Paratoi cynigion a chael contractau am wasanaethau rheoli adnoddau gwastraff
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â pharatoi cynigion a chael contractau am gyflenwi gwasanaethau rheoli adnoddau gwastraff. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol. Gallai hyn fod yn berthnasol i unrhyw ran o’r diwydiant rheoli adnoddau gwastraff.
Mae hyn yn cynnwys pennu cyfleoedd i dendro am gontractau, paratoi cynigion i fodloni gofynion tendro, cyflwyno cynigion i gleientiaid posibl, cyd-drafod gyda chleientiaid a chwblhau contractau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
dewis meini prawf i asesu priodoldeb cyfleoedd tendro i’r sefydliad 2. graddio cyfleoedd tendro mewn perthynas â meini prawf dethol
cadarnhau y gall y sefydliad fodloni’r cwmpas o wasanaethau sy’n ofynnol gan fanylebau tendr
4. ceisio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i ddiffinio a chadarnhau anghenion cleient5. cynnig dewisiadau amgen amrywiol i gleientiaid pan nad yw manylebau tendr yn gyraeddadwy6. cytuno ar unrhyw amrywiadau o ofynion y tendr gyda chleientiaid ar adegau priodol7. defnyddio gwybodaeth gywir a llawn i baratoi cynigion8. asesu cost yr adnoddau sy’n ofynnol i fodloni contractau9. nodi buddion i gleientiaid mewn cynigion a chyflwyniadau10. sicrhau bod dogfennaeth dendr yn gyflawn, yn gywir, yn mynd i’r afael â holl ofynion y tendr ac yn cadarnhau unrhyw amrywiadau a gytunwyd11. cyflwyno dogfennaeth dendr mewn fformatau ac amserlenni penodedig12. cyd-drafod yr amodau contract gorau posibl i’ch sefydliad
13. cadarnhau canlyniadau cyd-drafodaethau ôl-dendr yn ysgrifenedig14. sicrhau bod contractau’n bodloni disgwyliadau sefydliadol ac yn neilltuo atebolrwydd clir am hapddigwyddiadau y gellir eu rhagweld rhwng cleientiaid a’ch sefydliad15. cadarnhau gyda chleientiaid feini prawf contract ar gyfer gweithdrefnau rheoli perfformiad, amrywio a gytunwyd, gwobrwyon ac iawndal penodedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer ac arweiniad sy’n berthnasol i ddiogelwch, iechyd a’r amgylchedd ar gyfer gweithgareddau rheoli adnoddau gwastraff