Datblygu cynlluniau adfer ac ôl-ofal i safleoedd tirlenwi

URN: EUSWM13
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

​Mae’r Safon hon yn diffinio’r cymhwysedd sy’n ofynnol i ddatblygu  cynlluniau adfer ac ôl-ofal i safleoedd tirlenwi. Gallai safleoedd tirlenwi fod yn rhai peryglus a rhai nad ydynt yn beryglus. Gallai cynlluniau adfer fod ar gyfer gwaith adfer cynyddol neu derfynol safleoedd tirlenwi. 

Mae hyn yn cynnwys paratoi a chwblhau cynlluniau adfer ac ôl-ofal, nodi gofynion adnodd, datblygu systemau rheoli i gefnogi cau, adfer ac ôl-ofal a datrys problemau sy’n digwydd yn ystod datblygu.                   

Mae hyn i reolwyr neu oruchwylwyr yn y diwydiant rheoli adnoddau gwastraff sy’n gyfrifol am gynllunio gwaith adfer ac ôl-ofal i safleoedd tirlenwi peryglus a rhai nad ydynt yn beryglus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. datblygu cynlluniau ar gyfer safleoedd sy’n bodloni gofynion deddfwriaethol a sefydliadol                       

2. nodi ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol am gynlluniau adfer ac ôl-ofal arfaethedig ar adegau priodol             
3. nodi’r adnoddau, y deunyddiau a’r personél peirianegol sy’n ofynnol i wireddu cynlluniau adfer.    
4. cael cymeradwyaeth i gynlluniau gan bobl briodol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol          
5. cyfathrebu cynlluniau terfynol â rhanddeiliaid allweddol
6. sicrhau bod cynigion ar gyfer gweithrediadau safle cyn-cau yn bodloni’r gofynion ar gyfer adfer, ôl-ofal a defnydd bwriadedig safleoedd  
7. datblygu a chynnal systemau a gweithdrefnau ar gyfer cau, adfer ac ôl-ofal sy’n cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol    
8. datblygu systemau a gweithdrefnau i gadw cofnodion o gynlluniau adfer ac ôl-ofal yn unol â gofynion deddfwriaethol    
9. datblygu rhaglenni gwaith a chyfarwyddiadau gweithredol ar gyfer cynlluniau adfer ac ôl-ofal mewn fformatau priodol
10. datblygu cynlluniau wrth gefn i ymdrin â materion a allai atal safleoedd rhag cael eu paratoi at ôl-ofal neu gydymffurfio â deddfwriaeth 
11. cael cyngor gan arbenigwyr priodol i ddatrys sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. gofynion deddfwriaethol, rheoliadau, codau ymarfer, arweiniad a thrwyddedau sy’n berthnasol i gynlluniau adfer ac ôl-ofal gan gynnwys caniatâd cynllunio, trwyddedau amgylcheddol, rheoliadau atal a rheoli llygredd, iechyd a diogelwch a chludiant ffordd pan fyddant yn berthnasol i weithrediadau safle 

2. pam mae’n bwysig datblygu cynlluniau adfer ac ôl-ofal i safleoedd tirlenwi         
3. y cyfnodau i’w cynnwys mewn cynlluniau adfer ac ôl-ofal a’r gofynion am bob cyfnod gan gynnwys cyn-cau a chau
4. gweithdrefnau sefydliadol i reoli gweithrediadau adfer ac ôl-ofal
5. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cynnal diogelwch safleoedd tirlenwi sy’n destun adfer ac ôl-ofal           
6. dulliau a ddefnyddir i ymdrin â dŵr daear, trwytholch, nwy tirlenwi, tân, adar, fermin, pryfed, llwch, sŵn a sbwriel yn ystod gweithrediadau adfer ac ôl-ofal            
7. sut mae nodi peryglon sy’n gysylltiedig â chynlluniau adfer ac ôl-ofal mewn perthynas ag iechyd a diogelwch a’r amgylchedd 
8. mesurau rheoli y gellir eu defnyddio i leihau neu ddileu risgiau i ddiogelwch, iechyd a’r amgylchedd ar y safle 
9. mathau o gyfarpar diogelu personol sy’n ofynnol a sut y mae’n rhaid ei ddefnyddio, ei gynnal a’i storio
10. gofynion cyfreithiol a sefydliadol i gofnodi ac adrodd am risgiau i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd                
11. materion a allai atal safleoedd rhag cael eu paratoi at ôl-ofal neu gydymffurfio â deddfwriaeth gan gynnwys prinderau staff, diffygion cyfarpar neu ffactorau allanol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

WM15

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff

Cod SOC

1255

Geiriau Allweddol

cynlluniau, datblygu, adfer, ôl-ofal, tirlenwi, atal a rheoli llygredd, systemau gwarchod yr amgylchedd, cynlluniau adfer