Rheoli gwaith trin deunyddiau nad ydynt yn beryglus ar gyfleuster trin adnoddau gwastraff

URN: EUSWM08
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2019

Trosolwg

​Mae’r Safon hon yn ymwneud â rheoli gwaith trin deunyddiau nad ydynt yn beryglus ar gyfleuster trin adnoddau gwastraff. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol. Gallai’r Safon hon fod yn berthnasol i driniaethau ffisegol, cemegol, thermol neu fiolegol.                 


Mae’n mynnu gweithredu a rheoli gweithdrefnau ar gyfer rheoli triniaeth a gweithrediadau perthynol. Mae hyn yn cynnwys archwilio deunyddiau sy’n ymuno â’r broses, trefnu bod cynhyrchion yn cael eu trosglwyddo a’u storio ac ailbrosesu neu waredu unrhyw ddeunyddiau nad ydynt yn bodloni safonau ansawdd. Mae hefyd yn cynnwys cadw cofnodion cynhwysfawr o driniaeth, paramedrau rheoli a hyfforddiant staff. Rhaid i bob gweithdrefn gael ei gweithredu mewn cydymffurfiad â’r gofynion deddfwriaethol ar gyfer gweithrediadau’r safle.

Mae’r Safon hon i reolwyr neu oruchwylwyr cyfleusterau trin sy’n ymdrin â deunyddiau peryglus. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. gweithredu systemau a gweithdrefnau ar gyfer gweithrediadau trin yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol         

2. sicrhau bod deunyddiau sy’n ymuno â phrosesau trin yn cael eu harchwilio yn unol â systemau a gweithdrefnau
3. trefnu cyflenwi deunyddiau, cyfarpar a gwybodaeth briodol a digonol i gyflawni gweithrediadau trin                           
4. cynnal asesiadau risg i nodi peryglon gwirioneddol a phosibl a lleihau risgiau i iechyd, diogelwch a lles pobl ac i’r amgylchedd ar adegau priodol                              
5. cynnal systemau gwaith diogel a rhoi rheolaethau priodol ar waith i ddileu neu leihau risg i bobl a’r amgylchedd                
6. cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol ar gyfer adrodd am risgiau i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd
7. gweithredu systemau a gweithdrefnau i drosglwyddo neu storio cynhyrchion o weithrediadau trin yn unol â gofynion diogelwch, deddfwriaethol a sefydliadol            
8. gweithredu a chynnal systemau cofnodi a gwybodaeth yn benodol ar gyfer prosesau trin yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
9. sicrhau bod pob gweithdrefn a phroses ar gyfer gweithrediadau trin yn cael ei dilyn gan bawb dan sylw drwy’r amser
10. sefydlu, gweithredu a goruchwylio rhaglenni gwaith ar gyfer gweithrediadau trin sy’n bodloni gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
11. gweithredu gweithdrefnau gweithredol sy’n cydymffurfio â gofynion iechyd, diogelwch a gwarchod yr amgylchedd                 
12. sicrhau bod cyfarwyddiadau gweithredol yn gyflawn ac yn gywir ac yn cael eu cyfleu i bersonél y safle ar adegau priodol          
13. sicrhau bod nifer digonol o bersonél hyfforddedig ar gael i gyflawni gweithrediadau trin, gan weithredu rhaglenni hyfforddiant yn ôl y gofyn
14. monitro gweithgarwch staff mewn perthynas â safonau ansawdd, deddfwriaeth a gweithdrefnau yn ystod gweithrediadau trin
15. monitro gweithrediadau trin i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion
16. cadw cofnodion o ddeunyddiau a broseswyd, cynhyrchion, allyriadau, paramedrau rheoli a hyfforddiant staff ar gyfer gweithrediadau trin yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
17. adrodd am ddata monitro cydymffurfiad yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol                            
18. unioni unrhyw faterion a allai effeithio ar weithrediadau trin yn unol â gweithdrefnau sefydliadol  
19. trefnu ar gyfer ailbrosesu neu waredu unrhyw ddeunyddiau nad ydynt yn bodloni’r safonau ansawdd gofynnol yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaeth             
20. holi arbenigwyr priodol am gyngor i ddatrys sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. gofynion deddfwriaethol, rheoliadau, rheolaethau, codau ymarfer ac arweiniad sy’n berthnasol i’r deunyddiau, y dull trin a’r cynhyrchion

