Rheoli gwaith derbyn, didoli a storio deunyddiau ar gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff
URN: EUSWM05
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2019
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â rheoli’r gweithdrefnau ar gyfer derbyn, symud, didoli a storio deunyddiau. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol. Gallai’r Safon hon fod yn berthnasol i ddeunyddiau peryglus neu rai nad ydynt yn beryglus ar unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.
Mae’n mynnu gweithredu a rheoli gweithdrefnau a gweithrediadau gwaith i fodloni gofynion sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys archwilio a gwirio deunyddiau, gwrthod deunyddiau anawdurdodedig, ymdrin ag unrhyw ddeunyddiau y mae gofyn eu trin a thrafod mewn modd penodol a rhoi gwybod i gwsmeriaid ac ymdrin â deunyddiau annerbyniol. Mae’n cynnwys llunio rheolau ar gyfer cerbydau, peiriannau, criwiau ac aelodau o’r cyhoedd a gweithredu trefniadau diogelwch. Mae’n gofyn bod yr holl gerbydau, peiriannau a chriwiau ar y safle yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau sefydliadol y mae’n rhaid eu gweithredu i gydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol ar gyfer y gweithrediadau safle.
Mae’r Safon hon i reolwyr neu oruchwylwyr unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gweithredu systemau a gweithdrefnau ar gyfer derbyn, dilysu, symud, didoli a storio deunyddiau sy’n cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
2. nodi peryglon a lleihau risgiau i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd yn unol â deddfwriaeth a gofynion sefydliadol
3. cofnodi ac adrodd am risgiau i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd yn unol â gofynion deddfwriaethol a gweithdrefnau sefydliadol
4. sicrhau yr ymdrinnir â deunyddiau y mae angen eu trin a’u trafod yn benodol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
5. sicrhau bod deunyddiau anawdurdodedig yn cael eu cofnodi, eu gwrthod neu eu neilltuo yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
6. sefydlu systemau i reoli symudiad cerbydau a pheiriannau sy’n dod i mewn, yn symud o gwmpas ac yn gadael y safle sy’n cydymffurfio â gofynion iechyd, diogelwch a sefydliadol
7. creu neu ddiwygio rheolau’r safle i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a gweithdrefnau sefydliadol
8. sicrhau bod rheolau’r safle i gerbydau, peiriannau, criwiau ac aelodau’r cyhoedd ar y safle yn cael eu dilyn drwy’r amser
9. sicrhau bod personél wedi cael hyfforddiant cydnabyddedig cyn defnyddio unrhyw beiriannau, offer neu gyfarpar
10. sicrhau bod personél yn rhoi gweithdrefnau ar waith ac yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol drwy’r amser
11. sicrhau bod pob gweithdrefn ar gyfer derbyn deunyddiau yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol i gynnal ansawdd gwaith y sefydliad
12. gweithredu trefniadau diogelwch sy’n atal dosbarthu neu waredu deunyddiau heb awdurdod
13. cyfarwyddo cwsmeriaid am y gweithdrefnau ar gyfer derbyn a dilysu deunyddiau ar adegau priodol
14. rhoi cyfarwyddiadau i bersonél y safle sy’n unol â gweithdrefnau sefydliadol
15. cadw cofnodion a systemau gwybodaeth sy’n bodloni gofynion deddfwriaethol
16. sicrhau bod rhaglenni gwaith a chyfarwyddiadau yn gywir a chyflawn
17. cyfathrebu cyfarwyddiadau gwaith a gweithdrefnau â phersonél ar adegau priodol
18. cynghori cydweithwyr a rheolwyr priodol am faterion y mae gofyn rhoi eu sylw iddynt
19. rhoi gwybod i gwsmeriaid ac awdurdodau rheoleiddiol am unrhyw achosion o dorri gofynion deddfwriaethol a achoswyd drwy dderbyn deunyddiau annerbyniol
20. unioni unrhyw faterion sy’n effeithio ar dderbyn, dilysu, symud, didoli neu storio deunyddiau yn unol â phrosesau sefydliadol
21. holi arbenigwyr priodol am gyngor i ddatrys sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb
22. cynghori’r bobl berthnasol am unrhyw danseilio diogelwch neu sefyllfaoedd eraill sy’n mynnu eu sylw
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion deddfwriaethol, codau ymarfer ac arweiniad sy’n berthnasol i weithrediadau gwaith
2. gofynion deddfwriaethol a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymdrin â deunyddiau anawdurdodedig
3. gofynion cadw cofnodion deddfwriaethol ar gyfer derbyn, dilysu, trosglwyddo, adfer, trawsgludo a gwaredu deunyddiau gan gynnwys hyfforddiant staff
4. cynllun gweithio safle, trwydded a system reoli amgylcheddol i’r safle 5. beth ddylai rheolau safle ei gynnwys a sut mae eu gwerthuso mewn perthynas â gofynion deddfwriaethol a gweithdrefnau sefydliadol
6. mathau, swyddogaethau a chyfyngiadau cyfarpar trin a thrafod a ddefnyddir
7. technegau a gofynion codi a thrin a thrafod ar gyfer y mathau o ddeunyddiau a geir ar y safle
8. gweithdrefnau archwilio ac adnabod ar gyfer y mathau o ddeunyddiau a geir gan y safle
9. gweithdrefnau i reoli gweithgareddau gwaith ac ansawdd gwaith staff
10. gweithdrefnau i reoli traffig safle mewnol
11. gweithdrefnau i atal tanau yn ystod symud, didoli a storio deunyddiau
12. defnyddiau, dibenion a gofynion prosesu ar gyfer dogfennau perthynol i dderbyn a dilysu deunyddiau
13. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer derbyn a thrin a thrafod deunyddiau
14. polisi a gweithdrefnau amgylcheddol sefydliadol sy’n berthnasol i’r safle
15. risgiau a pheryglon i’r amgylchedd ac iechyd dynol o ganlyniad i dderbyn, symud a storio deunyddiau gan gynnwys y rheini sy’n berthynol i symud cerbydau a pheiriannau
16. y broses dadansoddi risg i leihau peryglon i bersonél a’r amgylchedd ar gyfer y gweithle cyfan
17. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymdrin â gollyngiadau, allyriadau a thân
18. mathau o gyfarpar diogelu personol sy’n ofynnol a sut mae’n rhaid eu defnyddio, eu cynnal a’u storio
19. pwysigrwydd personél yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer defnyddio cyfarpar diogelu personol, cerbydau, offer a pheiriannau a chyfarpar trin a thrafod
20. materion a allai effeithio ar weithrediadau gan gynnwys prinderau staff, diffygion cyfarpar, damweiniau, digwyddiadau, ymyriadau â gwaith, damweiniau fu bron â digwydd, tân, gollyngiadau, ffactorau allanol
21. sut mae sicrhau bod cyflogeion wedi deall cyfarwyddiadau gwaith a gweithdrefnau
22. pwy sydd angen cael gwybod am faterion a’r prosesau sefydliadol ar gyfer cyfathrebu â hwy
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
WM01
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff
Cod SOC
1255
Geiriau Allweddol
symud, didoli, storio, gwastraff, cyfleustod, cyfleustodau