Addysgu a gwella gwybodaeth rhanddeiliaid am ofynion cydymffurfio ffitiadau dŵr
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag addysgu a gwella gwybodaeth rhanddeiliaid am ofynion cydymffurfio ffitiadau dŵr. Gallai rhanddeiliaid fod yn osodwyr, dylunwyr, gweithgynhyrchwyr a chydweithwyr. Gallai addysg ddigwydd gydag unigolion neu grwpiau. Gellid ei chyflwyno o bell neu wyneb yn wyneb fel mewn sioeau amaethyddol, yn ystod cyrsiau coleg neu weithgareddau DPP strwythuredig, neu yn ystod cyfarfodydd tîm neu yn y cwmni.
Mae'n cynnwys nodi cyfleoedd addysg, cynllunio cynnwys priodol o ran addysg, darparu gwybodaeth ar lefel a chyflymder priodol, gwirio dealltwriaeth a hyrwyddo cyfleoedd i egluro a mynd ar drywydd hynny.
Mae’r Safon hon ar gyfer aelodau tîm cydymffurfio ffitiadau dŵr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi rhanddeiliaid yn fewnol ac yn allanol sy'n gallu dylanwadu ar arferion cydymffurfio ffitiadau dŵr, yn unol â strategaeth yr adran
- nodi a sicrhau cyfleoedd priodol i addysgu rhanddeiliaid dethol, yn unol â strategaeth yr adran
- datblygu amcanion dysgu sy'n bodloni gofynion gwybodaeth rhanddeiliaid
- cynllunio cynnwys addysg sydd o'r ehangder a'r lefel o fanylder technegol sy'n ofynnol gan randdeiliaid
- cyflwyno gwybodaeth am ofynion ffitiadau dŵr mewn ffordd glir a strwythuredig ac ar lefel a chyflymder sy'n briodol i'r gynulleidfa
- gwneud yn siŵr bod cynnwys ynghylch pwrpas, camau cydymffurfio a chydsyniad, gofynion deddfwriaeth ffitiadau dŵr a goblygiadau peidio â chydymffurfio yn gyfredol ac yn gywir
- uwchgyfeirio materion ar gyfer cyngor technegol ychwanegol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cyfleu manteision defnyddio contractwyr cymeradwy ar adegau priodol
- gwneud yn siŵr bod rhanddeiliaid yn deall yr wybodaeth a roddir a'u rôl mewn gweithgareddau cydymffurfio ar adegau priodol
- hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer camau dilynol neu eglurhad dilynol i randdeiliaid
- nodi a hyrwyddo dealltwriaeth o dechnolegau newydd a'u heffaith ar gydymffurfio â deddfwriaeth gyda rhanddeiliaid perthnasol
- defnyddio cyfryngau cymdeithasol perthnasol a hyrwyddo adnoddau ar-lein dibynadwy i addysgu a diweddaru rhanddeiliaid ar adegau priodol.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth berthnasol sy’n briodol i Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban sy’n ymwneud â dylunio, gosod a chynnal a chadw systemau plymio, ffitiadau dŵr a chyfarpar sy’n defnyddio dŵr
- manylebau rheoleiddiwr, safonau Prydeinig priodol a dulliau gosod cymeradwy gan gynnwys dyfeisiau Math BA (falfiau parth gwasgedd is) a’r hyn y mae’n rhaid i’r cwsmer roi gwybod amdano cyn ei osod
- gweithdrefnau a phrosesau rheoleiddiol, sefydliadol, gweithredol a brys sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch a'r amgylchedd
- sut i bennu goblygiadau rheoleiddio dŵr o system ddŵr, dyluniad cynnyrch neu gydran
- beth sy'n cael ei ystyried yn groes i ddeddfwriaeth yng nghyswllt systemau plymio gwahanol
- goblygiadau diffyg cydymffurfio ar iechyd y cyhoedd gan gynnwys peryglon iechyd bach, sylweddol a difrifol, ymarferoldeb effaith ariannol, logisteg
- gwahanol fathau o risgiau a achosir gan wahanol dramgwyddau, y camau a'r cosbau y gellir eu rhoi ar waith a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg mewn gweithgarwch cydymffurfio
- yr effaith y gall addysg gosodwyr, dylunwyr, gweithgynhyrchwyr a chydweithwyr ei chael ar ddylanwadu ar arferion da a chydymffurfio
- sut i ddehongli strategaeth addysgol sefydliadol am ofynion cydymffurfio
- yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer addysg a'r technegau rhoi gwybodaeth sy'n briodol i bob un
- dulliau i nodi gwybodaeth gyfredol am randdeiliaid
- sut i strwythuro gwybodaeth a chyfathrebu â gosodwyr, dylunwyr, gwybodaeth a chydweithwyr fel unigolion ac mewn grwpiau, wyneb yn wyneb ac o bell
- technegau ar gyfer cadarnhau dealltwriaeth a phwysigrwydd gwneud yn siŵr bod rhanddeiliaid yn deall yr wybodaeth a roddir
- yr adnoddau sydd ar gael i randdeiliaid gael gwybodaeth a diweddariadau yn y dyfodol mewn sefyllfaoedd unigol a grŵp
- gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud ag uwchgyfeirio ar gyfer cyngor technegol ychwanegol
- ffynonellau gwybodaeth am dechnolegau newydd a sut i asesu eu heffaith ar gydymffurfio â deddfwriaeth
- y gofynion o dan y ddeddfwriaeth gyfredol ar gyfer hysbysu ymlaen llaw a sut i hyrwyddo'r manteision i
- gwsmeriaid a rhanddeiliaid
- dulliau cymeradwy o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i addysgu a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am bolisïau a strategaethau sefydliadol
- adnoddau dibynadwy sydd ar gael ar-lein i randdeiliaid er mwyn eu helpu i ddeall a chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth
- technegau ar gyfer hyrwyddo defnyddio contractwyr cymeradwy