion hyfforddiant a nodwyd mewn perthynas ag iechyd a diogelwch
12. adolygu perfformiad diogelwch a lles ar y safle ar adegau priodol
13. gofyn am adborth ar berfformiad diogelwch a lles gan bobl berthnasol
14. argymell newidiadau i weithdrefnau iechyd a diogelwch y sefydliad i’r bobl briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. prif ofynion cyfreithiol deddfwriaeth iechyd a diogelwch ar gyfleusterau rheoli adnoddau gwastraff, mewn perthynas â chyflogwyr, cyflogeion a phobl eraill
2. gweithdrefnau iechyd a diogelwch gweithle mewn perthynas ag offer, peiriannau, cyfarpar, cemegolion, tân, cymorth cyntaf, goruchwylio ymwelwyr a chontractwyr, symudiadau cerbyd ac unrhyw beryglon eraill sy’n benodol i safle
3. y weithdrefn i’w dilyn i sicrhau bod gan bawb ddigon o wybodaeth am beryglon, risgiau a’r camau gofynnol i’w lleihau gan gynnwys staff presennol, ymwelwyr, staff newydd neu asiantaeth, contractwyr allanol ac unrhyw bobl berthnasol eraill
4. y gwahanol ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am iechyd a diogelwch
5. sut mae dod o hyd i wybodaeth gyfredol am iechyd a diogelwch
6. y prif nodweddion a gofynion cyfreithiol o ran asesu risg tân, cynlluniau rheoli damweiniau, rheoli sylweddau peryglus, darparu a defnyddio cyfarpar gwaith a defnyddio cyfarpar codi
7. y peryglon iechyd galwedigaethol sy’n gysylltiedig â’r gwaith gan gynnwys iechyd meddwl a lles, codi corfforol a sylweddau peryglus
8. y gwahaniaeth rhwng perygl a risg
9. sut mae cwblhau asesiad risg
10. y gwahaniaeth rhwng asesiad risg ffurfiol a dynamig
11. yr hierarchaeth o ‘fesurau rheoli’
12. y nodweddion ar sylweddau peryglus a’u labeli rhybudd
13. y mathau o gyfarpar diogelu personol sy’n ofynnol a sut mae’n rhaid eu defnyddio, eu cynnal a’u storio
14. prif achosion damweiniau a digwyddiadau ar y safle
15. canllawiau cyfredol rheoleiddwyr i sut mae ymchwilio i ddamweiniau a digwyddiadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
WS02
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff
Cod SOC
1255
Geiriau Allweddol
iechyd, diogelwch, gweithio, amgylchedd, gwastraff, rheoli, hylendid personol, diogelwch, gweithdrefnau, peryglon posibl