Datrys achosion gorfodi ffitiadau dŵr sydd wedi’u huwchgyfeirio
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â datrys achosion gorfodi ffitiadau dŵr sydd wedi cael eu huwchgyfeirio atoch chi.
Mae’n golygu casglu gwybodaeth ac adolygu manylion achosion a gyfeirir, ail-archwilio pan fo angen, sefydlu cynllun ar gyfer cydymffurfio, cyfathrebu â chwsmeriaid, rheoli gwrthdaro, drafftio a rhoi hysbysiadau torri amodau, a chofnodi manylion perthnasol, gan gynnwys tystiolaeth o dorri amodau.
Mae’r Safon hon ar gyfer rheolwyr ac uwch arolygwyr cydymffurfio ffitiadau dŵr.
Er mwyn cyflawni’r rôl hon, rhaid iddynt fod yn brofiadol yn y meysydd sy’n dod o dan y safonau canlynol.
EUSWFRBE2 Archwilio eiddo i weld a yw ffitiadau dŵr yn cydymffurfio
EUSWFRBE3 Addysgu, arwain a gorfodi i sicrhau bod ffitiadau dŵr yn cydymffurfio â deddfwriaeth
EUSWFRBE4 Darparu gwybodaeth am ffitiadau dŵr i’w defnyddio mewn gweithdrefnau cyfreithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- casglu ac adolygu gwybodaeth am achosion a gyfeiriwyd o ffynonellau perthnasol
- gwneud asesiad beirniadol o gamau gweithredu a chasgliadau mewn achosion a gyfeiriwyd yn erbyn deddfwriaeth ffitiadau dŵr a pholisïau a gweithdrefnau gorfodi sefydliadol
- ceisio unrhyw wybodaeth, cyngor neu gymorth pellach sy'n ofynnol gan bobl, adrannau neu sefydliadau perthnasol
- cynnal ailarolygiadau pan fydd yn ofynnol iddynt gael tystiolaeth ychwanegol i ddatrys achosion
- datblygu strategaeth ar gyfer datrys problemau sy'n berthnasol i bolisïau a gweithdrefnau gorfodi sefydliadol ac a fydd yn sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth ffitiadau dŵr
- defnyddio tystiolaeth briodol, sy'n gwahaniaethu'n glir rhwng ffaith a barn, wrth esbonio canlyniadau eich asesiad i gwsmeriaid
- asesu'r risgiau sy’n gallu codi yn sgil torri is-ddeddfau a rheoliadau a chofnodi'r dystiolaeth yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy
- rhoi gwybodaeth glir mewn cynllun cydymffurfio ynghylch sut i gydymffurfio
- defnyddio iaith ac ymddygiad sy'n lleihau gwrthdaro yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- diogelu rhag unrhyw ymddygiad ymosodol a chamdriniol yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cofnodi gwybodaeth gywir am fanylion a chanlyniad y trafodaethau a'r cytundeb a gafwyd gyda chwsmeriaid
- dilyn cynlluniau cydymffurfio y cytunwyd arnynt o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt a chymryd camau perthnasol yn dilyn canlyniad ailarolygiadau
- cyhoeddi hysbysiadau tramgwyddo yn ddi-oed ac yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy
- cofnodi gweithgareddau gorfodi mewn systemau sefydliadol, gan dynnu sylw at dueddiadau sy'n dod i'r amlwg mewn materion diffyg cydymffurfio a'u cofnodi
- awgrymu newidiadau i systemau a gweithdrefnau a fydd yn atal achosion rhag gwaethygu yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth berthnasol sy’n briodol i Ogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru a Lloegr, sy’n ymwneud â dylunio, gosod a chynnal a chadw systemau plymio, ffitiadau dŵr a chyfarpar sy’n defnyddio dŵr
- manylebau rheoleiddiwr, safonau Prydeinig priodol a dulliau gosod cymeradwy gan gynnwys dyfeisiau Math BA (falfiau parth gwasgedd is) a’r hyn y mae’n rhaid i’r cwsmer roi gwybod amdano cyn ei osod
- gweithdrefnau a phrosesau rheoleiddiol, sefydliadol, gweithredol a brys sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch a'r amgylchedd
- beth sy'n cael ei ystyried yn groes i ddeddfwriaeth yng nghyswllt systemau plymio gwahanol
- goblygiadau diffyg cydymffurfio ar iechyd y cyhoedd gan gynnwys peryglon iechyd bach, sylweddol a difrifol, effaith ariannol, ymarferoldeb, logisteg
- ffynonellau gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth ar gyfer achosion a gyfeirir a sut i gyfathrebu â nhw gan gynnwys cwsmeriaid, contractwyr, plymwyr, arolygwyr, cydweithwyr cyfreithiol a sefydliadau dŵr yfed swyddogol
- gweithdrefnau ar gyfer cynllunio a threfnu arolygiadau
- pwysigrwydd sicrhau bod cwsmeriaid yn deall pwrpas deddfwriaeth a chadarnhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, eu dealltwriaeth o oblygiadau a diffyg cydymffurfio
- sut i sicrhau cydymffurfiaeth mewn ffordd sy'n gwella ewyllys da, cydweithrediad a dealltwriaeth o bolisïau a gweithdrefnau sefydliadol
- sut i adnabod y prif arwyddion y gallai sefyllfa arwain at ymddygiad ymosodol neu sarhaus neu risg i ddiogelwch personol, sut i addasu iaith y corff a chyfathrebu mewn sefyllfaoedd sy'n datblygu a sut i nodi strategaethau gadael diogel
- gwahanol fathau o risgiau sy'n cael eu creu gan amrywiol fathau o dorri rheoliadau a'r sancsiynau a’r cosbau y gellir eu rhoi
- yr hyn y mae angen ei gynnwys yn y cynllun cydymffurfio, gan gynnwys cywiriadau er mwyn sicrhau cydymffurfiad yn y tymor byr ac yn barhaol
- sut mae penderfynu ar amserlenni derbyniol ar gyfer gweithgareddau dilynol
- ffynonellau gwybodaeth ar gyfer y mathau o weithgareddau dilynol efallai y bydd angen i chi eu cynnal, gan gynnwys ymchwiliadau pellach, ailarolygiad, darparu dogfennau neu wybodaeth, cael dogfennau neu wybodaeth
- cofnodi gofynion a’r potensial i’w defnyddio fel tystiolaeth pan fydd camau cyfreithiol yn cael eu cymryd a sut y cyflwynir tystiolaeth yn y llys
- technegau cyfathrebu a thrafod
- camau i'w cymryd yn sgil ailarolygiadau
- sut mae dod o hyd i ffynonellau gwybodaeth, pa fathau ydynt a sut i gael gafael arnynt
- gwahanol fathau o risgiau sy'n cael eu creu gan amrywiol fathau o dorri rheoliadau a'r sancsiynau a’r cosbau y gellir eu rhoi
- beth sydd ynghlwm â chyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio ac ysgogi gweithdrefnau gorfodi a pha bryd y mae’n briodol gwneud hynny
- pam ei bod yn bwysig cofnodi tystiolaeth a dulliau o wneud hynny, a sut y defnyddir y dystiolaeth honno mewn achos cyfreithiol
- gofynion sefydliadol o ran cwblhau hysbysiadau tramgwyddo
- pwy sydd angen yr wybodaeth hysbysu
- gweithdrefnau gorfodi
- gweithdrefnau cwyno sefydliadol a rheoleiddiol ac unrhyw ddogfennau sy’n angenrheidiol