Rheoli gwaredu gwastraff anadweithiol i’r tir
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â gwaredu gwastraff anadweithiol ar y tir neu i’r tir. Mae’n cynnwys rheoli gweithrediadau a rheoli gwaith pob gweithgaredd sy’n berthynol i waredu gwastraff anadweithiol i’r tir. Mae hyn yn cynnwys atal gwastraff, cynnyrch a gweddillion anadweithiol rhag dianc, sicrhau bod gwastraff anadweithiol a waredwyd i’r tir yn ddiogel ac ymdrin â gwastraff anadweithiol sydd y tu hwnt i fanyleb, sy’n anodd ei drin, sy’n debygol o gynnwys deunyddiau wedi’u cuddio neu gydrannau annerbyniol, sy’n anawdurdodedig neu’n debygol o gyflwyno problemau iechyd annisgwyl. Rhaid i bob gweithdrefn gael ei gweithredu mewn cydymffurfiad â gofynion deddfwriaethol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gweithredu systemau a gweithdrefnau am weithrediadau gwaredu gwastraff anadweithiol yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
- trefnu cyflenwad digonol o’r deunyddiau, cyfarpar a gwybodaeth sy’n ofynnol i waredu gwastraff anadweithiol
3. lleihau risgiau i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd o weithrediadau gwastraff anadweithiol yn unol â deddfwriaeth4. cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer adrodd am risgiau i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd5. gweithredu a chynnal systemau gwybodaeth a chofnodi mewn perthynas ag archwilio gwastraff anadweithiol yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol6. monitro prosesau yn barhaus i atal gwastraff, cynnyrch a gweddillion anadweithiol rhag dianc o’r safle7. monitro prosesau yn barhaus i atal ac ymdrin â niwsans adar, pryfed, fermin, sbwriel, aroglau, sŵn a llwch yn y safle8. sicrhau bod pob gweithdrefn ar gyfer gwaredu gwastraff anadweithiol i’r tir yn cael ei dilyn bob amser9. sefydlu a goruchwylio rhaglenni gwaith sy’n bodloni gofynion deddfwriaethol a sefydliadol ar gyfer gweithrediadau gwaredu gwastraff anadweithiol10. monitro a chynnal systemau i sicrhau bod digon o bobl sydd â’r lefel gywir o arbenigedd ar gael i gyflawni gweithrediadau gofynnol
11. gweithredu gweithdrefnau i fonitro hyfforddiant staff i sicrhau y cydymffurfir â gofynion cyfreithiol a sefydliadol12. cynnal systemau gwaith diogel yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch13. sicrhau bod adnoddau sy’n ofynnol i gwblhau gweithgareddau gwaith yn ddiogel yn cael eu darparu a’u cynnal14. nodi a gweithredu rhagofalon sy’n dileu neu’n lliniaru risgiau o beryglon posibl i bersonél a’r amgylchedd15. sicrhau bod gwastraff anadweithiol a waredwyd i’r tir yn cael ei adael yn ddiogel ar ddiwedd pob diwrnod gwaith yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol16. unioni unrhyw faterion sy’n atal gwaredu gwastraff anadweithiol i’r tir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol17. gofyn am gyngor arbenigwyr priodol i ddatrys sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb18. trefnu bod gwastraff anadweithiol yn cael ei storio neu ei ddargyfeirio dros dro’n briodol pan fydd y tywydd neu argyfyngau yn atal ei waredu i’r tir neu ei drosglwyddo oddi ar y safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion, rheoliadau, codau ymarfer ac arweiniad deddfwriaethol sy’n berthnasol i waredu gwastraff anadweithiol i’r tir ar y safle