Rheoli a chynnal ôl-ofal safleoedd tirlenwi sydd wedi’u cau a’u hadfer
URN: EUSWM15
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â rheoli a chynnal ôl-ofal safleoedd
tirlenwi sydd wedi’u cau a’u hadfer.
Mae’n cynnwys gweithredu a monitro gweithdrefnau ôl-ofal, cyfarwyddo staff y safle i gyflawni gweithgareddau ôl-ofal, unioni unrhyw broblemau a monitro ac adrodd am ddata i gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol.
Mae’r Safon hon i reolwyr neu oruchwylwyr safleoedd tirlenwi sydd wedi’u cau neu eu hadfer.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. rhoi systemau rheoli cymeradwy ar waith ar gyfer safleoedd tirlenwi sydd wedi’u cau
2. sicrhau bod gweithrediadau cau safle yn bodloni gofynion ar gyfer adfer, ôl-ofal a defnydd bwriadedig
3. rheoli trefniadau i gyflenwi’r adnoddau sydd eu hangen ar weithgareddau ôl-ofal yn unol â gofynion sefydliadol
4. rhoi gweithdrefnau ar waith i gofnodi a chynnal gweithgareddau monitro safle sy’n cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol
5. rhoi rhaglenni gwaith cymeradwy a chyfarwyddiadau gweithredol ar waith ar gyfer cynlluniau ôl-ofal
6. nodi ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol ar unrhyw waith cynnal ôl-ofal a wnaethpwyd
7. cadw cofnodion monitro a pharatoi adroddiadau yn unol â gofynion deddfwriaethol
8. cyfathrebu gofynion monitro ar gyfer cynlluniau ôl-ofal â’r holl bobl berthnasol
9. sicrhau bod rhaglenni gwaith a chyfarwyddiadau gweithredol yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni prosesau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
10. cyfathrebu cyfarwyddiadau gweithredol ar ffurf lafar ac ysgrifenedig â’r bobl briodol
11. cadw cofnodion cywir o unrhyw weithgareddau adfer ac ôl-ofal ar ôl cau yn unol â gofynion deddfwriaethol a gweithdrefnau sefydliadol
12. dweud wrth y cydweithwyr a rheolwyr priodol am ddamweiniau, digwyddiadau, ymyriadau â gwaith neu unrhyw sefyllfaoedd y mae gofyn rhoi eu sylw iddynt
13. cadw cofnodion mewn systemau sefydliadol o hyfforddiant i’r holl staff sy’n ymwneud â monitro ôl-ofal
14. unioni unrhyw faterion sy’n atal gweithgareddau ôl-ofal rhag cael eu cyflawni yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
15. trefnu bod gwaith adfer gofynnol yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
16. datrys unrhyw broblemau a allai effeithio ar ôl-ofal safleoedd tirlenwi sydd wedi’u cau
17. holi arbenigwyr priodol am gyngor i ddatrys sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion deddfwriaethol, rheoliadau, codau ymarfer ac arweiniad sy’n berthnasol i ôl-ofal safleoedd tirlenwi sydd wedi’u cau
2. caniatâd cynllunio, gofynion trwydded a system reoli amgylcheddol i’r safle
3. pam mae’n bwysig monitro amodau hydro ddaearegol safle
4. dogfennaeth ofynnol am weithrediadau ôl-ofal i fodloni gofynion monitro
5. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rheoli gweithgareddau gwaith
6. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gweithrediadau ôl-ofal
7. adnoddau sy’n ofynnol ar weithrediadau ôl-ofal
8. systemau rheoli i warchod yr amgylchedd ar y safle
9. gweithdrefnau gweithredu ar gyfer yr holl beiriannau, offer a chyfarpar a ddefnyddir ar y safle ar gyfer ôl-ofal
10. gweithdrefnau ar y safle i ddiogelu gwastraff wedi’i gladdu yn barhaus
11. technegau trin a thrafod sy’n addas i ddeunyddiau sy’n cael eu defnyddio i adfer problemau sy’n codi o weithgareddau ôl-ofal
12. dulliau a ddefnyddir i ymdrin ag adar, fermin, pryfed, llwch, sŵn a sbwriel yn ystod ôl-ofal
13. peryglon sy’n gysylltiedig â safleoedd tirlenwi wedi’u cau a’u hadfer mewn perthynas ag iechyd a diogelwch a’r amgylchedd
14. mesurau rheoli i leihau neu waredu risgiau i ddiogelwch, iechyd a’r amgylchedd ar safle tirlenwi wedi’i gau a’i adfer
15. gweithdrefnau sefydliadol i ymdrin â gollyngiadau ac allyriadau
16. mathau o gyfarpar diogelu personol sy’n ofynnol a sut mae’n rhaid eu defnyddio, eu cynnal a’u storio
17. gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cofnodi ac adrodd am risgiau i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd
18. sut mae sicrhau bod cyflogeion wedi deall cyfarwyddiadau gweithredol
19. materion a allai godi i atal gweithgareddau ôl-ofal gan gynnwys prinderau staff, diffygion cyfarpar neu achosion allanol
20. sut mae cael at arbenigwyr ôl-ofal a phryd mae cysylltu â hwy
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
WM11
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff
Cod SOC
1255
Geiriau Allweddol
rheoli, cynnal, wedi’i adfer, safle tirlenwi sydd wedi’i gau, atal llygredd