Dyrannu a monitro’r defnydd o adnoddau a phobl ar gyfer gwaith cyfleustodau
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â dyrannu a monitro’r defnydd o ddeunyddiau, offer, cyfarpar, peirianwaith a phobl ar gyfer gwaith cyfleustodau. Gallai fod yn berthnasol i waith mewn un cyfleustod neu mewn amgylchedd aml-gyfleustod.
Mae’n cynnwys asesu manylebau swydd, sicrhau adnoddau, sicrhau bod adnoddau ar y safle pan eu bod yn ofynnol, cofnodi defnyddio adnoddau, caffael adnoddau ychwanegol neu amgen, lleihau a gwaredu gwastraff a storio neu ddychwelyd adnoddau.
Mae’r Safon hon i oruchwylwyr sy’n gyfrifol am ddyrannu a monitro’r defnydd o adnoddau a phobl yn eu maes cyfrifoldeb yn y sector cyfleustodau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. sicrhau bod manylebau swydd yn nodi’r holl adnoddau sy’n ofynnol i gwblhau’r gwaith
2. cwblhau ceisiadau am feintiau penodol o ddeunyddiau, peirianwaith, offer, cyfarpar neu beiriannau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
3. sicrhau safleoedd, offer, cyfarpar am y cyfnod y bwriedir i’r gwaith fynd rhagddo
4. sicrhau bod yr adnoddau’n cydymffurfio â gofynion ansawdd i gwblhau’r gwaith
5. dewis aelodau tîm â’r sgiliau, cymwysterau neu hyfforddiant priodol i weithredu peirianwaith, cyfarpar neu beiriannau a chwblhau tasgau gofynnol
6. trefnu bod adnoddau a staff penodedig yn eu lle mewn mannau gwaith
7. sicrhau bod adnoddau a staff yn cyrraedd yn y mannau gwaith mewn pryd i’r gwaith ddechrau
8. cadw cofnodion o ddefnyddio adnoddau a staff yn unol â gofynion sefydliadol
9. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i nodi hepgoriadau neu anaddasrwydd adnoddau neu staff
10. gwerthuso cost adnoddau neu staff ychwanegol neu amgen yn unol â gofynion diogelwch a chyllideb a’u perthnasedd i’r gwaith
11. rhoi gwybod i benderfynwyr am oblygiadau cost ac angen yr adnoddau neu staff ychwanegol neu amgen ar adegau priodol
12. cyfathrebu ag aelodau tîm gan ddefnyddio gweithdrefnau priodol am ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau a sut mae lleihau sgrap a gwastraff
13. sicrhau bod deunyddiau dros ben yn cael eu trin a’u diogelu mewn ffyrdd sy’n eu cadw mewn cyflwr i’w defnyddio yn y dyfodol
14. cofnodi ac adrodd am fanylion deunyddiau dros ben yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
15. sicrhau bod deunyddiau dros ben yn cael eu casglu a’u dychwelyd i’w storio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
16. sicrhau bod peirianwaith, cyfarpar neu beiriannau yn cael eu trin, eu cynnal a’u cadw a’u storio yn unol â gofynion gweithredol a statudol
17. sicrhau y gwaredir pob gwastraff yn y modd amgylcheddol a argymhellir ac yn unol â pholisïau a rheoliadau’r cwmni
18. rhoi gwybod i benderfynwyr yn ddi-oed pan nad oes angen peirianwaith, cyfarpar neu beiriannau rhagor
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. rheoliadau, gweithdrefnau a chanllawiau iechyd a diogelwch perthnasol sy’n berthynol ichi’ch hunain ac i eraill, dyletswydd gofal, sylweddau peryglus, cyfarpar diogelu personol (PPE), defnyddio cyfarpar a pheiriannau, lleoedd cyfyng, cloddiadau, peiriannau codi, codi a chario
fformat a chynnwys manylebau swydd
sut mae gwerthuso swydd a nodi gofynion adnodd
- cyllidebau sydd ar gael a sut mae cadw atynt wrth weithio
- ymhle mae cael gwybodaeth gost am adnoddau
- sut mae gwerthuso addasrwydd adnoddau
- manteision ac anfanteision cymaradwy llogi peirianwaith yn hytrach na bod yn berchen arno, gan gynnwys costau, cynnal a chadw, asedau a rhwymedigaethau
- sut mae paru sgiliau a chymwysterau â gofynion
- gofynion hyfforddiant a sut mae gweld a ydy aelodau tîm wedi’u hyfforddi
- dulliau a gweithdrefnau cyfathrebu a sut mae sicrhau bod eraill yn deall
- canllawiau gweithgynhyrchwyr ar gyfer cyfarpar, peirianwaith a deunyddiau
- safonau ansawdd sefydliadol a sut maent yn berthnasol i’r gwaith a wneir
- sut mae defnyddio adnoddau yn y modd mwyaf diwastraff
- pryd mae adrodd am broblemau sydd y tu hwnt i’ch arbenigedd neu awdurdod, a phwy ddylai gael gwybod amdanynt
- sut mae cyd-drafod a chael cymeradwyaeth i gael adnoddau ychwanegol
- gofynion storio dros dro a thymor hir ar gyfer deunyddiau 17. dulliau gwaredu gwastraff