Nodi a chynhyrchu cyfleoedd busnes newydd o ran rheoli adnoddau gwastraff

URN: EUSWM01
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud â nodi a chynhyrchu cyfleoedd busnes newydd i sefydliad rheoli adnoddau gwastraff. Gyda dull atgynhyrchiol yr economi gylchol, ystyrir mwyfwy fod gwastraff yn adnodd sydd wedi’i wneud o ddeunyddiau a chanddynt ddefnydd yn y dyfodol. Gall hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gyfleuster rheoli adnoddau gwastraff.        

Mae hyn yn cynnwys ymchwil i’r farchnad, nodi cyfleoedd tendro posibl, llunio a rheoli’r broses o gyflwyno cynlluniau fesul dipyn i hyrwyddo ymwybyddiaeth am wasanaeth, ymateb i ymholiadau gan gleientiaid posibl, drafftio contractau a chytundebau a throsglwyddo gwybodaeth i’r bobl briodol am fusnes newydd wedi’i gaffael.       

Gallai’r Safon hon fod yn berthnasol i reolwyr yn unrhyw ran o’r diwydiant rheoli adnoddau gwastraff.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal ymchwil i’r farchnad a rhwydweithio yn y diwydiant i amlygu cyfleoedd i ddatblygu busnes newydd o ran rheoli adnoddau gwastraff

2. defnyddio gwybodaeth o weithgareddau hyrwyddo blaenorol ac ymchwil i’r farchnad i’ch helpu i lunio cynlluniau hyrwyddo’r dyfodol
3. dadansoddi ymchwil i amlygu cleientiaid posibl sy’n gofyn hyrwyddo wedi’i deilwra
4. cyfathrebu gwybodaeth am wasanaethau’r sefydliad sy’n gyson â pholisi’r sefydliad                       
5. cynnal digon o ffynonellau gwybodaeth, deunyddiau, cyfarpar ac adnoddau cyfredol i wneud gwaith hyrwyddo gan sicrhau bod unigolion perthnasol yn gwybod am weithgareddau hyrwyddo gwirioneddol a rhai sydd ar y gweill ac am eu rôl yn y gweithgareddau hynny                 
6. rhoi gwybod i bobl berthnasol am weithgareddau hyrwyddo gwirioneddol a rhai sydd ar y gweill ac am eu rôl yn y gweithgareddau hynny
7. monitro cynnydd gwaith hyrwyddo a chymryd camau priodol i unioni unrhyw wyriadau o’r cynllun                   
8. mynd ar drywydd ymholiadau am wasanaethau yn unol â phrosesau sefydliadol
9. sicrhau bod gennych dystiolaeth glir o ddisgwyliadau a gofynion cleient cyn gwneud unrhyw waith manwl      
10. drafftio contractau neu gytundebau sy’n cynrychioli’r gwasanaeth a’r telerau sy’n cael eu cynnig
11. ymgynghori â phobl berthnasol am delerau contractau neu gytundeb cyn eu cwblhau                  
12. cytuno ar delerau terfynol contractau â chleientiaid sy’n bodloni anghenion sefydliadol
13. sicrhau bod gweithdrefnau yn eu lle i fonitro cynnydd y gwasanaeth a boddhad y cleient
14. cadw cofnodion o gontractau, cytundebau a gwybodaeth berthnasol arall mewn systemau sefydliadol   
15. rhoi gwybod i’r bobl briodol am archebion newydd a manylion contract a chyflenwi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. deddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau sy’n berthnasol i ddiogelwch, iechyd a’r amgylchedd ar gyfer rheoli adnoddau gwastraff        

2. amcanion, polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad mewn perthynas â gwarchod yr amgylchedd, iechyd a diogelwch, proffidioldeb, canlyniadau gweithredol a safonau ansawdd   
3. egwyddorion yr economi gylchol a sut maent yn berthnasol i ymarfer a brandio eich sefydliad a disgwyliadau’r cleient                
4. amcanion a blaenoriaethau’r sefydliad ar gyfer darparu gwasanaethau rheoli adnoddau gwastraff         
5. y trwyddedau sydd gan y sefydliad, y mathau o ddeunyddiau y gall eu trin a’r tunelleddau (dyddiol) mwyaf y gall eu derbyn         
6. y gweithdrefnau i reoli’n briodol y gweithgareddau gwaith ar safleoedd eich cwsmeriaid a’ch safle eich hun
7. y gofynion am ddadansoddi risgiau i leihau peryglon i bersonél a’r amgylchedd ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir
8. ffynonellau gwybodaeth am wasanaethau’r sefydliad       
9. sut mae casglu, defnyddio, gwirio dilysrwydd a storio gwybodaeth feintiol ac ansoddol a’r mathau o broblemau a all godi wrth gasglu gwybodaeth a sut mae goresgyn y rhain 
10. pwysigrwydd darparu gwybodaeth a chyngor i eraill a’ch rôl a’ch cyfrifoldeb mewn perthynas â hyn                
11. pwysigrwydd nodi anghenion a disgwyliadau’r cwsmer a sut mae nodi anghenion yn ddigon manwl i ddatblygu cynigion                   
12. sut mae datblygu achosion rhesymedig a chyd-drafod gyda chwsmeriaid posibl a gwirioneddol
13. pwysigrwydd adborth cwsmeriaid, sut mae gwerthuso adborth o ran effaith ar weithrediadau a sut mae ymateb          
14. egwyddorion cyfrinachedd wrth ymdrin ag adborth cwsmeriaid a gwybodaeth sefydliadol             
15. datblygiadau diweddar mewn meddwl amgylcheddol, technoleg a gweithdrefnau gweithredol yn y diwydiant rheoli adnoddau gwastraff  
16. sut mae defnyddio dulliau a thechnegau dadansoddi cost a budd 
17. y costau gweithredu cyfredol yn y sefydliad ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir
18. y gwahanol fathau o ddeunyddiau y gellid eu trin, eu goblygiadau storio a thrin a thrafod a mathau, swyddogaethau a chyfyngiadau’r cyfarpar trin a thrafod sydd ar gael
19. y cofnodion a’r gwaith papur sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth a chan weithdrefnau gweithredol mewn perthynas â’r gwasanaethau a ddarperir a sut mae eu cwblhau
20. y sgiliau technegol sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir
21. sut mae defnyddio asesiad risg a nodi peryglon posibl cysylltiedig â gwaith a’r anawsterau sy’n codi o’r gweithgareddau a gyflawnwyd i ddarparu’r gwasanaeth       
22. sut mae dehongli dogfennaeth broses a gwirio bod yr wybodaeth yn gywir a’i bod yn berthnasol i’r deunyddiau yr ymdrinnir â hwy wrth ddarparu’r gwasanaeth
23. pryd mae’n briodol cysylltu â chleientiaid posibl a chanfod eu hanghenion o ran gwasanaethau rheoli adnoddau gwastraff


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

WM29

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff

Cod SOC

1255

Geiriau Allweddol

cynhyrchu, cynhyrchiad, diogel, gwastraff, rheoli, busnes, cyfleustod, cyfleustodau, ymchwil i’r farchnad, gweithgareddau hyrwyddo, dadansoddi, adborth