Rheoli prosesau casglu yn y diwydiant rheoli adnoddau gwastraff
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â monitro a rheoli’r gweithgareddau casglu a’r bobl sy’n gweithio gyda hwy. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol. Gallai’r safon hon fod yn berthnasol i gasglu unrhyw fath o ddeunyddiau ar gyfer unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.
Mae hyn yn cynnwys datblygu ac adolygu gweithdrefnau, amserlennu llwybrau, sicrhau bod gweithredwyr wedi cael hyfforddiant priodol a’u bod yn deall ac yn dilyn gweithdrefnau casglu, sicrhau bod deunyddiau a gyflwynir i’w casglu yn cael eu dilysu am dderbynioldeb a sicrhau nad yw’r gwaith na’r deunyddiau’n gwneud niwed i’r amgylchedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gweithredu a monitro systemau a gweithdrefnau ar gyfer casglu a thrawsgludo yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol a gofynion y cwsmer
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. deddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer ac arweiniad perthnasol i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd ar gyfer casglu a thrawsgludo
- safonau a phrotocolau gwasanaeth cwsmeriaid
3. dogfennau sy’n ofynnol i gadarnhau cymhwysedd gyrrwr4. cyfyngiadau sy’n berthnasol i amser gweithio ar gyfer gyrwyr a chriw5. y mathau o gyfarpar diogelu personol sy’n ofynnol ar gyfer gwahanol fathau o ddeunyddiau a’r gweithdrefnau ar gyfer gofal, cynnal a chadw a defnyddio’r cyfarpar hwn6. gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau cwmni ar gyfer ymdrin â deunyddiau anawdurdodedig7. gweithdrefnau ar gyfer rheoli’n briodol weithgareddau gwaith ar y briffordd gyhoeddus a safleoedd cwsmeriaid8. polisi a gweithdrefnau amgylcheddol sefydliadol sy’n berthnasol i’r gwasanaethau a ddarperir9. gofynion i ddadansoddi risg i leihau’r peryglon i bersonél a’r amgylchedd ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir10. sut mae cymhwyso’r ddeddfwriaeth berthnasol11. gweithdrefnau adnabod ar gyfer gwahanol fathau o ddeunyddiau12. goblygiadau trin a thrafod gwahanol fathau o ddeunyddiau, gan gynnwys y rheini y mae gofyn trin a thrafod arbennig ar eu natur neu nodweddion ffisegol13. gweithdrefnau trin a thrafod sy’n mynnu cyfarpar diogelu personol, cyfarpar codi, cyfarpar trin a thrafod cynwysyddion14. gweithdrefnau argyfwng15. gwahanol ffyrdd o gyfathrebu â phersonél a chwsmeriaid a’r dulliau sy’n addas i wahanol sefyllfaoedd16. systemau gwaith diogel i bersonél sy’n ymwneud â gweithrediadau casglu a thrawsgludo17. gweithdrefnau gweithredol a’u cysylltiadau â gofynion iechyd a diogelwch a gwarchod yr amgylchedd gan gynnwys y rheini i weithredwyr eu dilyn os bydd gollyngiad, cyfyngiant annigonol neu gamweithrediad cyfarpar18. gweithdrefnau gweithredol i sicrhau bod cerbydau casglu a thrawsgludo’n cynnwys y cyfarpar addas19. gweithdrefnau i ddilysu a derbyn deunyddiau20. systemau i staff casglu a thrawsgludo gofnodi ac adrodd am sefyllfaoedd sydd wedi achosi bygythiad i’r systemau amgylchedd, neu sy’n debygol o’i achosi, i gadarnhau bod archwiliadau diogelwch cyn gwaith wedi’u cynnal a bod diffygion yn cael eu hadrodd bob diwrnod gwaith