Monitro gwaith pobl a datrys problemau perthynol i waith sy’n effeithio ar allbynnau
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â monitro gwaith cyfleustodau a datrys problemau perthynol i waith sy’n effeithio ar allbynnau. Gallai pobl fod yn gyflogedig neu wedi’u his-gontractio a bod yn gweithio mewn un cyfleustod neu amgylchedd aml-gyfleustod.
Mae hyn yn cynnwys dyrannu gwaith a rhoi gwybodaeth i aelodau tîm, gwirio ansawdd gwaith, mynd i’r afael â pherfformiad gwael, nodi pan fydd prosesau, deunyddiau neu gyfarpar yn effeithio ar berfformiad, canfod neu argymell atebion, ymdrin â gwrthdaro ymhlith aelodau tîm, cydnabod cyflawniad a chadw cofnodion.
Mae’r Safon hon i bobl sy’n goruchwylio timau yn y sector cyfleustodau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i bennu gofynion ac amserlenni gwaith
2. sicrhau bod gan aelodau tîm ddogfennaeth ‘caniatâd i weithio’ ddilys a chyfredol
3. dyrannu gwaith i aelodau tîm yn unol â’u sgiliau, profiad, cymwysterau a hyfforddiant
4. rhoi gwybod i aelodau tîm am ddulliau gwaith disgwyliedig, amserlenni a manylebau technegol ar adegau priodol
5. gwirio cynnydd ac ansawdd gwaith mewn perthynas â manylebau technegol yn barhaus
6. rhoi adborth adeiladol a diymdroi i aelodau tîm am eu gwaith
7. rhoi’r cyfle i aelodau tîm drafod problemau gwirioneddol neu bosibl sy’n effeithio ar eu gwaith ar adegau priodol
8. cynnal trafodaethau ag aelodau tîm ar adeg ac mewn lle sy’n briodol i fath, difrifoldeb a chymhlethdod problemau
9. helpu aelodau tîm i nodi pan fydd problemau â phrosesau gwaith, deunyddiau neu gyfarpar yn effeithio ar allbynnau gwaith
10. casglu a gwirio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i ddadansoddi natur problemau gyda phrosesau gwaith, deunyddiau neu gyfarpar
11. addasu dulliau a chynlluniau gwaith o fewn eich lefel gyfrifoldeb i ddatrys problemau perthynol i waith
12. awgrymu atebion i bobl berthnasol i ddatrys problemau sydd y tu hwnt i’ch lefel gyfrifoldeb
13. rhoi gwybod i bob aelod tîm perthnasol am unrhyw newidiadau i ddulliau gwaith, prosesau, deunyddiau neu gyfarpar a fydd yn effeithio arno
14. nodi achos unrhyw wrthdaro mewn timau sy’n effeithio ar allbynnau gwaith ac ymdrin ag ef yn ddi-oed yn unol â phrosesau sefydliadol
15. adrodd i aelodau tîm ar adegau priodol am gynnydd neu lwyddo i gwblhau darnau sylweddol o waith neu weithgareddau gwaith
16. cadw cofnodion am broblemau a pherfformiad yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. ffynonellau gwybodaeth am ofynion gwaith
dulliau gwaith, prosesau gwaith ac amserlenni a gymeradwywyd
manylebau technegol ar gyfer gweithgareddau gwaith o dan eich rheolaeth
- sgiliau, gwybodaeth, arbenigedd, trwyddedau a chymwysterau sy’n ofynnol am weithgareddau gwaith
- dulliau cyfathrebu gan gynnwys sut mae sicrhau dealltwriaeth
- mathau o broblemau gwaith y gallai aelodau tîm ddod ar eu traws
- sut mae annog a galluogi trafodaeth agored
- sut mae nodi achosion problemau gwaith
- eich rôl a chyfrifoldebau wrth ymdrin â phroblemau aelodau tîm a sut mae penderfynu pan fydd problemau’n mynd y tu hwnt i’ch cymhwysedd a’ch cyfrifoldeb chi
- yr amrywiaeth o wasanaethau cymorth sy’n bodoli y tu mewn a’r tu allan i’ch sefydliad
- pwysigrwydd tegwch ac amhleidioldeb
- gofynion cyfrinachedd
- sut mae cymell aelodau tîm
- pryd mae’n briodol gofyn am adnoddau ychwanegol neu addasiadau i amserlenni gwaith
- yr effeithiau y gall gwrthdaro rhwng aelodau tîm eu cael ar weithgareddau gwaith
- sut mae adnabod gwrthdaro
- strwythurau adrodd
- gofynion cadw cofnodion
- gofynion sefydliadol a chyfreithiol sy’n berthnasol i weithdrefnau disgyblu a chwyno