Darparu gwybodaeth i'w defnyddio mewn gweithdrefnau cyfreithiol LEGACY
URN: EUSWFRBE4L
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gorfodi Is-ddeddfau,Rheoliadau Ffitiadau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â darparu tystiolaeth i'w defnyddio mewn gweithdrefnau cyfreithiol pan mae cwsmeriaid wedi torri is-ddeddfau a rheoliadau ffitiadau dŵr.
Mae’n cynnwys paratoi gwybodaeth gyflawn, gynhwysfawr a chywir, ei strwythuro mewn ffordd resymegol a’i chyflwyno naill ai ar lafar i bobl yn y sefydliad neu yn ysgrifenedig.
Mae’r Safon hon ar gyfer arolygwyr is-ddeddfau a rheoliadau ffitiadau
dŵr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- canfod a chael gwybodaeth a dogfennau ategol sy'n berthnasol i'r enghraifft o ddiffyg cydymffurfio dan sylw
- sicrhau bod yr wybodaeth a gaiff ei chyflwyno yn cael ei chyfleu mewn iaith glir a dealladwy ac yn cynnwys esboniad clir o fanylion perthnasol
- ategu unrhyw gasgliadau a barn â ffeithiau sydd o fewn eich maes arbenigedd
- cwblhau'r wybodaeth o fewn yr amserlen a gytunwyd
- cyflwyno digon o wybodaeth berthnasol a chywir i ategu'r achos
- darparu gwybodaeth i bobl berthnasol mewn fformatau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- manylion yr achos, gan gynnwys dyddiad, amser, unigolion, enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfiad a welwyd, gweithdrefn gyfreithiol
- ffynonellau gwybodaeth a sut i gael gafael arnynt
- beth sy'n cael ei ystyried yn dorri rheoliadau ac is-ddeddfau yng nghyswllt gwahanol fathau o systemau plymio
- y gwahanol fathau o risgiau sy'n cael eu creu gan amrywiol fathau o dorri rheoliadau a'r sancsiynau a’r cosbau a geir o ganlyniad i bob un
- gwahanol fathau o ddogfennau ategol
- terfynau arbenigedd personol
- pryd y mae angen darparu'r wybodaeth
- pa wybodaeth sy’n briodol i'w chyflwyno ar lafar a pha wybodaeth sy’n briodol i'w chyflwyno yn ysgrifenedig
- y fformatau y gellir cyflwyno gwybodaeth ynddynt, gan gynnwys yn ysgrifenedig, brasluniau, ffotograffau a sut mae strwythuro adroddiadau
- y sgiliau cyfathrebu o ran darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando
- yr angen am farn ddiduedd
- gofynion pobl eraill o ran gwybodaeth, gan gynnwys y rheolwr llinell a phersonél arbenigol
- fformatau rheoleiddiol a sefydliadol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth am ddiffyg cydymffurfio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Etifeddiaeth
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Enrergy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSWRBE2
Galwedigaethau Perthnasol
Crefftau Peirianegol ac Adeiladu, Y Gyfraith a gwasanaethau cyfreithiol, Arolygydd Dŵr
Cod SOC
3565
Geiriau Allweddol
dŵr; rheoliadau; is-ddeddfau; arolygiad