Rheoli gwaith trin deunyddiau peryglus ar gyfleuster trin adnoddau gwastraff
URN: EUSWM07
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2019
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â rheoli gwaith trin deunyddiau peryglus ar gyfleuster trin adnoddau gwastraff. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol. Gallai’r Safon hon fod yn berthnasol i driniaethau ffisegol, cemegol, thermol neu fiolegol.
Mae’n mynnu gweithredu a rheoli gweithdrefnau ar gyfer rheoli triniaeth a gweithrediadau perthynol. Mae hyn yn cynnwys archwilio deunyddiau sy’n ymuno â’r broses, trefnu bod cynhyrchion yn cael eu trosglwyddo a’u storio ac ailbrosesu neu waredu unrhyw ddeunyddiau nad ydynt yn bodloni safonau ansawdd. Mae hefyd yn cynnwys cadw cofnodion cynhwysfawr o driniaeth, paramedrau rheoli a hyfforddiant staff. Yn ogystal, mae’n cynnwys deall y peryglon sy’n gysylltiedig â’r deunyddiau sy’n cael eu trin, yr effaith y gallant ei chael ar bobl a’r amgylchedd a sut mae lleihau a rheoli eu heffeithiau. Rhaid i bob gweithdrefn gael ei gweithredu mewn cydymffurfiad â’r gofynion deddfwriaethol ar gyfer gweithrediadau’r safle.
Mae’r Safon hon i reolwyr neu oruchwylwyr cyfleusterau trin sy’n ymdrin â deunyddiau peryglus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gweithredu systemau a gweithdrefnau ar gyfer gweithrediadau trin yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
2. sicrhau bod deunyddiau sy’n ymuno â phrosesau trin yn cael eu harchwilio yn unol â systemau a gweithdrefnau
3. trefnu cyflenwi deunyddiau, cyfarpar a gwybodaeth briodol a digonol i gyflawni gweithrediadau trin
4. cynnal asesiadau risg i nodi peryglon gwirioneddol a phosibl a lleihau risgiau i iechyd, diogelwch a lles pobl ac i’r amgylchedd ar adegau priodol
5. cynnal systemau gwaith diogel a rhoi rheolaethau priodol ar waith i ddileu neu leihau risg i bobl a’r amgylchedd
6. cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol ar gyfer adrodd am risgiau i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd
7. gweithredu systemau a gweithdrefnau i drosglwyddo neu storio cynhyrchion o weithrediadau trin yn unol â gofynion diogelwch, deddfwriaethol a sefydliadol
8. gweithredu a chynnal systemau cofnodi a gwybodaeth yn benodol ar gyfer prosesau trin yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
9. sicrhau bod pob gweithdrefn a phroses ar gyfer gweithrediadau trin yn cael ei dilyn gan bawb dan sylw drwy’r amser
10. sefydlu, gweithredu a goruchwylio rhaglenni gwaith ar gyfer gweithrediadau trin sy’n bodloni gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
11. gweithredu gweithdrefnau gweithredol sy’n cydymffurfio â gofynion iechyd, diogelwch a gwarchod yr amgylchedd
12. sicrhau bod cyfarwyddiadau gweithredol yn gyflawn ac yn gywir ac yn cael eu cyfleu i bersonél y safle ar adegau priodol
13. sicrhau bod nifer digonol o bersonél hyfforddedig ar gael i gyflawni gweithrediadau trin, gan weithredu rhaglenni hyfforddiant yn ôl y gofyn
14. monitro gweithgarwch staff mewn perthynas â safonau ansawdd, deddfwriaeth a gweithdrefnau yn ystod gweithrediadau trin
15. monitro gweithrediadau trin i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion
16. cadw cofnodion o ddeunyddiau a broseswyd, cynhyrchion, allyriadau, paramedrau rheoli a hyfforddiant staff ar gyfer gweithrediadau trin yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
17. adrodd am ddata monitro cydymffurfiad yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
18. unioni unrhyw faterion a allai effeithio ar weithrediadau trin yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
19. trefnu ar gyfer ailbrosesu neu waredu unrhyw ddeunyddiau nad ydynt yn bodloni’r safonau ansawdd gofynnol yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaeth
20. holi arbenigwyr priodol am gyngor i ddatrys sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion deddfwriaethol, rheoliadau, rheolaethau, codau ymarfer ac arweiniad sy’n berthnasol i’r deunyddiau, y dull trin a’r cynhyrchion
