Monitro a rheoli gweithdrefnau gweithredu sy’n ofynnol i gydymffurfio â deddfwriaeth
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â monitro a rheoli gweithdrefnau gweithredol sy'n ofynnol i gydymffurfio â deddfwriaeth yn y diwydiant rheoli adnoddau gwastraff. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol. Gallai’r safon hon fod yn berthnasol i gasglu unrhyw fath o ddeunyddiau ar gyfer unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
sefydlu rhaglenni monitro ac adolygu rheolaidd i’r holl weithrediadau safle er mwyn cynnal cydymffurfio â gweithdrefnau
- cwblhau prosesau monitro ac adolygu i gofnodi data o amodau gweithredu derbyniol, amodau gweithredu annormal a systemau adrodd ar gyfer amrywiadau
monitro’r holl weithdrefnau a gynlluniwyd i fodloni gofynion cydymffurfio yn rheolaidd
4. adolygu gweithdrefnau ar adegau a gytunwyd â phersonél sefydliadol a rheoleiddiol5. adolygu gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn rheolaidd i gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol6. adolygu gweithdrefnau amgylcheddol yn rheolaidd i gynnal cydymffurfiad â gofynion effaith amgylcheddol a aseswyd7. argymell gweithdrefnau newydd neu wedi’u diweddaru lle mae data o fonitro yn nodi bod eu hangen8. sicrhau bod gweithdrefnau’n ymdrin â phob sefyllfa weithredol ar safle sefydliadol ac ar gyfer presenoldeb mewn cyfleusterau allanol
9. adolygu, gweithredu a monitro prosesau lle nodir diffyg cydymffurfio
10. cynnal gweithdrefnau sefydliadol wedi’u diweddaru yn unol â gofynion deddfwriaethol newydd, codau ymarfer cymeradwy ac arferion gorau eraill y diwydiant11. cynnal systemau cofnodi a gwybodaeth mewn ffordd sy’n galluogi eu defnyddio i dynnu gwybodaeth at ddibenion adolygu a monitro
12. ymdrin ag unrhyw fethiannau cydymffurfio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol13. holi arbenigwyr perthnasol am gyngor i ddatrys sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’ch maes cyfrifoldeb chi14. unioni unrhyw faterion sy’n atal trefnau cydymffurfio rhag cael eu cynnal yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion deddfwriaethol, rheoliadau, codau ymarfer ac arweiniad cyfredol ac i ddod sy’n berthnasol i’r prosesau a gyflawnir ar y safle
caniatâd cynllunio, gofynion trwydded a system reoli amgylcheddol ar gyfer y safle
prosesau monitro ar gyfer yr holl beiriannau, offer a chyfarpar a ddefnyddir ar y safle
cofnodion sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth a gweithdrefnau cwmni mewn perthynas â gweithgareddau’r safle
5. gweithdrefnau sefydliadol i ymdrin â deunyddiau sy’n cynnwys deunyddiau y tu hwnt i fanyleb ac unrhyw beth arall a wrthodwyd o’r broses6. ffynonellau gwybodaeth am ddeddfwriaeth, codau ymarfer ac arfer gorau diwydiant sy’n newydd ac sy’n dod i’r amlwg7. prosesau sefydliadol ar gyfer datblygu a diweddaru gweithdrefnau8. dulliau i gyfathrebu data a gwybodaeth sy’n ofynnol i gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a gweithdrefnau sefydliadol9. gweithdrefnau storio a thrin a thrafod ar gyfer y mathau o ddeunydd sy’n cael eu trin a’u trafod ar y safle10. sut a phryd mae cael at arbenigwyr gan gynnwys y rheini ar gyfer rheoli gwastraff, rheoli adnoddau, gwarchod yr amgylchedd, iechyd a diogelwch ac adnoddau dynol11. materion sy’n gallu atal cynnal trefnau cydymffurfio gan gynnwys prinderau staff, diffygion cyfarpar, ffactorau allanol