Rheoli gweithrediadau safle ar gyfer adfer tir halogedig
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â rheoli gweithrediadau safle ar gyfer adfer tir halogedig. Mae’n cynnwys rheoli gweithrediadau a rheoli’r holl weithgareddau gwaith sy’n berthynol i adfer tir halogedig. Mae hyn yn cynnwys trefnu ar gyfer storio cynnyrch yn ddiogel, trefnu bod samplau o ddeunyddiau a driniwyd yn cael eu dadansoddi a threfnu bod deunyddiau nad ydynt yn bodloni safonau ansawdd yn cael eu hailweithio neu eu gwaredu. Rhaid i bob gweithdrefn gael ei gweithredu mewn cydymffurfiad â’r gofynion deddfwriaethol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gweithredu systemau a gweithdrefnau ar gyfer gweithrediadau trin i adfer tir halogedig yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
- trefnu cyflenwi’r deunyddiau, cyfarpar a gwybodaeth sydd eu hangen i gyflawni’r gweithrediadau trin
3. trefnu bod cynnyrch o weithrediadau trin yn cael ei storio’n ddiogel4. sicrhau bod pob gweithdrefn a phroses trin gwastraff yn cael eu dilyn gan y rheini sy’n ymwneud â’r gwaith
5. sicrhau bod nifer digonol o bersonél hyfforddedig ar gael i wneud y gwaith adfer6. monitro gweithgarwch staff ar weithrediadau trin i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion ansawdd7. gweithredu rhaglen hyfforddi i staff i sicrhau y gellir cyflawni pob proses yn ddiogel gan staff a hyfforddwyd yn addas8. trefnu bod samplau o ddeunydd wedi’i drin yn cael eu cymryd a’u dadansoddi ar adegau priodol i bennu cydymffurfiad â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol sy’n berthynol i ddefnydd tir yn y dyfodol9. cadw cofnodion o ddeunyddiau a driniwyd a’r paramedrau rheoli ar gyfer y gweithrediadau trin yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol10. unioni unrhyw faterion a allai atal triniaeth adfer yn unol â phrosesau sefydliadol11. trefnu bod deunyddiau nad ydynt yn bodloni’r safonau ansawdd gofynnol yn cael eu hailweithio neu waredu yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol12. holi arbenigwyr priodol am gyngor i ddatrys sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion, rheoliadau, codau ymarfer ac arweiniad deddfwriaethol sy’n berthnasol i adfer tir halogedig