Darparu gwybodaeth i'w defnyddio mewn gweithdrefnau cyfreithiol
URN: EUSWFRBE4
Sectorau Busnes (Suites): Gorfodi Is-ddeddfau,Rheoliadau Ffitiadau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â darparu tystiolaeth i'w defnyddio mewn gweithdrefnau cyfreithiol pan mae cwsmeriaid wedi torri is-ddeddfau a rheoliadau ffitiadau dŵr.
Mae’n cynnwys paratoi gwybodaeth gyflawn, gynhwysfawr a chywir, ei strwythuro mewn ffordd resymegol a’i chyflwyno naill ai ar lafar i bobl yn y sefydliad neu yn ysgrifenedig.
Mae’r Safon hon ar gyfer arolygwyr is-ddeddfau a rheoliadau ffitiadau
dŵr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. canfod a chael gwybodaeth a dogfennau ategol sy'n berthnasol i'r enghraifft o ddiffyg cydymffurfio dan sylw
2. sicrhau bod yr wybodaeth a gaiff ei chyflwyno yn cael ei chyfleu mewn iaith glir a dealladwy ac yn cynnwys esboniad clir o fanylion perthnasol
3. ategu unrhyw gasgliadau a barn â ffeithiau sydd o fewn eich maes arbenigedd
4. cwblhau'r wybodaeth o fewn yr amserlen a gytunwyd
5. cyflwyno digon o wybodaeth berthnasol a chywir i ategu'r achos
6. darparu gwybodaeth i bobl berthnasol mewn fformatau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. manylion yr achos, gan gynnwys dyddiad, amser, unigolion, enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfiad a welwyd, gweithdrefn gyfreithiol
2. ffynonellau gwybodaeth a sut i gael gafael arnynt
3. beth sy'n cael ei ystyried yn dorri rheoliadau ac is-ddeddfau yng nghyswllt gwahanol fathau o systemau plymio
4. y gwahanol fathau o risgiau sy'n cael eu creu gan amrywiol fathau o dorri rheoliadau a'r sancsiynau a’r cosbau a geir o ganlyniad i bob un
5. gwahanol fathau o ddogfennau ategol
6. terfynau arbenigedd personol
7. pryd y mae angen darparu'r wybodaeth
8. pa wybodaeth sy’n briodol i'w chyflwyno ar lafar a pha wybodaeth sy’n briodol i'w chyflwyno yn ysgrifenedig
9. y fformatau y gellir cyflwyno gwybodaeth ynddynt, gan gynnwys yn ysgrifenedig, brasluniau, ffotograffau a sut mae strwythuro adroddiadau
10. y sgiliau cyfathrebu o ran darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando
11. yr angen am farn ddiduedd
12. gofynion pobl eraill o ran gwybodaeth, gan gynnwys y rheolwr llinell a phersonél arbenigol
13. fformatau rheoleiddiol a sefydliadol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth am ddiffyg cydymffurfio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Enrergy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSWRBE2
Galwedigaethau Perthnasol
Crefftau Peirianegol ac Adeiladu, Y Gyfraith a gwasanaethau cyfreithiol, Arolygydd Dŵr
Cod SOC
3565
Geiriau Allweddol
dŵr; rheoliadau; is-ddeddfau; arolygiad