Adfer a pharatoi safleoedd tirlenwi at ôl-ofal

URN: EUSWM14
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud ag adfer a pharatoi safleoedd tirlenwi ar gyfer ôl-ofal. Mae hyn yn cynnwys rheoli gwaith adfer safleoedd tirlenwi a rheoli gwaith paratoi safleoedd tirlenwi at ôl-ofal. Gallai hyn fod yn berthnasol i wastraff peryglus neu nad yw’n beryglus.       

Mae hyn i reolwyr neu oruchwylwyr yn y diwydiant rheoli adnoddau gwastraff sy’n gyfrifol am adfer safleoedd tirlenwi a’u paratoi at ôl-ofal. 

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sicrhau bod cynlluniau adfer yn bodloni gofynion deddfwriaethol a sefydliadol  
    2. trefnu bod y deunyddiau, cyfarpar ac adnoddau peirianegol sy’n ofynnol ar weithrediadau adfer yn cael eu cyflenwi
    3. gweithredu systemau a gweithdrefnau ar gyfer gweithrediadau adfer sy’n cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol                 
    4. monitro gweithgarwch adfer staff mewn perthynas â gofynion ansawdd sefydliadol                  
    5. sicrhau bod cynigion am weithrediadau cyn cau safle yn bodloni’r gofynion ar gyfer adfer, ôl-ofal a defnydd bwriadedig safle   
    6. gweithredu systemau a gweithdrefnau i sicrhau bod y broses o gau safle yn cydymffurfio â gofynion ôl-ofal deddfwriaethol a sefydliadol
    7. sicrhau yr ymgynghorir â rhanddeiliaid allweddol am gynnal cynlluniau ôl-ofal                   
    8. cyfathrebu manylion cynlluniau adfer ac ôl-ofal â rhanddeiliaid allweddol ar adegau priodol         
    9. cadw cofnodion o weithgarwch adfer ac ôl-ofal yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol                           
    10. sicrhau bod cofnodion monitro safle yn cael eu hanfon ymlaen i’r awdurdod rheoleiddio yn unol â gofynion deddfwriaethol
    11. unioni unrhyw faterion sy’n atal paratoi safleoedd tirlenwi ar gyfer ôl-ofal       
    12. datrys unrhyw broblemau a allai effeithio ar weithredu cynlluniau adfer ac ôl-ofal yn unol â gofynion sefydliadol                      
    13. holi arbenigwyr perthnasol am gyngor i ddatrys sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. y gofynion deddfwriaethol, rheoliadau, codau ymarfer ac arweiniad sy’n berthnasol i adfer a pharatoi safleoedd tirlenwi at ôl-ofal 

2. y caniatâd cynllunio, gofynion trwydded a system reoli amgylcheddol ar gyfer y safle                 
3. y cofnodion sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth mewn perthynas ag ôl-ofal safleodd tirlenwi
4. pam mae’n bwysig monitro amodau hydro ddaearegol safle
5. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rheoli gweithgareddau gwaith
6. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gweithrediadau adfer ac ôl-ofal 
7. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer yr holl beiriannau, offer a chyfarpar a ddefnyddir i baratoi at ôl-ofal
8. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rheoli diogelwch safle ar safleoedd tirlenwi sy’n destun adfer
9. technegau trin a thrafod addas ar gyfer y deunyddiau sy’n cael eu defnyddio
10. rhanddeiliaid allweddol a sut mae cyfathrebu â hwy
11. dulliau a ddefnyddir i ymdrin ag adar, fermin, pryfed, llwch, sŵn a sbwriel yn ystod adfer ac ôl-ofal        
12. peryglon cysylltiedig ag adfer ac ôl-ofal mewn perthynas ag iechyd a diogelwch a’r amgylchedd           
13. mesurau rheoli i leihau neu ddileu risgiau i ddiogelwch, iechyd a’r amgylchedd ar y safle    
14. gweithdrefnau sefydliadol i ymdrin â gollyngiadau ac allyriadau
15. mathau o gyfarpar diogelu personol sy’n ofynnol a sut mae’n rhaid ei ddefnyddio, ei gynnal a’i storio 
16. gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cofnodi ac adrodd am risgiau i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd             
17. materion a allai atal safleoedd tirlenwi rhag cael eu paratoi at ôl-ofal gan gynnwys prinderau staff, diffygion cyfarpar neu ffactorau allanol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

WM14

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff

Cod SOC

1255

Geiriau Allweddol

adfer, paratoi, ôl-ofal, tirlenwi, atal a rheoli llygredd