Defnyddio trafodaeth, perswâd ac addysg i sicrhau cydymffurfiad ag is-ddeddfau a rheoliadau ffitiadau dŵr

URN: EUSWFRBE3
Sectorau Busnes (Suites): Gorfodi Is-ddeddfau,Rheoliadau Ffitiadau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â pherswadio ac addysgu pobl i gydymffurfio â deddfwriaeth, ac ysgogi gweithdrefnau gorfodi am beidio â chydymffurfio. 

Mae hyn yn golygu esbonio goblygiadau methiant i gydymffurfio, sefydlu cynllun ar gyfer cydymffurfio gyda chamau dilynol, drafftio a chyflwyno hysbysiadau tramgwyddo, ymateb i gwestiynau a Cheisiadau cwsmeriaid a chofnodi manylion perthnasol, gan gynnwys tystiolaeth o dramgwyddo.  

Mae’r Safon hon ar gyfer arolygwyr is-ddeddfau a rheoliadau ffitiadau 
dŵr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Sicrhau cydymffurfiad drwy drafod, dwyn perswâd ac addysgu

1. esbonio pwrpas y ddeddfwriaeth a chadarnhau bod y bobl berthnasol yn ei deall
2. gwneud datganiadau clir a chywir i bobl berthnasol ynglŷn â goblygiadau methu cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth
3. darparu gwybodaeth gywir am hyd a lled y ddeddfwriaeth a'r camau gweithredu y gellir eu cymryd i sicrhau cydymffurfiad 
4. esbonio bod penderfyniadau am orfodi’n cael eu gwneud ar sail digon o wybodaeth berthnasol a chywir, a gafwyd o fewn gweithdrefnau a pholisïau sefydliadol 
5. trafod a chytuno ar gynllun cydymffurfio a gweithgareddau dilynol gyda’r bobl berthnasol  
6. gwneud yn siŵr bod y bobl rydych chi'n trafod â nhw yn deall beth y mae angen ei wneud i sicrhau cydymffurfiad
7. cofnodi gwybodaeth gywir am fanylion a chanlyniad y trafodaethau a gafwyd â'r bobl berthnasol a'r hyn y cytunwyd arno  
8. mynd ar drywydd cynlluniau cydymffurfio ar yr adeg a bennwyd a chymryd camau perthnasol yn dilyn canlyniad ailarolygiadau 
 
Ysgogi a chyfrannu at weithdrefnau gorfodi

9. asesu'r risgiau sy’n gallu codi yn sgil torri is-ddeddfau a rheoliadau a chofnodi'r dystiolaeth yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy
10. cyhoeddi hysbysiadau tramgwyddo yn ddi-oed ac yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy 
11. esbonio dilysrwydd penderfyniadau i gwsmeriaid, drwy ddefnyddio tystiolaeth briodol sy’n gwahaniaethu’n glir rhwng ffaith a barn
12. rhoi adroddiad ar fanylion y gweithgareddau gorfodi i'r bobl berthnasol mewn fformat priodol
13. awgrymu newidiadau i systemau a gweithdrefnau a fydd yn eu gwella 
14. tynnu sylw'r bobl berthnasol at y tueddiadau sy'n dod i’r amlwg mewn materion cysylltiedig â pheidio â chydymffurfio.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Sicrhau cydymffurfiad drwy drafod, dwyn perswâd ac addysgu
1. rheoliadau ac is-ddeddfau perthnasol sy'n gymwys i Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban yng nghyswllt dylunio, gosod a chynnal a chadw systemau plymio, ffitiadau dŵr ac offer sy'n defnyddio dŵr
2. gweithdrefnau a phrosesau rheoleiddiol, sefydliadol, gweithredol a brys sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch a'r amgylchedd    
3. beth sy'n cael ei ystyried yn groes i ddeddfwriaeth yng nghyswllt systemau plymio gwahanol
4. pam ei bod yn bwysig gwneud yn siŵr bod pobl yn deall beth yw pwrpas deddfwriaeth
5. goblygiadau peidio â chydymffurfio, gan gynnwys goblygiadau syml, difrifol, ymarferol a logistaidd a goblygiadau o ran cost a risg 
6. sut i gyfathrebu â chwsmeriaid, contractwyr, plymwyr, unigolion a grwpiau
7. pam ei bod yn bwysig cadarnhau, cyn belled ag y bo’n ymarferol, bod rhywun perthnasol yn deall beth yw'r goblygiadau ac yn deall beth mae peidio â chydymffurfio â nhw’n ei olygu
8. sut mae cynnal trafodaethau mewn ffordd sy'n sicrhau gymaint â phosibl o ewyllys da a chydweithrediad a dealltwriaeth o weithdrefnau a pholisïau sefydliadol 
9. gwahanol fathau o risgiau sy'n cael eu creu gan amrywiol fathau o dorri rheoliadau a'r sancsiynau a’r cosbau y gellir eu rhoi
10. yr hyn y mae angen ei gynnwys yn y cynllun cydymffurfio, gan gynnwys cywiriadau er mwyn sicrhau cydymffurfiad yn y tymor byr ac yn barhaol  
11. sut mae penderfynu ar amserlenni derbyniol ar gyfer gweithgareddau dilynol
12. ffynonellau gwybodaeth ar gyfer y mathau o weithgareddau dilynol efallai y bydd angen i chi eu cynnal, gan gynnwys ymchwiliadau pellach, ailarolygiad, darparu dogfennau neu wybodaeth, cael dogfennau neu wybodaeth
13. y gofynion o ran cofnodi a'r posibilrwydd y bydd y cofnodion hynny’n cael eu defnyddio fel tystiolaeth os ceir achos cyfreithiol
14. technegau cyfathrebu a thrafod
15. camau i'w cymryd yn sgil ailarolygiadau
16. sut mae dod o hyd i ffynonellau gwybodaeth, pa fathau ydynt a sut i gael gafael arnynt
 
Ysgogi a chyfrannu at weithdrefnau gorfodi
17. gwahanol fathau o risgiau sy'n cael eu creu gan amrywiol fathau o dorri rheoliadau a'r sancsiynau a’r cosbau y gellir eu rhoi
18. beth sydd ynghlwm â chyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio ac ysgogi gweithdrefnau gorfodi a pha bryd y mae’n briodol gwneud hynny 
19. pam ei bod yn bwysig cofnodi tystiolaeth a dulliau o wneud hynny, a sut y defnyddir y dystiolaeth honno mewn achos cyfreithiol
20. gofynion sefydliadol o ran cwblhau hysbysiadau tramgwyddo 
21. pwy sydd angen yr wybodaeth hysbysu 
22. gweithdrefnau gorfodi 
23. gweithdrefnau cwyno sefydliadol a rheoleiddiol ac unrhyw ddogfennau sy’n angenrheidiol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Enrergy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSWFRBE3

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau Peirianegol ac Adeiladu, Y Gyfraith a gwasanaethau cyfreithiol, Arolygydd Dŵr

Cod SOC

3565

Geiriau Allweddol

dŵr; rheoliadau; ffitiadau; is-ddeddfau