Rheoli gwaith llwytho a thrawsgludo deunyddiau, cynhyrchion a gweddillion yn y diwydiant rheoli adnoddau gwastraff
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â llwytho a thrawsgludo deunyddiau, cynhyrchion a gweddillion. Gallai hyn fod yn berthnasol i gynhyrchion a gweddillion gweithrediadau trin ac adfer yn ogystal ag adfer tir halogedig. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol. Gallai’r safon hon fod yn berthnasol i ddeunyddiau peryglus neu ddeunyddiau nad ydynt yn beryglus ar unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cael gwybodaeth am lwythau i’w trawsgludo o ffynonellau dibynadwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer sy’n berthnasol i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd
y polisi amgylcheddol, gweithdrefnau a gofynion dyletswydd gofal sefydliadol
y gofynion dadansoddi risg ar gyfer y gweithle i gyd
y mathau o gyfarpar diogelu personol sy’n ofynnol ar wahanol fathau o ddeunyddiau, cynhyrchion a gweddillion a’r gweithdrefnau ar gyfer gofal, cynnal a chadw a defnyddio’r cyfarpar hwn
5. ffynonellau o wybodaeth am lwythau a chyrchfannau a sut mae ei dehongli a sicrhau ei bod yn berthynol i’r llwyth sy’n cael ei drosglwyddo6. gweithdrefnau sefydliadol i reoli personél a gweithgareddau gwaith7. sut mae trefnu a monitro gweithrediadau cludiant gan gynnwys y manteision a’r arfer sy’n berthynol i gasgliadau lluosog8. dogfennaeth gludiant ar gyfer deunyddiau sy’n gadael y safle a sut mae ei chwblhau, gan gynnwys ar gyfer derbynyddion penodol9. gofynion cadw cofnodion sy’n berthynol i drosglwyddo a thrawsgludo10. math, nodweddion, gweithdrefnau archwilio ansawdd ac adnabod a goblygiadau storio, codi a thrin a thrafod y llwythau i’w trawsgludo
11. sut mae cyfathrebu cyfarwyddiadau gweithredol ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut mae sicrhau dealltwriaeth12. pryd a sut mae cysylltu â gyrwyr gan gynnwys pan fydd problemau traffig neu fynediad andwyol yn codi, lle mae gweithrediadau cludiant yn cael eu haildrefnu neu eu gohirio, lle mae cyfyngiadau ar lwybrau
13. protocolau i gynorthwyo a chefnogi gyrwyr a’u llwythau pan fydd cerbydau’n torri i lawr neu ddamweiniau’n digwydd14. materion allanol sy’n gallu effeithio ar weithgareddau trosglwyddo neu drawsgludo gan gynnwys y tywydd, damweiniau, seilwaith ffyrdd, fferïau yn cael eu canslo neu eu gohirio15. sut mae mynd i’r afael â phroblemau gyda gweithrediadau cludiant gan gynnwys trefnu cludiant amgen, nodi derbynyddion amgen, cynllunio llwybrau amgen, diwygio amserlenni16. gweithdrefnau gweithredol sefydliadol os na fydd trawsgludiaeth addas ar gael17. camau i’w cymryd pan nad ellir llwybro nac amserlennu llwythau yn unol â gofynion gweithredol, sefydliadol neu reoleiddiol
18. mathau o gerbydau i’w defnyddio i gario gwahanol lwythau19. cyfyngiadau cerbydau, llwybrau, cyfarpar a gyrwyr20. materion amgylcheddol, economaidd ac effeithlonrwydd mewn perthynas â’r llwythau a cherbydau21. gofynion y cyfleuster a fydd yn derbyn y cynnyrch sy’n cael ei drawsgludo22. materion a allai atal deunyddiau rhag cael eu trosglwyddo a’u trawsgludo gan gynnwys prinderau staff, diffygion cyfarpar a chludiant, gollyngiadau ac achosion allanol