Cyflwyno tystiolaeth lafar yn y llys am dramgwyddo ffitiadau dŵr
URN: EUSWFRBE5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoliadau Ffitiadau Dŵr/Gorfodaeth Is-ddeddfau
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chyflwyno tystiolaeth am dramgwyddo ffitiadau dŵr yn y llys. Gallai hyn fod fel tyst neu dyst arbenigol.
Mae’n golygu defnyddio'r ymddygiad a ddisgwylir gan y llys, gan gynnwys defnyddio'r dulliau cywir o gyfarch pobl. Mae hefyd yn cynnwys siarad yn glir ac egluro manylion technegol mewn ffordd y gall pobl annhechnegol ei deall, a chyflwyno tystiolaeth sy’n gyson â’r manylion ysgrifenedig sy’n ymwneud â’r mater o ddiffyg cydymffurfio.
Mae’r Safon hon ar gyfer arolygwyr cydymffurfio â ffitiadau dŵr sy’n cyflwyno tystiolaeth yn y llys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod y ffordd rydych chi’n edrych ac yn ymddwyn yn y llys yn cydymffurfio â'r hyn y mae’r llys rydych chi’n ymddangos ynddo yn ei ddisgwyl gennych
- cyflwyno tystiolaeth mewn ffordd glir a dealladwy
- rhoi tystiolaeth sy'n gyson â chynnwys manylion ysgrifenedig yr achos
- cyflwyno tystiolaeth wedi’i labelu i’w defnyddio mewn llys barn yn unol â gweithdrefnau’r llys
- delio â chwestiynau mewn modd gonest a diduedd, gan ddefnyddio iaith gryno ac eglur
- rhoi gwybodaeth gywir am unrhyw rybuddion a roddwyd i ddiffynyddion tra’r oedd achosion yn cael eu paratoi ar gyfer eu herlyn
- herio neu ddilysu eitemau a ddefnyddir yn yr amddiffyniad yn unol â gweithdrefnau'r llys
- ateb cwestiynau penodol gydag esboniadau technegol perthnasol sy'n ddealladwy i bobl annhechnegol
- gwahaniaethu’n glir rhwng ffaith a barn wrth gyflwyno tystiolaeth lafar, gan fynegi barn dim ond pan ofynnir hynny
- sicrhau bod pob ymateb o fewn terfynau ei arbenigedd ei hun
- gwahaniaethu rhwng dull cyflwyno yn unol â rôl benodol tyst neu dyst arbenigol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- manylion yr achos gan gynnwys amserlen gorolegol, y bobl dan sylw a’u perthynas â’r achos, y diffyg cydymffurfio a nodwyd, y weithdrefn gyfreithiol
- deddfwriaeth ffitiadau dŵr a goblygiadau ehangach peidio â chydymffurfio
- manylebau rheoleiddiwr, safonau Prydeinig priodol a dulliau gosod cymeradwy gan gynnwys dyfeisiau Math BA (falfiau parth gwasgedd is) a’r hyn y mae’n rhaid i’r cwsmer roi gwybod amdano cyn ei osod
- sut mae cymhwyso deddfwriaeth ffitiadau dŵr i wahanol systemau plymio
- beth yw torri deddfwriaeth ar gyfer gwahanol fathau o systemau plymio
- beth sy'n cael ei ystyried yn ymddangosiad ac yn ymddygiad derbyniol ar gyfer ymddangos yn y llys
- gweithdrefnau a dulliau o gyfarch yn y llys
- sgiliau cyfathrebu o ran siarad a gwrando
- sut mae rhoi esboniadau technegol mewn ffordd annhechnegol
- Sut i groesgyfeirio tystiolaeth label sydd i’w defnyddio mewn llys barn, gan gynnwys ffotograffau, ffitiadau dŵr sy’n cael eu tynnu o eiddo
- gwahaniaethau mewn cyfrifoldebau ac ymddygiad fel tyst neu dyst arbenigol
- terfynau arbenigedd personol a pham ei bod yn bwysig gwybod beth ydynt
- sut i herio neu ddilysu eitemau a ddefnyddir mewn amddiffyn, gan gynnwys tystysgrifau cydymffurfio a gyhoeddir gan gontractwyr cymeradwy
- p’un ai a roddwyd rhybudd i’r diffynnydd wrth baratoi achos i’w erlyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSWFRBE5
Galwedigaethau Perthnasol
Y Gyfraith a gwasanaethau cyfreithiol, Arolygydd Dŵr, Crefftau Peirianneg ac Adeiladu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
dŵr; ffitiadau; rheoliadau; is-ddeddfau; deddfwriaeth; cydymffurfiaeth; tramgwyddo; halogi; llys; cyfreithiol; gorfodi;