Rheoli gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau peirianegol eraill ar gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff
URN: EUSWM06
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â rheoli gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau peirianegol eraill ar gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol. Gallai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.
Mae’n cynnwys llunio amserlenni cynnal a chadw a monitro camau gweithredu cynnal a chadw i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion cytundebol a chyfreithiol. Mae’n cynnwys mynd ati i adolygu ac atal achosion o dorri i lawr. Mae hefyd yn ymwneud â rhoi cyfarwyddiadau clir i’r bobl sy’n gyfrifol am wneud gwaith cynnal a chadw a sicrhau y gallant wneud gwaith cynnal a chadw yn effeithiol.
Mae hyn i reolwyr neu oruchwylwyr unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. sefydlu'r gweithgareddau cynnal a chadw sy’n ofynnol i fodloni gofynion cynnal a chadw
2. trefnu’r amser a’r adnoddau sy’n ofynnol i wneud gweithgareddau cynnal a chadw, gan ddefnyddio data sydd ar gael ac yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
3. trefnu gweithgareddau cynnal a chadw sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth, gofynion cyrff allanol a chanllawiau gweithgynhyrchwyr cyfarpar
4. llunio cynlluniau wrth gefn sy’n ystyried anawsterau posibl
5. gwneud amserlenni cynnal a chadw ar gael i’r bobl sy’n ymwneud â’u gweithredu ac i eraill y byddant yn effeithio arnynt
6. rhoi cyfarwyddiadau cywir i’r rheini sy’n gyfrifol am waith cynnal a chadw a gweithgareddau peirianegol eraill a sicrhau eu bod yn deall beth sy’n ofynnol
7. sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am waith cynnal a chadw a gweithgareddau peirianneg eraill yn meddu ar y cymhwysedd a’r adnoddau angenrheidiol sydd ar gael i wneud gwaith i’r safon ofynnol
8. sicrhau bod gwaith cynnal a chadw a gweithgareddau peirianegol eraill yn cael eu cyflawni yn unol â gofynion iechyd, diogelwch, amgylcheddol ac eraill y sefydliad
9. adolygu amlder, natur ac achosion torri i lawr yn rheolaidd a defnyddio’r wybodaeth i ddatrys problemau ac atal methiannau a thorri i lawr yn y dyfodol
10. cadw cofnodion cywir a diweddar o waith cynnal a chadw a gweithrediadau peirianegol eraill
11. sicrhau bod yr holl bersonél yn cwblhau gwaith cynnal a chadw a gweithgareddau peirianneg eraill o fewn gofynion perfformiad ac amserlenni
12. sicrhau bod gweithredwyr ar y safle’n gweithredu a chynnal systemau i gofnodi diffygion a dechrau atgyweiriadau
13. monitro ac adolygu ansawdd, diogelwch, effaith amgylcheddol ac amseriadau cynnal a chadw a gweithgareddau peirianegol eraill i sicrhau eu bod yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
14. ymdrin â phroblemau mewn perthynas ag ansawdd, diogelwch, effaith amgylcheddol ac amseriadau cynnal a chadw a gweithgareddau peirianegol eraill yn ddi-oed ac yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
15. cofnodi tasgau cynnal a chadw a gwblhawyd mewn perthynas â’r amserlen yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
16. sicrhau bod gwaith cynnal a chadw a gweithgareddau peirianegol eraill yn cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol
17. cywiro unrhyw wyriadau oddi wrth ofynion cytundebol neu gyfreithiol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. deddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer sy’n berthnasol i waith cynnal a chadw a gweithgareddau peirianneg eraill
2. gweithgareddau cynnal a chadw sy’n ofynnol yn eich maes cyfrifoldeb chi gan gynnwys peiriannau, systemau, cyfarpar, cerbydau, adeiladau, strwythurau
3. y gweithdrefnau sefydliadol am adrodd diffygion a dechrau atgyweiriadau ar y safle
4. y gweithdrefnau sefydliadol am weithredu, rheoli a chwblhau gweithrediadau cynnal a chadw
5. y system i ddyrannu contractau a chaniatâd i weithio
6. telerau ac amodau contractau yn eich maes cyfrifoldeb chi, gan gynnwys amodau unrhyw bolisi yswiriant
7. systemau cofnodi a ddefnyddir ar gyfer amserlenni cynnal a chadw, cofnodion, caniatâd i weithio a gwybodaeth gytundebol arall
8. y ffactorau sy’n cynyddu tebygolrwydd torri i lawr a’r camau i atal neu leihau’r rhain
9. gweithdrefnau diogelwch a gwarchod yr amgylchedd mewn perthynas â gwaith cynnal a chadw a gweithgareddau peirianegol eraill
10. systemau sicrhau ansawdd a ddefnyddir ar gyfer gwaith cynnal a chadw a gweithgareddau peirianegol eraill
11. pam mae’n bwysig gorfodi gweithdrefnau ar gyfer ansawdd, diogelwch a gwarchod yr amgylchedd a chamau i’w cymryd mewn ymateb i wyriadau oddi wrth y rhain
12. sut mae nodi gofynion amser ac adnodd
13. ffactorau i’w hystyried wrth drefnu gweithgareddau cynnal a chadw, gan gynnwys unrhyw ofynion cwmni yswiriant
14. anawsterau a allai godi wrth weithredu gweithgareddau cynnal a chadw a beth ddylid ei gynnwys mewn cynlluniau wrth gefn
15. pam mae’n bwysig sicrhau bod personél yn deall cyfarwyddiadau a’r dulliau a ddefnyddir i wneud hyn
16. y sgiliau technegol sydd eu hangen ar gyfer gwaith cynnal a chadw a gweithgareddau peirianegol a’r dulliau a ddefnyddir i wirio cymhwysedd, sgiliau ac anghenion hyfforddiant cyflogeion
17. sut mae sicrhau cymhwysedd contractwyr cynnal a chadw allanol, a’u rheoli
18. pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) i bersonél
19. pam mae’n rhaid cadw profion cyfarpar statudol wedi’u diweddaru, a sut mae sicrhau hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
WM30
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff
Cod SOC
1255
Geiriau Allweddol
rheoli, cynnal, cynnal a chadw, peirianneg, gweithrediadau, gwastraff, cyfleustod, cyfleustodau, amserlenni, cynlluniau, cynlluniau wrth gefn