Rheoli gwaith paratoi, trosglwyddo, trawsgludo a garedu deunyddiau, cynhyrchion a gweddillion

URN: EUSWM09
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud â rheoli gwaith paratoi, trosglwyddo, 

trawsgludo neu waredu deunyddiau a chynhyrchion a gweddillion gweithrediadau trin ac adfer. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol. Gallai’r safon hon fod yn berthnasol i drosglwyddo cynhyrchion a gwaredu’n ddiogel weddillion sy’n codi o adfer tir halogedig. Gallai hefyd fod yn berthnasol i ddeunyddiau peryglus neu rai nad ydynt yn beryglus ar unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.

Mae’n cynnwys goruchwylio prosesau i baratoi a storio deunyddiau cyn trosglwyddo neu waredu, sicrhau bod deunyddiau o ansawdd derbyniol, bod y trosglwyddo neu waredu’n digwydd pan fo’n ofynnol a bod dogfennaeth yn gywir. Mae hefyd yn cynnwys dilyn y gofynion diogelwch penodol i’r deunyddiau a’r prosesau dan sylw. 

Mae’r Safon hon yn berthnasol i reolwyr neu oruchwylwyr sy’n goruchwylio’r prosesau ar gyfer trosglwyddo, trawsgludo a gwaredu deunyddiau, cynhyrchion a gweddillion adnoddau gwastraff mewn unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. sicrhau bod deunyddiau’n cael eu paratoi i’w trawsgludo, trosglwyddo neu waredu yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol                 

2. sicrhau bod ansawdd deunyddiau a baratoir i’w trosglwyddo yn bodloni safonau ansawdd deunydd y derbynyddion a fwriadwyd
3. nodi peryglon a lleihau risgiau i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd yn ystod paratoi a throsglwyddo a gwaredu yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol              
4. sicrhau bod gofynion diogelwch sy’n briodol i’r deunyddiau dan sylw yn cael eu dilyn drwy’r amser
5. gwneud trefniadau i storio’n ddiogel ddeunyddiau a baratowyd i’w trosglwyddo yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
6. sicrhau bod paratoi a thrawsgludo cynhyrchion a gwaredu gweddillion yn cael eu gwneud yn unol â systemau a gweithdrefnau sefydliadol a gofynion rheoleiddiol              
7. sicrhau bod yr adnoddau sydd eu hangen i wneud y gwaith paratoi, llwytho, trawsgludo a throsglwyddo ar gael pan fyddant yn ofynnol       
8. sicrhau bod y gwaith paratoi, llwytho a thrawsgludo’n cael ei wneud pan fydd yn ofynnol gan y sefydliad
9. rheoli’r bobl dan sylw i sicrhau eu bod yn dilyn prosesau sefydliadol priodol                
10. sicrhau bod dogfennaeth drawsgludo i’r holl ddeunyddiau gwastraff a diwastraff sy’n gadael y safle yn cael ei chwblhau yn unol â gofynion deddfwriaethol a gweithdrefnau sefydliadol  
11. gwirio bod yr wybodaeth sydd yn y ddogfennaeth broses yn gywir a’i bod yn berthynol i’r deunyddiau dan sylw
12. cadw cofnodion o’r holl gynhyrchion a gweddillion sy’n gadael y safle yn unol â gofynion deddfwriaethol a gweithdrefnau sefydliadol
13. unioni unrhyw faterion sy’n effeithio ar weithrediadau yn unol â gofynion deddfwriaethol a gweithdrefnau sefydliadol            
14. cyfathrebu gweithdrefnau â’r bobl briodol ar adegau priodol 
15. holi arbenigwyr priodol am gyngor i ddatrys sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. y gofynion deddfwriaethol, rheoliadau, codau ymarfer, arweiniad, caniatâd a thrwyddedau sy’n berthnasol i waith paratoi, trosglwyddo a thrawsgludo’r deunyddiau yr ydych yn gweithio gyda hwy

2. y gofynion rheoleiddiol ar gyfer allforio’r cynhyrchion ynni dan sylw
3. caniatâd cynllunio, gofynion trwydded a system reoli amgylcheddol ar gyfer y safle                     
4. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer gweithredu diogel y peiriannau, offer a chyfarpar dan sylw       
5. y gweithdrefnau archwilio ansawdd, gweithdrefnau adnabod a’r gofynion trin a thrafod ar gyfer deunyddiau
6. sut mae dehongli dogfennaeth broses  
7. gweithdrefnau sefydliadol i reoli personél a gweithgareddau gwaith  
8. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rheoli a storio cynhyrchion a gweddillion ar y safle 
9. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gweithrediadau trawsgludo, cyflenwi adnoddau trawsgludo a’u defnydd
10. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymdrin â gweddillion, deunyddiau a adferwyd y tu hwnt i fanyleb ac unrhyw beth arall a wrthodwyd o’r broses                
11. y gofynion storio a thrin a thrafod ar gyfer y mathau o ddeunydd a adferwyd o’r safle  
12. mathau, swyddogaethau a chyfyngiadau cyfarpar trin a thrafod sydd ar gael i’w ddefnyddio
13. y technegau codi a thrin a thrafod sy’n addas i’r deunyddiau dan sylw              
14. peryglon sy’n gysylltiedig â throsglwyddo a thrawsgludo’r deunyddiau dan sylw mewn perthynas ag iechyd a diogelwch a’r amgylchedd 
15. mesurau rheoli i leihau neu ddileu risgiau i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd        
16. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymdrin â gollyngiadau ac allyriadau
17. y mathau o gyfarpar diogelu personol sy’n ofynnol a sut mae’n rhaid ei ddefnyddio, ei gynnal a’i storio
18. gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cofnodi ac adrodd am risgiau i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd  
19. materion a allai effeithio ar weithrediadau gan gynnwys prinderau staff neu gludiant, diffygion cyfarpar, gollyngiadau neu achosion allanol 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

WM07

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff

Cod SOC

1255

Geiriau Allweddol

rheoli, cynhyrchion, trosglwyddo, gwaredu, gweddillion, gwastraff, trin, adfer, gweithrediadau, cyfleustod, cyfleustodau, gwastraff anawdurdodedig