Safoni arferion mewn arolygiadau ffitiadau dŵr a diffyg cydymffurfio

URN: EUSWFRBE8
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoliadau Ffitiadau Dŵr/Gorfodaeth Is-ddeddfau
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â safoni arferion i sicrhau cysondeb dyfarniadau ynghylch cydymffurfio â ffitiadau dŵr, a diffyg cydymffurfio. Mae hyn yn berthnasol i arolygwyr sy’n gweithio mewn adran.

Mae’n cynnwys dadansoddi data arolygu a chydymffurfio, nodi anghenion hyfforddi a gwahaniaethau mewn ymarfer, creu cyfleoedd i rannu dulliau gweithredu a chanlyniadau, cynllunio ymyriadau i wella ymarfer, darparu cyngor ac arweiniad technegol a rhoi gwybod i aelodau’r tîm am ddatblygiadau yn y sector.

Er mwyn cyflawni’r rôl hon, rhaid iddynt fod yn brofiadol yn y meysydd sy’n dod o dan y safonau canlynol.
EUSWFRBE2 Archwilio eiddo i weld a yw ffitiadau dŵr yn cydymffurfio
EUSWFRBE3 Addysgu, arwain a gorfodi i sicrhau bod ffitiadau dŵr yn cydymffurfio â deddfwriaeth
EUSWFRBE4 Darparu gwybodaeth am ffitiadau dŵr i’w defnyddio mewn gweithdrefnau cyfreithiol
EUSWFRBE7 Datrys achosion gorfodi ffitiadau dŵr sydd wedi’u huwchgyfeirio

Mae’r Safon hon ar gyfer rheolwyr, uwch arolygwyr cydymffurfio ffitiadau dŵr ac eraill sy’n gyfrifol am ansawdd a chysondeb ymarfer mewn adrannau cydymffurfio ffitiadau dŵr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Casglu a dadansoddi data sy’n ymwneud ag arolygiadau ffitiadau dŵr a diffyg cydymffurfio yn barhaus
  2. Archwilio a chanfod y rhesymau dros unrhyw anghysondebau mewn data arolygu ffitiadau dŵr neu ddata diffyg cydymffurfio
  3. Mynd ar drywydd unrhyw arolygwyr y mae eu penderfyniadau y tu hwnt i ddisgwyliadau arferol yn ddi-oed, er mwyn lleihau’r effaith ar arolygiadau sydd ar y gweill
  4. Nodi anghenion hyfforddi a meysydd i’w datblygu a fydd yn gwella arferion aelodau’r tîm.
  5. Darparu cyfleoedd rheolaidd i’r rheini sy’n ymwneud ag arolygiadau ffitiadau dŵr i rannu dulliau a chanlyniadau ar gyfer safoni yn y sefydliad a gyda sefydliadau allanol eraill
  6. Cynllunio ymyriadau sy’n mynd i’r afael ag unrhyw anghenion hyfforddi a nodi gwahaniaethau mewn dehongli neu ymarfer
  7. Sicrhau bod yr holl bobl berthnasol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau safoni
  8. Rhoi cyngor ac arweiniad technegol i aelodau'r tîm pan fo angen
  9. Sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau yn y sector a fydd yn effeithio ar benderfyniadau neu arferion arolygu ffitiadau dŵr
  10. Cyfathrebu â chymheiriaid yn y diwydiant dŵr yn rheolaidd am archwiliadau a diffyg cydymffurfio
  11. coladu tueddiadau cenedlaethol o arfer da a diffyg cydymffurfio a defnyddio'r rhain i lywio arferion safoni
  12. Archwilio a diweddaru gwybodaeth y sefydliad am dechnoleg ffitiadau dŵr newydd ac asesu risg eu cydymffurfiad â deddfwriaeth


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deddfwriaeth berthnasol sy’n briodol i Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban sy’n ymwneud â dylunio, gosod a chynnal a chadw systemau plymio, ffitiadau dŵr a chyfarpar sy’n defnyddio dŵr, gan gynnwys sut i’w cymhwyso i faterion newydd
  2. manylebau rheoleiddiwr, safonau Prydeinig priodol a dulliau gosod cymeradwy gan gynnwys dyfeisiau Math BA (falfiau parth gwasgedd is) a’r hyn y mae’n rhaid i’r cwsmer roi gwybod amdano cyn ei osod
  3. gweithdrefnau a phrosesau rheoleiddiol, sefydliadol, gweithredol a brys sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch a'r amgylchedd
  4. beth sy'n cael ei ystyried yn groes i ddeddfwriaeth yng nghyswllt systemau plymio gwahanol
  5. sut i storio, adalw, cwestiynu a choladu data mewn systemau storio data sefydliadol
  6. terfynau arferol data ar gyfer y maes gwaith hwn a sut i ddadansoddi goblygiadau canlyniadau sydd y tu allan iddynt
  7. sut i asesu pa mor frys yw ymyriadau hyfforddi yng nghyswllt eu heffaith ar arolygiadau sydd ar y gweill
  8. technegau i ganfod bylchau yng ngwybodaeth a sgiliau aelodau staff
  9. sefydliadau perthnasol eraill, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â gorfodi, eu rôl a sut i gyfathrebu â nhw
  10. manteision ac anfanteision yr ystod o ymyriadau ac offer ar gyfer mynd i'r afael ag ymarfer pobl a pha mor briodol ydynt mewn gwahanol sefyllfaoedd
  11. sut i strwythuro cyfleoedd rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer safoni wrth gydymffurfio â rheoliadau diogelu data
  12. pwy ddylai gymryd rhan mewn gweithgareddau safoni a sut i ymgysylltu â nhw
  13. sut i ymateb i arloesedd a ffynonellau gwybodaeth am ddatblygiadau sectoraidd a fydd yn effeithio ar benderfyniadau neu arferion arolygu ffitiadau dŵr
  14. sut i nodi arferion da cenedlaethol a thueddiadau o ran diffyg cydymffurfio
  15. defnyddio technoleg i liniaru risg a sut i asesu risg cydymffurfiaeth technoleg ffitiadau dŵr newydd yn erbyn deddfwriaeth
  16. sut i ymgysylltu â gweithgynhyrchwyr
  17. sut i gyfleu gwybodaeth am ddatblygiadau sectoraidd, gwybodaeth am dechnoleg ffitiadau dŵr newydd, tueddiadau cenedlaethol o ddiffyg cydymffurfio ac arfer da i'r tîm rheoliadau dŵr a'r cyhoedd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

N/A

Galwedigaethau Perthnasol

Y Gyfraith a gwasanaethau cyfreithiol, Arolygydd Dŵr, Crefftau Peirianneg ac Adeiladu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

dŵr; ffitiadau; is-ddeddfau; rheoliadau; deddfwriaeth; cydymffurfiaeth; tramgwyddo; halogi; safoni; dilysu; ymarfer