Arolygu eiddo i weld a yw’n cydymffurfio â rheoliadau ac is-ddeddfau ffitiadau dŵr

URN: EUSWFRBE2
Sectorau Busnes (Suites): Gorfodi Is-ddeddfau,Rheoliadau Ffitiadau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud ag arolygu eiddo i wneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â rheoliadau ffitiadau dŵr cyfredol. Gall eiddo fod yn eiddo domestig neu annomestig, sy'n gallu cynnwys eiddo masnachol neu amaethyddol.  Gallai'r arolygiadau gynnwys arolygu gwaith contractwyr at ddibenion archwiliad.

Mae hyn yn cynnwys cytuno ar fanylion yr arolygiad gyda'r bobl gysylltiedig, cynnal arolygiad i benderfynu a yw’r eiddo yn cydymffurfio â rheoliadau a chofnodi a llunio adroddiad ar yr wybodaeth a geir yn sgil yr arolygiad. 

Mae’r Safon hon ar gyfer arolygwyr is-ddeddfau a rheoliadau ffitiadau 
dŵr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cytuno ar fanylion yr arolygiad

1. cadarnhau'r angen am arolygiadau arfaethedig, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2. cadarnhau manylion yr arolygiad, y gofynion o ran anghenion arbennig, gofynion mynediad ac unrhyw weithdrefnau a mesurau diogelwch y cytunir arnynt gyda’r bobl gysylltiedig 
3. nodi'r offer a allai fod yn angenrheidiol i fynd i'r afael ag ystyriaethau diogelwch ac i gynnal arolygiadau mewn modd diogel
4. dilyn canllawiau sefydliadol i sicrhau eich diogelwch personol wrth weithio ar eich pen eich hun
5. cadarnhau amser a dyddiad yr arolygiad ac am ba hyd y mae disgwyl iddo bara, ynghyd â chadarnhau pwy fydd yn bresennol yn yr arolygiad gyda'r rheini sy’n gysylltiedig

Penderfynu ar gydymffurfiad â'r rheoliadau

6. cyfathrebu â chwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
7. gwneud arsylwadau manwl i gadarnhau cywirdeb yr wybodaeth am eiddo a systemau, gan nodi unrhyw ddiwygiadau sydd i'w gwneud 
8. defnyddio offer mynediad a chyfarpar diogelu personol priodol wrth fynd i mewn i systemau
9. terfynu arolygiadau pan mae'r peryglon y deuir ar eu traws ac asesiadau o risg yn dangos y byddai parhau yn peri risg annerbyniol i chi ac i eraill, gan roi'r manylion i'r bobl berthnasol 
10. cynnal arolygiadau mewn modd diogel gyda chyn lleied â phosibl o darfu neu o ddifrod i eiddo  
11. delio ag unrhyw ddifrod sy'n cael ei achosi i eiddo yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
12. defnyddio gwybodaeth gywir i ganfod gosodiadau sy'n torri rheoliadau
13. cymryd camau perthnasol ar unwaith pan ystyrir bod yr enghraifft o dorri rheoliadau yn risg ddifrifol  
14. cynnig atebion a chamau y gellir eu cymryd i sicrhau cydymffurfiad
15. nodi unrhyw weithgareddau gwaith arfaethedig a allai effeithio ar gydymffurfiad yn y dyfodol

Cofnodi a rhoi adroddiad ar yr wybodaeth a gafwyd o'r arolygiad 

16. cofnodi manylion arolygiadau mewn ffordd sy'n cyd-fynd â gweithdrefnau sefydliadol, gan gynnwys unrhyw oblygiadau o ran arolygiadau yn y dyfodol
17. rhoi'r hysbysiad ffurfiol sy’n ofynnol i'r bobl berthnasol pan welir enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfiad â rheoliadau  
18. cytuno ar amserlen ar gyfer ailarolygiad gyda’r bobl berthnasol pan welir enghraifft o dorri rheoliadau
19. cadarnhau bod y bobl berthnasol yn deall goblygiadau gweld enghraifft o dorri rheoliadau
20. darparu gwybodaeth arolygu gywir a chyflawn i'r bobl berthnasol, yn unol â gofynion rheoleiddiol a sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cytuno ar fanylion yr arolygiad