2. gofynion caniatâd cynllunio, caniatáu a thrwyddedu a system reoli amgylcheddol ar gyfer y safle                        
3. gofynion deddfwriaethol, rheoliadau, codau ymarfer ac arweiniad sy’n berthnasol i drosglwyddo a thrawsgludo deunyddiau o’r safle    
4. dulliau, egwyddorion, cynhyrchion a’u defnyddwyr diwedd, a phrotocolau ansawdd sy’n berthynol i’r dull trin sy’n cael ei ddefnyddio
5. y deunyddiau y gellir eu trin ac na ellir eu trin a pham  
6. yr effaith y gall gwahanol ddeunyddiau ei chael ar y broses drin sy’n cael ei defnyddio
7. allyriadau, cynhyrchion a deunydd gweddilliol sy’n gysylltiedig â’r dull trin sy’n cael ei ddefnyddio a sut mae rheoli’r rhain 
8. manteision technegol ac amgylcheddol y broses drin sy’n cael ei defnyddio   
9. cyfyngiadau’r dull trin sy’n cael ei ddefnyddio, problemau sy’n gysylltiedig ag ef a ffactorau a allai gyfyngu ar ddefnyddio’r dull trin, a sut y gellir eu rheoli                                    
10. pam mae’n bwysig sicrhau cydymffurfio â thrwydded amgylcheddol ar gyfer cyfleusterau trin a sut mae gwneud hynny
11. y cyflenwad a defnydd adnoddau sy’n ofynnol i’r dull trin sy’n cael ei ddefnyddio
12. y gweithdrefnau a’r ddogfennaeth sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth i drin i safonau penodol
13. gweithdrefnau sefydliadol i reoli gweithgareddau gwaith a phersonél ar y safle
14. technegau a gweithdrefnau gweithredol ar gyfer yr holl beiriannau, offer a chyfarpar a ddefnyddir ar y safle i drin a thrafod a phrosesu deunyddiau
15. gweithdrefnau archwilio ansawdd, adnabod a thrin a thrafod ar gyfer y mathau o ddeunyddiau sy’n cael eu derbyn, eu trin a’u trafod a’u hadfer ar y safle
16. gweithdrefnau sefydliadol i ymdrin â deunyddiau anawdurdodedig    
17. gweithdrefnau ar y safle i storio deunyddiau, cynhyrchion a gweddillion o weithrediadau trin
18. gweithdrefnau sefydliadol i ymdrin â gweddillion, deunyddiau y tu hwnt i fanyleb, deunyddiau a adferwyd ac unrhyw beth arall a wrthodwyd o brosesau trin           
19. sut mae adnabod peryglon cysylltiedig â chyfleusterau trin mewn perthynas ag iechyd a diogelwch a’r amgylchedd   
20. mesurau rheoli i leihau neu ddileu risgiau i iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd ar y safle         
21. sut mae nodi materion gyda deunyddiau gan gynnwys y rheini: 

• sy’n anodd eu trin a thrafod
• sy’n gallu cynnwys deunyddiau wedi’u cuddio        
• sydd efallai’n cynnwys cydrannau annerbyniol      
• sy’n anawdurdodedig

• sy’n debygol o gyflwyno problemau iechyd annisgwyl
22. deddfwriaeth a gweithdrefnau sefydliadol i fynd i’r afael â risgiau i bobl a’r amgylchedd   
23. gweithdrefnau sefydliadol i ymdrin â gollyngiadau ac allyriadau 
24. mathau o gyfarpar diogelu personol sy’n ofynnol a sut mae’n rhaid eu defnyddio, eu cynnal a’u storio
25. gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cofnodi ac adrodd am risgiau i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd 
26. materion sy’n effeithio ar weithrediadau trin gan gynnwys prinderau staff, diffygion cyfarpar, gollyngiadau neu ffactorau allanol 
27. y sgiliau technegol a’r hyfforddiant sy’n ofynnol ar gyfer gweithrediadau trin a sut mae sicrhau bod yr holl staff perthnasol wedi’u cael
28. sut mae cyfathrebu cyfarwyddiadau gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig
29. pam mae’n bwysig sicrhau bod staff yn deall cyfarwyddiadau a gweithdrefnau a sut mae sicrhau y cyflawnir hyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

WM69

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff

Cod SOC

1255

Geiriau Allweddol

rheoli, rheolaeth, gweithrediadau, gwastraff, triniaeth fiolegol, cyfleustodau cyfleuster, cyfleustod