2. gofynion caniatâd cynllunio, caniatáu a thrwyddedu a system reoli amgylcheddol ar gyfer y safle
3. data gofynnol ar gyfer rheoli sylweddau peryglus
4. asesiadau risg ar gyfer yr holl sylweddau peryglus sy’n cael eu derbyn, eu trin a’u trafod a’u defnyddio ar y safle
5. gofynion deddfwriaethol, rheoliadau, codau ymarfer ac arweiniad sy’n berthnasol i drosglwyddo a thrawsgludo deunyddiau o’r safle
6. dulliau, egwyddorion, cynhyrchion a’u defnyddwyr diwedd, a phrotocolau ansawdd sy’n berthynol i’r dull trin sy’n cael ei ddefnyddio
7. y mathau o ddeunydd y gellir eu trin ac na ellir eu trin a pham
8. y peryglon sy’n gysylltiedig â’r deunyddiau peryglus sy’n cael eu trin a’r effaith y gallant ei chael ar bobl a’r amgylchedd
9. gofynion a dulliau i leihau a rheoli’r peryglon sy’n gysylltiedig â deunyddiau sy’n cael eu trin
10. yr effaith y gall gwahanol fathau o ddeunydd ei chael ar y broses drin sy’n cael ei defnyddio
11. allyriadau, cynhyrchion a deunyddiau gweddilliol sy’n gysylltiedig â’r dull trin sy’n cael ei ddefnyddio a sut mae rheoli’r rhain
12. manteision technegol ac amgylcheddol y broses drin sy’n cael ei defnyddio
13. cyfyngiadau’r dull trin sy’n cael ei ddefnyddio, problemau sy’n gysylltiedig ag ef a ffactorau a allai gyfyngu ar ddefnyddio’r dull trin, a sut y gellir eu rheoli
14. pam mae’n bwysig sicrhau cydymffurfio â thrwydded amgylcheddol ar gyfer cyfleusterau trin a sut mae gwneud hynny
15. y cyflenwad a defnydd adnoddau sy’n ofynnol i’r dull trin sy’n cael ei ddefnyddio
16. y gweithdrefnau a’r ddogfennaeth sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth i drin i safonau penodol
17. gweithdrefnau sefydliadol i reoli gweithgareddau gwaith a phersonél ar y safle
18. technegau a gweithdrefnau gweithredol ar gyfer yr holl beiriannau, offer a chyfarpar a ddefnyddir ar y safle i drin a thrafod a phrosesu deunyddiau
19. gweithdrefnau archwilio ansawdd, adnabod a thrin a thrafod ar gyfer y mathau o ddeunyddiau sy’n cael eu derbyn, eu trin a’u trafod a’u hadfer ar y safle
20. gweithdrefnau sefydliadol i ymdrin â deunyddiau anawdurdodedig
21. gweithdrefnau ar y safle i storio deunyddiau, cynhyrchion a gweddillion o weithrediadau trin
22. gweithdrefnau sefydliadol i ymdrin â gweddillion, deunyddiau y tu hwnt i fanyleb, deunyddiau a adferwyd ac unrhyw beth arall a wrthodwyd o brosesau trin
23. sut mae adnabod peryglon cysylltiedig â chyfleusterau trin mewn perthynas ag iechyd a diogelwch a’r amgylchedd
24. mesurau rheoli i leihau neu ddileu risgiau i iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd ar y safle
25. sut mae nodi materion gyda deunyddiau gan gynnwys y rheini:
• sy’n anodd eu trin a thrafod• sy’n gallu cynnwys deunyddiau wedi’u cuddio• sydd efallai’n cynnwys cydrannau annerbyniol• sy’n anawdurdodedig• sy’n debygol o gyflwyno problemau iechyd annisgwyl26. deddfwriaeth a gweithdrefnau sefydliadol i fynd i’r afael â risgiau i bobl a’r amgylchedd27. gweithdrefnau sefydliadol i ymdrin â gollyngiadau ac allyriadau
28. mathau o gyfarpar diogelu personol sy’n ofynnol a sut mae’n rhaid eu defnyddio, eu cynnal a’u storio29. gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cofnodi ac adrodd am risgiau i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd30. materion sy’n effeithio ar weithrediadau trin gan gynnwys prinderau staff, diffygion cyfarpar, gollyngiadau neu ffactorau allanol31. y sgiliau technegol a’r hyfforddiant sy’n ofynnol ar gyfer gweithrediadau trin a sut mae sicrhau bod yr holl staff perthnasol wedi’u cael32. sut mae cyfathrebu cyfarwyddiadau gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig33. pam mae’n bwysig sicrhau bod staff yn deall cyfarwyddiadau a gweithdrefnau a sut mae sicrhau y cyflawnir hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
WM04
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus
Cod SOC
1255
Geiriau Allweddol
rheoli, safle, gweithrediadau, trin, gwastraff, cyfleustod, cyfleustodau, gwarchod yr amgylchedd