1. y gofynion rheoleiddiol a'r gofynion archwilio o ran arolygiadau a'r cyfeiriadau at reoliadau a safonau eraill yn y rheoliadau
2. pam ei bod yn bwysig gwneud yn siŵr bod angen arolygiad
3. goblygiadau arolygiad i'r rheini sy'n cael eu harolygu 
4. darpariaethau statudol ar gyfer pwerau mynediad
5. ystyriaethau diogelwch sy’n codi yn sgil arolygiadau a’u goblygiadau
6. manylion arolygiadau, gan gynnwys dyddiad, amser, unigolion, diffyg cydymffurfiad a welwyd a'r weithdrefn gyfreithiol, ynghyd â phwy sydd eu hangen 
7. y gofynion cofnodi o ran arolygiadau

Penderfynu ar gydymffurfiad â’r rheoliadau

8. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cael mynediad a chynnal arolygiadau
9. sgiliau cyfathrebu
10. technegau ar gyfer rheoli gwrthdaro
11. ffynonellau gwybodaeth am eiddo a systemau i'w harchwilio, gan gynnwys gwybodaeth ysgrifenedig, gwybodaeth lafar, brasluniau a ffotograffau, a pham ei bod yn bwysig gwneud hyn 
12. sut mae dehongli diagramau dylunio gosodiadau  
13. gofynion rheoleiddiol o ran systemau a sut mae cymhwyso'r gofynion hynny i systemau plymio gwahanol
14. y risgiau sy'n gysylltiedig â systemau gwahanol, eu cymhlethdodau, y cyfarpar a ddefnyddir, a’r ffordd y mae systemau gwahanol yn rhyngweithio â’i gilydd
15. sut mae cynnal asesiad o risg – y peryglon sy'n gysylltiedig ag arolygiadau a beth fyddai'n cael ei ystyried yn risg ddifrifol neu annerbyniol a'r gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol i’r camau sydd i'w cymryd 
16. pwy i'w hysbysu os bydd arolygiad yn cael ei derfynu
17. defnyddio cyfarpar diogelu personol
18. arferion gweithio diogel ar gyfer arolygiadau a’r mathau o offer mynediad a allai fod eu hangen arnoch
19. canllawiau ar ddiogelwch personol wrth weithio ar eich pen eich hun
20. rhesymau pam y gallai fod angen tarfu ar eiddo neu beri difrod iddo a goblygiadau posibl gwneud hyn 
21. gweithdrefnau sefydliadol sy’n berthnasol i beri difrod i eiddo
22. yr hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn dorri rheoliadau yng nghyswllt gwahanol fathau o systemau plymio a’r rhan benodol o'r rheoliadau y byddent yn eu torri 
23. camau a fydd yn sicrhau cydymffurfiad, gan gynnwys atal halogi
24. dulliau, defnyddio dyfeisiau ôl-lifiad a ffitiadau eraill ac ym mha sefyllfaoedd y dylid eu defnyddio 
 
Cofnodi a rhoi adroddiad ar wybodaeth yr arolygiad

25. systemau cofnodi sefydliadol ar gyfer cydymffurfio a diffyg cydymffurfio
26. pa wybodaeth i'w diweddaru mewn cofnodion sefydliadol
27. pa bryd i ddarparu gwybodaeth i reolwyr llinell ac i bersonél arbenigol
28. y prosesau trefniadol i'w dilyn yng nghyswllt cydymffurfiad a diffyg cydymffurfiad
29. amserlenni realistig ar gyfer ailarolygiadau ac â phwy y dylid eu cytuno
30. yr hysbysiad ffurfiol gofynnol o ran cydymffurfio â rheoliadau a sut i'w gwblhau
31. categori’r eiddo, yn ôl gofynion rheoleiddiol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Enrergy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSWFRBE2

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau Peirianegol ac Adeiladu, Y Gyfraith a gwasanaethau cyfreithiol, Arolygydd Dŵr

Cod SOC

3565

Geiriau Allweddol

dŵr; rheoliadau; is-ddeddfau; arolygiad