Gweithredu a rheoli gwelliannau a newidiadau i systemau a gweithrediadau rheoli adnoddau gwastraff
URN: EUSWM03
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2019
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â gwneud gwelliannau a newidiadau i systemau a gweithrediadau rheoli adnoddau gwastraff. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol. Gall newid a gwelliannau gael eu sbarduno gan lawer o bethau gan gynnwys contractau neu fusnes newydd, datblygiadau mewn meddwl ac arfer amgylcheddol, diffygion a nodwyd gan archwiliadau allanol neu welliannau i brosesau a gweithgareddau a awgrymir gan bersonél. Gallai hyn fod yn berthnasol i unrhyw ran o’r sector rheoli adnoddau gwastraff.
Mae’n cynnwys nodi gwelliannau posibl, asesu effaith bosibl gwelliannau a newidiadau, eu cynllunio a’u gweithredu a monitro ac asesu eu heffeithiolrwydd mewn perthynas â buddion a gynlluniwyd. Bydd angen ichi ddeall yn llawn bolisïau, amcanion a phrosesau gweithredol y sefydliad. Mae’n gofyn dadansoddiad trefnus o weithrediadau a defnyddio asesiadau ansoddol, meintiol ac ariannol.
Mae’r Safon hon i reolwyr mewn unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwerthuso systemau a gweithrediadau ar adegau priodol i nodi gwelliannau posibl
2. cynnal system y gall personél gael ati i wneud argymhellion ar welliannau3. gwerthuso costau a buddion gwelliannau a newid posibl mewn perthynas ag amcanion y cwmni a thebygolrwydd llwyddiant
4. gwerthuso effaith bosibl unrhyw welliannau a newid arfaethedig ar agweddau eraill ar weithrediadau safle5. paratoi cynlluniau prosiect i weithredu gwelliannau a newid arfaethedig dichonadwy6. gwneud trefniadau wrth gefn i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau a nodwyd wrth gyflawni’r canlyniadau disgwyliedig7. cael cytundeb i gynlluniau gyda chysylltiadau mewnol ac allanol priodol8. adolygu asesiadau risg ar gyfer arferion gwaith sydd wedi newid9. adolygu cofnodion hyfforddiant i sicrhau bod modd bodloni’r holl sgiliau sydd eu hangen ar newidiadau systemau a gweithrediadau10. gweithredu unrhyw hyfforddiant ychwanegol sy’n ofynnol i fodloni newidiadau mewn systemau a gweithrediadau11. cywiro unrhyw brinderau staff, diffygion cyfarpar neu achosion allanol sy’n atal cynlluniau rhag cael eu bodloni yn unol â gweithdrefnau sefydliadol12. rhoi gwybodaeth ddigonol a chlir am gynlluniau i alluogi’r rheini sy’n gyfrifol am weithredu i’w cyflawni13. monitro a sicrhau gweithrediad cynlluniau mewn perthynas â manylebau, amserlenni a chyllideb y cytunwyd arnynt14. nodi, gwerthuso a chywiro unrhyw broblemau, rhwystrau neu wyriadau oddi wrth gynlluniau, manylebau, amserlenni neu gyllideb15. cynnal parhad gweithgareddau busnes yn ystod y cyfnod o newid
16. cyfathrebu cynnydd yn rheolaidd a rhoi cyfleoedd i bobl roi adborth
17. gwerthuso canlyniadau prosiect mewn perthynas â pherfformiad blaenorol ar gyfer costau disgwyliedig, buddion gweithredol ac effaith ar yr amgylchedd18. adrodd canlyniadau gwerthusiadau yn y fformat a’r amserlen y cytunwyd arnynt19. rheoli pob gweithdrefn sy’n gysylltiedig â gwelliannau neu newid i wella neu gynnal ansawdd gweithrediadau’r sefydliad20. cael cyngor gan y bobl briodol i ddatrys sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. deddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer a gweithdrefnau sy’n berthnasol i ddiogelwch, iechyd a’r amgylchedd ar gyfer gweithrediadau rheoli adnoddau gwastraff
2. yr effaith y gall sbardunau newid a gwelliant ei chael ar weithredu llwyddiannus gan gynnwys contractau neu fusnes newydd, datblygiadau mewn meddwl ac arfer amgylcheddol, diffygion a nodwyd gan archwiliadau allanol a gwelliannau i weithgareddau a phrosesau a gynigiwyd gan bersonél
3. y gweithdrefnau ar gyfer rheoli priodol y gweithgareddau gwaith ar y safle
4. amcanion a blaenoriaethau’r sefydliad mewn perthynas â gwarchod yr amgylchedd, iechyd a diogelwch, proffidioldeb, rheoli gweithrediadau a safonau ansawdd
5. sut mae dehongli a gwirio dogfennaeth broses
6. datblygiadau diweddar mewn technoleg, meddwl amgylcheddol a gweithdrefnau gweithredu a allai effeithio ar y diwydiant rheoli adnoddau gwastraff
7. sut mae defnyddio gwybodaeth am gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythion i werthuso gwelliannau
8. costau gweithredu presennol, a sut mae costau’n cael eu dadansoddi
9. sut mae cyfrifo costau gwelliannau o ran cyfalaf, gosod a chostau gweithredu
10. sut mae defnyddio dulliau a thechnegau dadansoddi cost a budd
11. technegau a ddefnyddir wrth baratoi cynigion
12. effaith gwelliannau posibl ar agweddau eraill ar weithgareddau
13. gweithdrefnau adrodd ar gyfer cymeradwyo prosiectau, monitro gweithredu a gwerthuso canlyniadau prosiect
14. sut mae monitro gweithrediad cynlluniau gwella, gan gynnwys unrhyw broblemau a gafwyd a’r camau y gellid eu cymryd i ymateb i’r rhain
15. sut mae monitro gweithrediad cynlluniau mewn perthynas â manylebau, amserlenni a chyllidebau y cytunwyd arnynt
16. sut mae unioni gwyriadau oddi wrth gynlluniau, manylebau, amserlenni neu gyllidebau
17. technegau i werthuso prosiectau, a sut mae adrodd amdanynt
18. gofynion storio, trawsgludo, trin a thrafod ar gyfer y mathau o ddeunydd yr ymdrinnir â hwy ar y safle
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
WM09
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff
Cod SOC
1255
Geiriau Allweddol
rheoli, gwelliannau, gwastraff, rheoli, gweithrediadau, cyfleustod, cyfleustodau, dadansoddiad cost a budd